Holi gweithiwr wnaeth weini alcohol i ASau yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweithiwr wnaeth weini alcohol i Aelodau o'r Senedd ddiwrnodau wedi i waharddiad ar draws Cymru ddod i rym yn wynebu ymchwiliad swyddogol wedi honiadau ei bod wedi torri rheoliadau Covid.
Ar 8 Rhagfyr y llynedd fe wnaeth pedwar Aelod o'r Senedd yfed alcohol yn ystafell de y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad ddod i rym ar werthu, cyflenwi ac yfed alcohol ar dir trwyddedig.
Fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo fel arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi'r digwyddiad.
Mae swyddogion trwyddedu y cyngor bellach wedi gorchymyn bod y ferch wnaeth weini'r alcohol yn cael ei chyfweld yn swyddogol o dan rybudd troseddol.
Cwmni arlwyo Charlton House sydd â'r drwydded alcohol yn ystafelloedd te y Senedd ac mae nhw'n cyflogi'r ferch wnaeth weini alcohol i'r ASau.
Fe wnaeth ymchwiliad Comisiwn y Senedd ganfod fod pum unigolyn - pedwar ASau a phennaeth staff y Ceidwadwyr ar y pryd - wedi yfed alcohol yn ystafell de'r Senedd ar 8 Rhagfyr.
Y pedwar AS oedd Paul Davies, Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies.
Bedwar diwrnod ynghynt fe ddaeth gwaharddiad ar weini alcohol i rym mewn tafarndai ac eiddo trwyddedig ar draws Cymru a nodwyd y gallai'r digwyddiad yn y Senedd fod wedi mynd yn groes i reoliadau Covid-19.
Cafodd y mater ei gyfeirio at bwyllgor gwarchod safonau y Senedd a Chyngor Caerdydd.
Deallir bod y gwasanaethau rheoleiddiol sy'n ymchwilio i dorri rheolau Covid yn ardaloedd y tri chyngor - sef Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont - wedi ysgrifennu at ferch sy'n gweithio i'r cwmni arlwyo yn gofyn am gyfweliad swyddogol o dan rybudd troseddol.
Mewn llythyr ati gwahoddir hi am gyfweliad swyddogol a nodir bod modd iddi anfon ateb ysgrifenedig wedi trafodaethau gyda'i chyfreithiwr.
Mae'n cael ei hysbysu hefyd bod nifer o gwestiynau ynghlwm wrth y llythyr ac ei bod hi'n bosib y bydd yna achos troseddol.
Mewn prif lythrennau nodir nad oes rhaid iddi ddweud dim ond fe allai hynny amharu ar ei hamddiffyniad petai yna achos llys.
Mae Comisiwn y Senedd wedi gwrthod â gwneud sylw.
Mewn datganiad dywedodd arlwywyr Charlton House wrth BBC Cymru: "Ry'n yn parhau i gydweithredu â'r ymchwiliad ond gan ei fod yn parhau dyw hi ddim yn addas i ni wneud sylw ond fe allwn gadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal."
'Siomedig'
Daeth datganiad ar ran Darren Millar a Paul Davies o'r Ceidwadwyr.
Dywedodd: "Rydym ein dau yn siomedig iawn bod Cyngor Caerdydd wedi penderfynu gweithredu fel hyn, mae'n affwysol annheg i gosbi aelod o staff yn y modd yma.
"Rydym wedi cydweithredu'n llawn gyda'r awdurdodau, ac wedi ei gwneud yn glir ar bob cam nad oedd bai ar yr aelod o staff.
"Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi adroddiad y Comisiynydd Safonau fel mater o frys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021