Cyfle i blant farddoni am Bale ar y bêl yn yr Euros
- Cyhoeddwyd

Carfan Cymru'n dathlu cyrraedd Pencampwriaethau Euro 2020
Mae cystadleuaeth arbennig, dolen allanol wedi cael ei lansio i ddathlu'r ffaith bod tîm Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol pendampwriaeth Euro 2020.
Cymdeithas BêI-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru yw'r trefnwyr ac maen nhw'n gwahodd plant oedran cynradd i gyflwyno cerddi, yn Gymraeg neu Saesneg, ar y thema hunaniaeth.
Bydd dau o bêl-droediwr rhyngwladol Cymru ar y panel beirniadu, a bydd yr holl gerddi buddugol yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr Cymru cyn eu gêm agoriadol yn Euro 2020.
Mae capten Cymru, Gareth Bale yn dweud ei fod yn "edrych ymlaen at ddarllen y ceisiadau".
Ychwanegodd: "Mae'n wych bod presenoldeb Cymru yn rowndiau terfynol Euro 2020 nid yn unig yn ysbrydoli ac yn annog plant i fynegi eu hunain ar y cae pêl-droed, ond hefyd drwy ysgrifennu barddoniaeth."

Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn ystod llwyddiant rhyfeddol Cymru yn Euro 2016
Un o'r beirniaid eraill yw Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
Cystadlodd yntau dan y ffugenw Hal Robson-Kanu i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ar ôl cael ei ysbrydoli gan lwyddiant y tîm cenedlaethol yn rowndiau terfynol Euro 2016.
"Gall unrhyw un ysgrifennu barddoniaeth - does dim rheolau," meddai. "Dwi eisiau i bob plentyn deimlo eu bod nhw'n gallu rhoi cynnig arni a chael hwyl, dyna'r peth pwysicaf."

Dywed KIzzy Crawford bod geiriau a cherddoriaeth wedi ei helpu hithau i archwilio'i hunaniaeth
Beirniaid eraill yw'r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford, sydd wedi perfformio yn nigwyddiadau CBD Cymru, gan gynnwys parti yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn dathlu llwyddiant Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2016.
"Ers yn ddim o beth, dwi wedi defnyddio geiriau a cherddoriaeth i archwilio a herio fy hunaniaeth fy hun," meddai.
"Fel artist hil gymysg o Gymru, dwi'n llawn cyffro i fod yn rhan o'r gystadleuaeth hon a fydd yn annog plant i archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw."
Y beirniad olaf yw Children's Laureate Wales, Eloise Williams.
Dywedodd bod y gystadleuaeth yn "gyfle gwych i blant Cymru herio eu hunain ac arddangos eu creadigrwydd", a'i bod yn rhagweld "cyfoeth o dalent a gonestrwydd yn eu geiriau".
Rhys Ifans yn tanio'r emosiynau ar drothwy taith Cymru yn Euro 2016
Mae'r trefnwyr yn annog yr ymgeiswyr "i fod yn wreiddiol [ac] i ysgrifennu o'r galon", gan "ddehongli ddehongli'r thema Hunaniaeth mewn unrhyw ffordd y maent yn dymuno". Does dim rhaid i'r cerddi fod yn ymwneud â phêl-droed.
Cafodd y gystadleuaeth ei lawnsio ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ac fe fydd yna sylw iddi ar y ddwy orsaf wrth iddi ddatblygu.
Mae'n agored i blant blwyddyn 6 ac iau sy'n byw yng Nghymru, ac mae'n rhaid i athro, rhiant neu warchodwr gyflwyno'r cerddi ar eu rhan. Dydd Iau 20 Mai yw'r dyddiad cau.
Mae'r gwobrau i'r enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn crys pêl-droed Cymru a chopi o'u cerdd, y ddau wedi'u llofnodi gan garfan Euro 2020, a gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise Williams neu Gruffudd Owen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2016