Blwyddyn Jodie: Trin cleifion a chreu â chlai

  • Cyhoeddwyd
Jodie NealeFfynhonnell y llun, Mark Bourdillon/Love Productions

Mae Jodie Neale o Aberdâr wedi cael blwyddyn fawr.

Ynghyd â gweithio fel nyrs yn ystod cyfnod anhygoel o brysur y pandemig, mae hi hefyd wedi bod yn cystadlu mewn cyfres grochenwaith ar y teledu.

Ar ôl dim ond dwy flynedd o weithio â chlai, cafodd Jodie ei choroni'n fuddugol yn The Great Pottery Throw Down ar Channel 4.

Cafodd Jodie sgwrs â Cymru Fyw am y flwyddyn a fu a sut mae ei hobi wedi troi yn rhywbeth sydd wedi ei helpu i ddygymod â blwyddyn anodd.

Ffynhonnell y llun, Mark Bourdillon/Love Productions
Disgrifiad o’r llun,

The Great Pottery Throw Down: Jodie, ar y dde yn y rhes gefn, gyda'i chyd-gystadleuwyr, y beirniaid - Keith Brymer Jones a Rich Miller, a chyflwynydd y gyfres, Siobhán McSweeney

Cadw'r gyfrinach

Dim ond ei rhieni a'i brawd oedd yn gwybod fod Jodie wedi cael lle ar y gyfres boblogaidd, The Great Pottery Throw Down. Roedd hi a'i chyd-gystadleuwyr, y beirniaid a'r criw cynhyrchu, yn byw mewn swigen gyda'i gilydd er mwyn gallu ffilmio'r gyfres yn Stoke-on-Trent.

Roedd y llynedd yr amser perffaith i gadw'r gyfrinach, meddai. Gan nad oedd hi'n cael gweld llawer ar ei theulu, doedd yna neb wedi sylwi nad oedd hi wedi bod adref am 10 wythnos tra'i bod hi'n ffilmio!

"Do'n i ddim wedi gweld fy modryb am dros flwyddyn. Roedden ni ar Zoom, yn gwneud y cwisys... a doedd hi ddim yn gwybod mod i wedi mynd achos doedd hi ddim yn fy ngweld i beth bynnag.

"Ac wrth gwrs, do'n i ddim wedi dweud wrth neb am gyrraedd y ffeinal nag ennill chwaith, felly pan 'nath e ddigwydd, roedd hi'n llefen y glaw!"

Caru crochenwaith

Dim ond ers 2018 mae Jodie wedi bod yn gwneud crochenwaith, a hynny oherwydd ei bod hi'n chwilio am hobi newydd. Mae'n dweud nad oedd wedi dod yn hawdd iddi, ond mai dyna beth oedd yn ei hannog hi i gario 'mlaen.

"Doeddwn ni ddim yn wych am daflu clai pan es i i fy nosbarth cyntaf. Ond ro'n i wrth fy modd â'r broses.

Ffynhonnell y llun, Jodie Neale
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jodie wedi dyfalbarhau gyda'i chrochenwaith ac wedi gwella'n aruthrol

"O weld pobl eraill yn cyflawni gymaint 'da fe, o'dd e bach fel 'wel os y'n nhw'n gallu 'neud e, dwi am weithio'n galed a gwneud yn siŵr alla i 'neud e!'

"Dyw crochenwaith ddim jest yn greadigol, mae e'n sgil. A mae e'n sgil sydd ddim yn dod yn hawdd - mae e'n cymryd llawer o waith i fod yn dda o gwbl.

"Mae e'n gorfforol iawn, a galli di gael bach o adrenalin rush a 'chydig o rwystredigaeth pan dyw pethau ddim yn mynd cweit yn iawn.

"Pan mae e yn mynd yn iawn a ti wedi cyflawni rhywbeth, ti'n teimlo balchder bo' ti wedi gwneud job dda."

The Great Pottery Throw Down

Doedd Jodie ddim yn disgwyl ennill lle ar y gyfres sydd wedi magu mewn poblogrwydd yn ddiweddar. Mae hi wrth ei bodd â'r rhaglen ac fel y dywedodd hi, 'o'dd hi'n lockdown, felly pam lai?'

"Pan dwi'n edrych nôl nawr, dwi'n meddwl 'beth oedd arna i yn ymgeisio?!'" eglurodd. "O'n i wedi treulio dwy flynedd ar yr olwyn yn dysgu sut i wneud pethau syml, fel gwneud clawr i ffitio potyn, neu dynnu handlen a gwneud pig tebot - y mân hanfodion sydd yn ymddangos mor ddibwys ond dyna'r pethau ti'n dechrau 'da nhw.

"Felly ro'n i'n gallu gwneud y pethau bach, ond am y gweddill, gwneud pot o coils neu adeiladu â llaw... do'n i ddim wedi gwneud hynny o'r blaen, felly roedd e'n her.

Ffynhonnell y llun, Love Productions
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jodie yn gorfod taclo pethau llawer mwy nag oedd hi wedi arfer â nhw yn y gyfres

"Gyda'r taflu, ro'n i'n gwybod beth o'n i'n gallu ei greu, ond wrth adeiladu â llaw, hanner yr amser o'n i wir ddim yn siŵr os fydden i'n gallu ei gwblhau. Ond mae'n anhygoel beth alli di ei wneud pan mae 'na gamerâu arnat ti!

"Roedd y criw i gyd yn hyfryd, ac roedden nhw ar dy ochr di. Wrth gwrs, roedden nhw yno yn dal y pethau oedd bach yn wobbly, ond tu ôl i'r sgrin, y cwbl oedden nhw eisiau oedd i ti lwyddo."

Ysbrydoliaeth o Gymru

Yn wreiddiol o Dreherbert, y Rhondda, a bellach yn byw yn Aberdâr, roedd blas Cymreig ar nifer o'i chreadigaethau yn ystod y gyfres, fel y teils lle gerfiodd olygfeydd o'r Cymoedd iddyn nhw, a'r llestr lle paentiodd atgofion o ymweld â marchnad Pontypridd ar y trên gyda'i mam-gu, i brynu pice ar y maen.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan The Great Pottery Throw Down

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan The Great Pottery Throw Down

Dim bwriad mawr oedd hyn, meddai, ond rhywbeth hollol naturiol oherwydd pwy ydi hi.

"Pan roedden nhw'n fy rhoi i on the spot, ac roedd rhaid iddo fe fod yn bersonol, yr unig beth o'n i'n gallu meddwl amdano fe, wrth gwrs, oedd fy hunaniaeth," meddai Jodie. "A phan oedden nhw eisiau rhywbeth oedd yn fy nghynrychioli i, dyna'n amlwg beth o'n i'n troi ato; y diwydiant glofaol a'r pwll glo, a thai teras y Rhondda, merched Cymreig, y traciau trên i farchnad Ponty.

"Dyw'r Cymoedd ddim yn rhan fawr o fy mywyd... dyna yw fy mywyd."

Ffynhonnell y llun, Jodie Neale
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jodie wrth ei bodd yn creu modelau o ferched Cymreig, er eu bod nhw'n cymryd llawer o waith a llawer o ganolbwyntio!

Pandemig

Nyrs ydi Jodie wrth ei galwedigaeth, ac mae crochenwaith wedi bod yn weithgaredd i dynnu meddwl oddi ar flwyddyn sydd wedi bod yn un ofnadwy o anodd i holl staff y GIG, meddai.

"Roedd y pandemig, fel gall pawb ddychmygu, wedi ein bwrw yn galed. Yn amlwg, gawson ni gefnogaeth y cyhoedd, oedd yn hyfryd achos oedd e'n gwneud gwahaniaeth.

"Dwi'n meddwl fyddai pawb sy'n gweithio i'r GIG yn dweud ei fod e wedi bod yn ofnadwy. Dwi ddim yn meddwl fod neb wedi disgwyl rhywbeth fel yma i ddigwydd yn ein gyrfa.

"Oherwydd fy sgiliau fel scrub nurse, o'n i'n gallu gofalu am bobl ddifrifol sâl - ac roedden ni'n mynd i'r ICUs ac yn helpu cleifion yna, felly roedd hi'n newid mawr i ni. Ti'n gwneud beth wyt ti'n gorfod ei wneud.

"Mae crochenwaith wir wedi helpu. Ti'n mynd i'r gwaith, yn dod adref ac mae dy ben di'n orlawn.

"Pan dwi'n mynd mas i'r sied, dwi methu meddwl am ddim arall achos mae'n rhaid i mi ganolbwyntio. Yr eiliad ti'n tynnu dy sylw, mae'r pot 'na am syrthio i'r llawr!"

Ymarfer a gwella

Nawr, â chyfrinach ei buddugoliaeth wedi cael ei datgelu, mae Jodie yn gallu ymlacio ychydig. Ond nid oes stop ar ei gwaith â chlai yn ei gweithdy yn yr ardd, wrth iddi barhau i arbrofi ac ymarfer er mwyn gwella ei sgiliau.

"Yn amlwg, o'n i wrth fy modd i ennill Throw Down, ond mae gen i lawer i'w ddysgu. Mae crochenwaith yn ddisgyblaeth eang iawn.

"Dwi wedi dechrau gwneud crochenwaith raku. Ges i nghyflwyno iddo fe ar y rhaglen ac mae wedi cymryd gafael ynddo fi! Dwi wedi gwneud odyn o fin sbwriel, sy'n gweithio'n grêt. Ti ddim angen offer ffansi - dim ond potel o nwy a bin!

Ffynhonnell y llun, Jodie Neale
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o botiau Jodie sydd wedi eu creu yn null raku - lle mae deunyddiau fel plu, blew a llwch lli yn cael eu rhoi ar grochenwaith fflamboeth, er mwyn creu patrymau a lliwiau anarferol

"Dwi jest am gario 'mlaen i ddysgu, dyna fy mhrif nod.

"Bob tro dwi'n mynd i'r sied 'na, dwi jest eisiau gwella fy hun ychydig bach mwy."

Hefyd o ddiddordeb: