Etholiad 2021: Y frwydr am etholaeth Dwyfor Meirionnydd
- Cyhoeddwyd
Does dim dwywaith y bydd digon o waith teithio i'r aelod newydd dros Ddwyfor Meirionnydd.
Mae ffiniau'r etholaeth yn cwmpasu aber Afon Dyfi a phen draw Llŷn, dyfnderoedd tawel Llyn Tegid ac uchelfannau hynafol Tre'r Ceiri.
A chawr o'r byd gwleidyddol Cymreig sydd wedi cynrychioli'r sedd ers ei sefydlu yn 2007.
Etholwyd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn enw Plaid Cymru gyda mwyafrif iach ym mhob un o'r tri etholiad diwethaf, cyn iddo adael y blaid a throi'n annibynnol ym mis Hydref 2016. Dydy o ddim yn sefyll eleni.
'Rheoli'r farchnad dai'
Yn gwisgo lliwiau Plaid Cymru y tro hwn mae Mabon ap Gwynfor, sy'n dweud nad ydy'r blaid yn "cymryd yr etholiad yma na'r etholaeth hon yn ganiataol".
"Mae 'na ddau brif fater yn codi sef yr economi - yr angen i greu swyddi o ansawdd - a hefyd, tai," meddai.
"Pe bawn i'n cael fy ethol yna mi fyswn i'n trio cyflwyno bil i ddod yn ddeddf er mwyn rheoli'r farchnad dai er mwyn sicrhau bod 'na dai ar gael i bobl leol."
Gyda bron i 11% o stoc tai Gwynedd yn gartrefi gwyliau - mwy nag unrhyw le arall yng Nghymru - mae mynediad at y farchnad dai yn bwnc llosg.
Un agwedd o'r broblem yw'r bwlch rhwng prisiau tai ac incwm pobl leol mewn ardal lle mae'r cyflog cyfartalog yn is na'r cyfartaledd Cymreig.
"Mae lot o bobl yn teimlo 'di twristiaeth ddim yn gweithio iddyn nhw, 'dyn nhw ddim yn manteisio o dwristiaeth yn yr ardal," meddai Cian Ireland, ymgeisydd Llafur Cymru.
"'Dan ni angen rhoi perchnogaeth yn nwylo gweithwyr a'r cymunedau eu hunain, fel ein bod yn gwneud yn siŵr bod y cyfoeth sy'n cael ei greu gan dwristiaeth yn aros yn lleol, yn aros yn yr ardal ac yn fwy democrataidd."
'Canoli gwasanaethau'
Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, mae rhannau o Ddwyfor Meirionnydd ymhlith y gwaethaf yn y wlad o ran mynediad at wasanaethau.
Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig - y blaid sy'n dod yn gyson ail yn yr etholaeth - yn gweld bod gwasanaethau'n symud allan o'r ardal fwyfwy.
"Dwi'n meddwl bod tri prif bwnc. Yn gyntaf, y diffyg cyfleon i bobl sy'n gweithio a phobl ifanc," meddai Charlie Evans.
"Ac wedyn gwasanaethau ysbyty - 'dan ni'n eu gweld yn cael eu canoli tu allan i Ddwyfor Meirionnydd, felly mae'n rhaid delio efo'r broblem honno, a hefyd yr ysgolion.
"Mae safonau isel yn ein hysgolion yn gyffredinol o gymharu Cymru â Lloegr."
Gydag wyth ymgeisydd yn sefyll i gyd, bydd gan yr etholwyr ddigon o ddewis wrth fwrw pleidlais.
I'r Democrat Rhyddfrydol, Stephen Churchman, cefnogi busnesau yw'r flaenoriaeth yn oes Covid-19.
"Y peth cyntaf fyddwn i'n ei wneud pe cawn i fy ethol yw pwyso am gynllun adfer gan Lywodraeth Cymru fel bod busnesau nid yn unig yn dod drwy'r pandemig ond hefyd yn ffynnu yn y dyfodol," meddai.
Ond daw sawl ymgeisydd arall yn ôl at yr argyfwng tai.
Yn ôl Louise Hughes o Reform UK, dydy'r premiwm mae cynghorau fel yr un yng Ngwynedd wedi ei osod ar dreth cyngor ail gartrefi ddim yn datrys y broblem.
"Dydy codi treth cyngor 100% neu hyd yn oed 300% ddim yn ateb. Rhaid ni gael trafodaeth go iawn lawr yn y Senedd a'i sortio," meddai.
Angen 'llacio rheolau cynllunio'
Llacio'r rheolau cynllunio "mewn ffordd benodol" yw'r ateb, yn ôl Peter Read o blaid Propel, fel bod "pobl ifanc yn gallu dechrau dringo'r ysgol".
"Dwi'n meddwl bod pobl leol wedi cael digon, i fod yn onest, ac maen nhw eisiau gweld pethau'n digwydd mewn ffordd wahanol - 'dan ni'n mynd rownd mewn cylchoedd efo'r pleidiau sydd yma'n barod," ychwanegodd.
I Glyn Daniels o Lais Gwynedd, mae angen diwygio'r deddfau ar gynllunio, ac mae'n dadlau y dylid rhoi "blaenoriaeth i bobl leol a rhwystro perchnogion tai haf rhag troi eu tai'n fusnesau".
Ar ben hynny, mae'n dadlau am newid ym maes iechyd, gydag "o leiaf 10% o godiad cyflog i nyrsys" ac "unioni'r cam" o gau Ysbyty Coffa Ffestiniog.
Ond prif bryder Michelle Murray o'r Freedom Alliance yw'r ymateb i Covid 19, ac mae'n "poeni'n ofnadwy" am effaith y cyfnodau clo ar iechyd.
"Gyda thrafodaeth am basbortau brechu, dwi'n teimlo bod ein llywodraethau yn mynd yn rhy bell drwy gyfyngu ar ein rhyddid i ddewis a'n hawliau dynol sylfaenol," meddai.
Un peth sy'n sicr yn Nwyfor Meirionnydd yw y bydd yma aelod newydd wedi 6 Mai.
Ac ochr yn ochr â theithiau hir o un pen yr etholaeth i'r llall, bydd gan yr ymgeisydd buddugol lu o bynciau dyrys i fynd i'r afael â nhw mewn ardal lle mae pryderon dwys am yr economi wledig a'r farchnad dai ynghlwm â'i gilydd.
Rhestr Ymgeiswyr
Mabon ap Gwynfor - Plaid Cymru
Stephen Churchman - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Glyn Daniels - Llais Gwynedd
Charlie Evans - Plaid Geidwadol Cymru
Louise Hughes - Reform UK
Cian Ireland - Llafur Cymru
Michelle Murray - Freedom Alliance
Peter Read - Propel
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021