Pen-y-bont: O'r cyfraddau uchaf i'r isaf yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pen-y-bontFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfradd achosion ym Mhen-y-bont wedi gostwng o 1,118.7 ym mis Rhagfyr i 4.1 erbyn heddiw

Mae sir yn ne Cymru - un o'r rhai gafodd ei tharo waethaf gan ail don Covid-19 - bellach â'r cyfraddau isaf o'r feirws trwy Gymru gyfan.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos mai 4.1 oedd cyfradd yr achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y saith diwrnod diweddaraf.

Ar ei huchaf dros y Nadolig, roedd y gyfradd yno yn 1,118.7.

Bryd hynny, dim ond Merthyr Tudful oedd â chyfradd uwch o holl siroedd Cymru.

Pan gafodd y cyfnod clo ei ailgyflwyno ar 20 Rhagfyr, roedd cyfradd achosion Covid-19 ym Mhen-y-bont bron i ddwbl y cyfartaledd ledled Cymru.

Ond mae achosion wedi gostwng yn ddramatig yno ers mis Ionawr.

'Pobl yn gwneud eu gorau'

Dywedodd Robert Morgan, meddyg teulu ym Mhen-y-bont, mai'r ffaith fod trigolion y sir wedi bod yn cadw at y rheolau y mae'r diolch am hynny.

"Mae hi wedi bod yn heriol iawn i gleifion trwy'r flwyddyn," meddai.

"O fy mhrofiad i, yn y mwyafrif o achosion mae cleifion wedi bod yn gwneud eu gorau i ddeall y rheolau a chadw at y rheiny.

"Unwaith mae'r feirws yn mynd dan do mewn lle bach, mae'n mynd i ledaenu, a dyw e ddim yn cymryd llawer o bobl er mwyn galluogi'r lledaeniad hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

303 o farwolaethau coronafeirws gafodd eu cofnodi yng Nghymru fis Ionawr - dros hanner rheiny ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae'r newid yn sefyllfa Covid-19 ym Mhen-y-bont wedi bod yn sylweddol - mae'r sir wedi bod â chyfradd is na'r cyfartaledd leded Cymru ers dechrau Chwefror bellach.

Yn ogystal â chael y cyfraddau isaf, 0.5% o'r holl brofion yn y sir sy'n cael canlyniad positif - y gyfran isaf yng Nghymru.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai'r gyfran fod yn is na 5% am gyfnod cyn y mae llywodraethau'n ystyried llacio cyfyngiadau.

Mae pob sir yng Nghymru yn is na'r trothwy hynny o 5% bellach.

'Colli nifer o gleifion'

Er y gwelliannau, roedd y gaeaf - pan oedd y cyfraddau ar eu huchaf - yn gyfnod anodd, ac fe wnaeth nifer yn y sir golli eu bywydau.

Cafodd 159 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yn y sir ym mis Ionawr - mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru.

303 o farwolaethau coronafeirws gafodd eu cofnodi trwy'r wlad fis Ionawr - dros hanner rheiny ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Helen Foley, meddyg teulu arall yn yr ardal: "Fe wnaeth un o'r cartrefi gofal rydyn ni'n gweithio gyda nhw golli mwyafrif eu cleifion.

"Fe wnaethon ni golli nifer o gleifion hŷn dros y gaeaf - oedd yn sefyllfa drychinebus.

"Mae cael hynny'n digwydd yn ofnadwy i'r gymuned - mae'r rhain yn bobl sydd â theuluoedd ac mae mor drist."