Propel: 'Angen i'r Senedd weithio i bobl Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Neil McEvoy: 'Nid oes gan ddatganoli Cymru stori wych hyd yn hyn'

Mae angen i'r Senedd "fagu hyder ymysg y cyhoedd" y gall Cymru redeg ei materion ei hun, yn ôl arweinydd plaid Propel.

Dywedodd Neil McEvoy fod angen i wleidyddion ym Mae Caerdydd wneud i'r Senedd "weithio i bobl Cymru, yn lle buddiannau breintiedig".

Mae Propel yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ond dywedodd Mr McEvoy nad oes gan ddatganoli "stori wych hyd yn hyn".

Mae'r blaid hefyd yn galw am ddod â chyfyngiadau clo i ben ar unwaith.

'Pobl yn mynd trwy uffern'

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd Mr McEvoy fod cloeon hir "yn gwneud mwy o ddrwg nag o les ac rydym mewn sefyllfa nawr lle mae'r GIG wedi cyfaddef ei fod bum mlynedd ar ei hôl hi".

Ychwanegodd: "Pe byddem wedi rhoi cynnig ar glo difrifol iawn yn y cychwyn cyntaf, efallai y byddai hynny wedi gweithio o bosib.

"Ond rydyn ni wedi cael y gwaethaf o bob byd, ac mae gennych chi bobl yn mynd trwy uffern ar hyn o bryd."

Mae Propel yn cynnig "sefydlu cwmni ynni cenedlaethol o Gymru" gyda'r bwriad o ddefnyddio hen gaeau glo i gynhyrchu nwy er mwyn disodli'r defnydd o nwy tramor, sydd wedi'i fewnforio.

"Bydd y biliynau o bunnoedd o refeniw a gynhyrchir yn cael eu defnyddio i greu cronfa cyfoeth sofran ac i sicrhau annibyniaeth ynni tymor hir trwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy," ychwanega'r blaid.

Ychwanegodd Mr McEvoy: "Byddai'r arian, wrth gwrs, yn cynhyrchu swyddi, yn dod â ffyniant yn ôl i rai cymunedau cymoedd dinistriol ond, yn fwy na hynny, gallai ariannu chwyldro wrth gynhyrchu ynni trwy fod yn 100% adnewyddadwy yn y dyfodol."

Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru y byddai echdynnu methan o wely glo "yn ffynhonnell newydd beryglus o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn cynyddu effeithiau hinsawdd Cymru - gyda methan dros 20 gwaith yn fwy grymus na charbon deuocsid hyd yn oed".

Ond dywedodd Mr McEvoy y mwy o ôl troed carbon drwy "fewnforio nwy a gynhyrchir mewn llefydd fel Qatar".

"Nid yw'n gwneud synnwyr economaidd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr amgylcheddol," ychwanegodd.

Etholwyd Mr McEvoy i Senedd Cymru yn 2016 ar ran Plaid Cymru, ond cafodd ei ddiarddel o'r blaid yn ddiweddarach.

Mae Propel yn rhoi ymgeiswyr mewn 11 o'r 40 etholaeth ac ym mhob un o'r pum rhanbarth.

Mae Politics Wales ar gael ar iPlayer.