Pwyslais Diwygio UK ar 'leihau gwastraff cyhoeddus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill yw arweinydd plaid Diwygio UK yng Nghymru

Mae plaid Diwygio UK wedi lansio ei hymgyrch ar gyfer etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.

Dywed y blaid - oedd yn arfer galw ei hun yn Plaid Brexit - ei bod am leihau gwastraff mewn gwariant cyhoeddus drwy "synnwyr cyffredin".

Mae Diwygio UK o blaid cadw'r Senedd ond yn dweud y byddant yn newid y drefn o bleidleisio a'i gwneud yn un gwbl gyfrannol drwy system PR.

Maen nhw hefyd:

  • am leihau nifer y cynghorau sir yng Nghymru;

  • yn addo na fydd yna fwy o gyfnodau clo;

  • am gael gwared ar drethi busnes drwy gyflwyno treth ar-lein.

Dywedodd Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru: "Ar y cychwyn un o'r pethau mawr rydym am wneud yw diwygio'r Senedd, a newid y ffordd rydym yn cael ein llywodraethau yma yng Nghymru, diwygio'r cynghorau hefyd.

"Mae'r rhain yn bethau mae gwleidyddion wedi bod ofn eu gwneud a'u newid er eu bod wedi sôn am hyn.

"Rydym am fod yn rym sy'n caniatáu i hyn ddigwydd."

Mae Diwygio UK yn ymgeisio ym mhob un etholaeth yng Nghymru ac ym mhob un o'r rhestrau rhanbarthol.