'Os yw diwylliant yn beth sych ar bapur nid oes gobaith iddo ffynnu'

  • Cyhoeddwyd
dylan owen

Yn ystod yr 1990au roedd Huw Dylan Owen yn canu gyda'r grwpiau poblogaidd Defaid a Gwerinos tra'n byw yn Nolgellau, y dre lle cafodd ei fagu.

Mae bellach yn byw yn Abertawe ers dau ddegawd, ac yn parhau i gyfansoddi a pherfformio. Mae Dylan yn credu bod gan farddoniaeth ran bwysig i'w chwarae o fewn cerddoriaeth, ac y gall artistiaid o ddiwylliannau tramor ddylanwadu ar sîn gerddorol Cymru.

Yma cawn flas ar y dylanwadau cerddorol a fu'n rhan o daith Dylan o Feirion i Dreforys, ac yn ysbrydoliaeth i'w albwm newydd, yn ei eiriau ei hun.

Bu'r daith o Feirion i Dreforys yn un gerddorol droellog.

Ambell i gam tua'r byd gwerin traddodiadol, yna ambell i naid yn ôl at fyd roc a pync, cyn troelli tuag at gerddoriaeth byd, rap a seiniau anthemig o Wlad yr Iâ. Pwy feddyliai y gallai taith fywyd drwy Gymru arwain at amrywiaeth o'r fath?

Ond, un peth sydd wastad wedi taro deuddeg i mi yw caneuon sydd â geiriau gafaelgar, grymus. I mi, mae'n hanfod o'n Cymreictod.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn perfformio gyda Y Defaid yn Yr Albert, Caernarfon, 1988

O ystyried cyfoeth y traddodiad barddol yng Nghymru mae'n syndod fod cyn lleied o'n cerddorion wedi manteisio ar y gynghanedd a'r mesurau Cymraeg dros y deugain mlynedd diwethaf.

Bu ambell eithriad haeddiannol, wrth gwrs, gyda mynegiant iasol Gareth Sion gyda'r Jecsyn Ffeif yn fyw yn y cof, yn ogystal â geiriau Tecwyn Ifan a Bob Delyn. Ac roedd awen rhai fel y Cyrff a Steve Eaves yn cyd-blethu cerddi a cherddoriaeth i ni yn aml.

Dwi'n cofio Lou Reed yn datgan mewn cyfweliad, tra'n hyrwyddo ei albwm farddonllyd wych, New York, ei bod yn drueni na fyddai mwy o gerddorion yn ceisio dyrchafu geiriau'r caneuon yn ogystal â'r gerddoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn nyddiau cynnar ei siwrne gerddorol, 1987

Roedd dylanwad Lou Reed a'i ganu-hanner-llefaru (ond nid rap) yn drwm. Arweiniodd hynny at fwynhau John Trudell, yr Americanwr brodorol, oedd yn cân-lefaru ei gerddi am hawliau llwythau cynhenid yr Amerig.

Yn Lloegr datblygodd yr arddull ymhellach wrth i'r Blue Aeroplanes lafarganu cerddi Sylvia Plath ac eraill i gyfeiliant cerddoriaeth roc melodig. Ond er yr ymgais i ail-ddarganfod 'canu pen-pastwn', y rap Cymreig, ni ddatblygodd y genre Rap Traddodiadol.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Band a oedd yno ar ddechrau'r Sesiwn Fawr, Gwerinos. O'r chwith i'r dde; Ywain Myfyr, Elfed ap Gomer, Emlyn Gomer, Dan Morris, Tony Hodgson a Huw Dylan Owen. Llun o 1992.

Ges i fy magu yn Nolgellau. Ac er nad oeddwn yn ymwybodol o'r peth tra'n byw yno, fel yr esboniais yn fy nghyfrol Sesiwn yng Nghymru, roedd y diwylliant gwerin traddodiadol o fy nghwmpas ymhobman.

Yno roedd Gŵyl Werin Geltaidd, Côr Gwerin y Gader, cantorion a cherddorion cerdd dant, y grŵp gwerin Cilmeri, twmpathau dawns, ac wrth fynd ychydig yn hŷn, mwynhad nosweithiau'r sesiynau gwerin wythnosol yn nhafarn y Stag.

Ond roedd hi'n amlwg hefyd nad oedd y diwylliant hwn yn derbyn yr un gefnogaeth â'r byd gwerin yn yr Alban a'r Iwerddon. Yno roedd cerddoriaeth werin-roc yn dderbyniol a phoblogaidd, tra yng Nghymru peth anarferol ac eithriadol iawn oedd clywed alaw werin neu gân werin ar y radio.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Yn perfformio gyda Gwerinos, 1993

Yr egwyddor pync o 'wneud o dy hun' wnaeth i mi fynd ati o'r diwedd a recordio'r traciau, a naturiol oedd cyfuno'r cyfan ar gyfer yr albwm, O Feirion i Dreforys.

'Nes i drio rhoi gwedd grŵp roc ar alawon gwerin traddodiadol gyda'r gitâr drydan yn hawlio lle blaenllaw; caneuon gwerinol ar ffurf baledi cyfoes; a chynnig ar ddehongliadau yn y dull llafarganu o gywydd Dafydd Wyn Jones, englynion Gerallt Lloyd Owen, a rhai o'm cerddi fy hun.

Braf oedd cyd-weithio gyda fy merched, Heledd a Mirain, ar yr albwm wrth iddyn nhw gyfrannu lleisiau cefndir ac ambell offeryn at y traciau.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn perfformio gyda'i ddwy ferch, Heledd a Mirain

Os yw diwylliant yn beth sych ar bapur nid oes gobaith iddo ffynnu. Mae'n rhaid wrth hwyl, egni a lliw; mae'n rhaid wrth fynediad hawdd ato; mae angen iddo fod yn gynnil a bywiog; ac mae'n hollbwysig deall mai'r alawon a'r cerddi sy'n bwysig, ac nid pa offeryn a genir na pha ddillad a wisgir wrth berfformio.

Gwn nad yw pawb yn gytûn ac eisoes derbyniais neges gan un cylchgrawn gwerin cenedlaethol yn gwrthod adolygu'r CD gan nad oedd, yn nhyb y golygydd, yn yr arddull 'gwerin'.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dylan barhau i berfformio wedi iddo symud i dde orllewin Cymru, fel yma yn Tyrfa Tawe, 2010

Roedd sesiynau gwerin traddodiadol rheolaidd yn Nolgellau. Mae sesiynau gwerin traddodiadol yn Abertawe (neu mi roedd cyn Y Gofid Mawr).

Euthum ar daith hir a dwyn elfennau roc, rap, ac ôl roc. Datblygodd y cyfan ac esblygu, ond roedd y Cymreictod yno o hyd. Yr un elfen ddisymud, ddi-ildio.

Ffynhonnell y llun, Huw Dylan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Alltud Pontardawe, 2010

Ar hyd heol hudolus - am ennyd

dymunaf eich tywys;

o fro i fro dewch ar frys

o Feirion i Dreforys.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig