Gefeilliaid yn cael aduno wedi misoedd ar wahân
- Cyhoeddwyd
"Pan wnes i dreulio saith mis a hanner yn y groth gyda hi, doeddwn i ddim yn disgwyl 28 mlynedd yn ddiweddarach y byddwn i'n cael fy atal rhag ei gweld hi am yr un faint o amser!"
I Anwen Hayward o Gaerdydd, mae'r pandemig a'r cyfnodau clo wedi golygu ei bod wedi cael ei gwahanu oddi wrth ei gefaill, Aneira, am gyfnodau hir, a hithau'n byw yng ngogledd Lloegr.
Ond wrth i'r cyfyngiadau lacio, bydd modd croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr unwaith eto ddydd Llun, fydd yn golygu y bydd modd iddyn nhw gael aduniad.
"Mae'n anodd egluro i rywun sydd ddim yn efaill," meddai Aneira.
"Dydw i ddim yn credu fod pobl yn deall pa mor agos ydych chi - rydych chi'n mynd trwy bopeth yn eich bywyd ar yr un pryd, gyda'ch gilydd."
Ychwanegodd Aneira, sydd 12 munud yn hŷn nag Anwen, fod bod ar wahân wedi bod yn anodd, yn enwedig gan ei bod yn byw ar ei phen ei hun.
"Dydy llawer o bobl ddim yn deall pa mor unig y gall hynny deimlo - maen nhw'n dweud 'dydw i ddim yn poeni nad ydw i'n gweld fy mrawd neu chwaer'," meddai.
"Ond mae cael efaill yn wahanol am eich bod chi wedi rhannu popeth. Mae'n od peidio cael y person yna o gwmpas, yn enwedig pan ei bod hi'n gyfnod anodd yn feddyliol."
'Alla i ddim disgwyl'
Mae'r ddwy efaill 28 oed yn wreiddiol o Gaerdydd, ond wedi byw 300 milltir i ffwrdd o'i gilydd yn ystod y pandemig, ac mae cyfyngiadau ar draws y ffin yn golygu mai dim ond ychydig ddyddiau maen nhw wedi treulio gyda'i gilydd ers dros flwyddyn.
Fe wnaethon nhw dreulio eu pen-blwydd a'r Nadolig ar wahân, gan orfod addasu ac agor anrhegion gyda'i gilydd dros y we.
"Yr hyn rydw i'n edrych ymlaen at ei wneud fwy na dim ydy eistedd ar y soffa yn gwylio rubbish a chael amser da," meddai Anwen.
Ychwanegodd Aneira: "Yr eiliad rwy'n gallu mynd lawr i Gaerdydd mi wna i hynny - alla i ddim disgwyl."
Mae arolwg wedi canfod, o'r 3,800 pâr o efeilliaid gafodd eu holi yn y DU, dim ond 5.5% ohonyn nhw oedd yn byw gyda'u hefaill ar ddechrau'r pandemig.
Dywedodd Dr Kimberly Dienes, seicolegydd ym Mhrifysgol Abertawe, y gall effaith cael eu gwahanu am gyfnodau mor hir fod yn "enfawr" i lawer o efeilliaid.
"Maen nhw'n bobl sydd wedi arfer â bod yn gysylltiedig â rhywun arall yn emosiynol ac yn seicolegol," meddai.
"Os ydyn nhw'n cael eu hamddifadu o hynny, gall gael effaith enfawr ar eu lles cyffredinol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021