Etholiad y Senedd: Beth mae 'swyddi gwyrdd' yn ei olygu?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Fferm solarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddi gwyrdd yn golygu mwy nag ynni adnewyddadwy yn unig erbyn hyn

Mae maniffestos y pleidiau ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf yn llawn cyfeiriadau at "swyddi gwyrdd" ac "adferiad gwyrdd", ond beth yn union mae hynny'n ei olygu?

Roedd y term "gwyrdd" yn arfer cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ynni adnewyddadwy fel ffermydd gwynt a phaneli solar.

Ond nawr mewn ymdrech i leihau ein defnydd o garbon oherwydd newid hinsawdd, mae'r term "swyddi gwyrdd" yn cael ei ddefnyddio yn llawer ehangach.

Beth yn union mae'r pleidiau yn ei olygu pan maen nhw'n sôn am swyddi o'r fath?

Adeiladu â deunyddiau lleol

Un prosiect sy'n enghraifft dda o swyddi gwyrdd ydy Down to Earth yng Ngŵyr, sy'n defnyddio pren Cymreig a gwlân i adeiladu tai sy'n rhad i'w cynnal.

Yn ddiweddar maen nhw wedi adeiladu chwe thŷ ar gyfer cymdeithas dai leol - oll yn defnyddio deunyddiau lleol ac oll yn cyfrannu tuag at ei gostau ei hun gyda phaneli solar.

Dywedodd y cyfarwyddwr, Mark McKenna: "Mae'r ffrâm strwythurol wedi'i wneud o goed Cymreig ac mae mwy o goed lleol trwy'r adeilad - a gwlân defaid sy'n cael ei ddefnyddio i'w inswleiddio.

"Mae'r ffordd y mae'n cael ei adeiladu yn creu swyddi, ac mae pob swydd yn y gadwyn gyflenwi yna'n swyddi gwyrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark McKenna fod cadwyn gyflenwi Down to Earth oll yn swyddi gwyrdd

Y sector ynni adnewyddadwy sy'n dod i'r meddwl pan yn trafod swyddi gwyrdd, ond mae'r mwyafrif o'r swyddi yn y diwydiant hwnnw yn rhai adeiladu, ac felly swyddi dros dro ydyn nhw.

Mae'r effaith economaidd hefyd yn aml yn gadael Cymru, fel yn achos y fferm wynt fwyaf yng Nghymru - Pen y Cymoedd.

Er bod y cwmni sy'n berchen arni, Vattenfall, yn rhoi £1.8m y flwyddyn i gronfeydd lleol, mae'r elw yn mynd i'r cwmni yn Sweden.

Beth mae'r pleidiau'n ei addo o ran 'adferiad gwyrdd'?

  • Llafur Cymru - cynllun 10 mlynedd ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd er mwyn creu economi di-garbon;

  • Ceidwadwyr Cymreig - pob tŷ newydd yn garbon niwtral erbyn 2026, a chreu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyflym i geir trydan;

  • Plaid Cymru - buddsoddi £6bn gan greu 60,000 o swyddi gwyrdd dros y bum mlynedd nesaf;

  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig - gwario £1bn y flwyddyn ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae'r hyn sy'n cael ei alw'n "economi werdd" yn tyfu'n sydyn, ac mae nifer o gwmnïau mewn sectorau traddodiadol yn newid y ffordd maen nhw'n gweithio a'r hyn maen nhw'n ei wneud oherwydd hynny.

Dywedodd Michelle T Davies, pennaeth ynni glan a chynaliadwyedd yng nghwmni cyfreithiol Eversheds Sutherland yng Nghaerdydd, bod cyfleoedd i gwmnïau o Gymru wrth i fusnesau leihau eu defnydd o garbon.

Ffynhonnell y llun, Eversheds Sutherland
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Michelle T Davies mae angen i gwmnïau o Gymru gymryd mantais o ddatgarboneiddio

"Yr hyn sy'n rhaid i ni sicrhau ydy bod y swyddi yn cael eu creu yng Nghymru, nid rhywle arall," meddai.

"Beth sy'n allweddol i Gymru ydy bod yr arbenigedd yno i gynnig y gwasanaethau datgarboneiddio fydd eu hangen - mae angen i'r arbenigedd yna gael ei gynnig o fewn Cymru.

"Os nad ydy cwmnïau yn dechrau meddwl am hyn yna fe fydd hi'n anodd iawn iddyn nhw ddal lan."

Un cwmni sydd ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd ydy Riversimple yn Llandrindod, sydd wedi datblygu car sy'n rhedeg ar hydrogen.

Ar hyn o bryd mae'n cyflogi 30 o bobl ond bydd hynny'n cynyddu i o leiaf 220 erbyn 2024 pan fydd y ceir yn dechrau cael eu creu ar lefel fasnachol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hugo Spowers yn gobeithio cael pum ffatri yng nghefn gwlad Cymru fydd yn adeiladu'r ceir o fewn saith mlynedd

"Timau o weithwyr sydd â llawer o sgiliau yw'r rhain - nid peiriannau fydd yn gwneud popeth," meddai sylfaenydd y cwmni, Hugo Spowers.

"Rydyn ni angen sgiliau trydanol a sgiliau meddalwedd i adeiladu'r ceir yma.

"Yn bendant mae gennym ddigon o arbenigedd yng Nghymru i wneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud, ond yn bendant mae angen mwy o waith er mwyn cael mwy i allu gwneud y math yma o waith."

Dyna'r her i lywodraeth nesaf Cymru felly - buddsoddi er mwyn cymryd mantais o'r cyfleoedd wrth i'r economi newid, ond mae hefyd angen hyfforddiant ac addysg er mwyn sicrhau bod gan y gweithlu yma'r sgiliau sydd eu hangen.