Beth mae athrawon am glywed yn etholiad Senedd Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae "pwysigrwydd cael pobl dda mewn ysgolion" yn un peth sydd wedi cael ei atgyfnerthu gan y pandemig, meddai pennaeth ysgol gynradd yng nghymoedd y de.
Yn ôl Alun Williams, pennaeth Ysgol Rhyd-y-grug yn Aberfan mae staff wedi bod yn "ardderchog wrth ymateb i'r her".
Ac yn ei farn e, mae'r angen i fuddsoddi mewn staff presennol yn fwy o flaenoriaeth na recriwtio staff ychwanegol.
Mae maniffestos y prif bleidiau gwleidyddol ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn addo penodi miloedd o athrawon, cynorthwywyr a thiwtoriaid.
'Taflu arian at broblem ddim wastad yn ei datrys'
Mae Mr Williams wedi bod yn dysgu ers 37 o flynyddoedd ac yn bennaeth am 20 o'r rheiny.
"Dwi ddim yn hollol argyhoeddedig os taw mwy o'r staff yw'r ffordd gorau ymlaen," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n sicr angen buddsoddi yn y staff da sydd gennym ni yn ein hysgolion ni yn barod, sicrhau bod yna ddigon o hyfforddiant, bod 'na amrywiaeth o hyfforddiant.
"Da ni'n edrych ar bethau fel y cwricwlwm newydd sydd ar y gorwel, a bod ni isie arfogi'r staff cyfredol yn yr ysgolion i ddelio gyda hynny yn gyntaf oll.
"Dydy taflu arian at broblem ddim wastad yn ei datrys hi."
Ond mae adroddiad gan gorff ymchwil yr EPI yr wythnos hon yn amcangyfrif bod angen gwario £600-900m dros dair blynedd i helpu plant yng Nghymru wrth wneud yn iawn am effeithiau'r pandemig ar eu haddysg a'u lles.
Mae un o awduron yr adroddiad, Luke Sibeita, yn dweud nad ydy cynlluniau'r pleidiau yn gyffredinol yn mynd yn ddigon pell i ateb maint yr her a "does 'na ddim digon o fanylder ynglŷn â sut fydden nhw'n talu am eu cynlluniau".
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo 5,000 o athrawon ychwanegol, dosbarthiadau llai, mwy o fuddsoddiad mewn addysg a gohirio cyflwyno'r cwricwlwm newydd tan fis Medi 2023.
Byddai Plaid Cymru yn penodi 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol ychwanegol, yn darparu cyllidebau tair blynedd i helpu ysgolion i gynllunio a rhoi hwb i gyflogau cychwynnol athrawon.
Mae maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol mewn ysgolion, ynghyd â mwy o ddarpariaeth cwnsela i gefnogi iechyd meddwl disgyblion.
Ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud y byddan nhw'n adeiladu ar waith y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, sy'n gadael y Senedd adeg yr etholiad.
Fe fydden nhw'n adolygu cyllid ysgolion ac yn addo rhoi'r cymorth sydd ei angen i weithredu'r cwricwlwm yn llwyddiannus.
'Mwy o grwpiau llai'
Ar fin dechrau ar yrfa fel athrawes ysgol gynradd mae Loti Flowers o'r Bari, sy'n gwneud cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol mae hi eisiau clywed am gymorth i hybu sgiliau iaith Gymraeg ymhlith y plant sydd wedi cwympo'n ôl yn ystod y cyfnod clo.
Byddai "mwy o grwpiau llai, un i un" yn dda meddai. "Cymorth lles i athrawon, hefyd, a disgyblion."
Wrth drafod staff ychwanegol mae hi'n cytuno bod angen gofyn sut a pham, yn ogystal â faint.
"Mae angen y bobl iawn, fi'n credu, ac edrych ar bwy ni'n mynd i gael mewn," meddai.
"Falle ddim y cynorthwywr, falle ddim yr athrawon yw e, falle jest tiwtoriaid ychwanegol sydd yn dod mewn unwaith yr wythnos i fynd â grwpiau mas fydd e.
"Ond mae rhaid edrych yn ofalus ar bwy a beth yw'r rheswm. Paid jest rhoi staff yn yr ysgol - mae'n rhaid bod rheswm tu ôl iddyn nhw."
Pa adnoddau?
Dywedodd Anna Brychan, Deon Cynorthwyol yr Athrofa - canolfan addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - bod ysgolion wedi bod "yn ei chanol hi" dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd y byddai diddordeb ynglŷn â pha adnoddau mae'r pleidiau gwleidyddol yn addo wrth ymateb i'r heriau yn sgil Covid, ond fod llywio'r broses o ddyfarnu TGAU a Safon Uwch eleni yn galw am sylw ar unwaith.
"Yn y tymor byr, beth fydd pobl yn edrych amdano fe'n syth yw sicrwydd ynglŷn ag asesu, arholiadau, beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw," meddai
"Mi fyddan nhw hefyd yn edrych ar y cwricwlwm newydd sy'n cael ei rhoi ar waith yn 2022 - ydy'r amserlen honno dal yn mynd i fod yn ei lle?
"Ac yn ehangach yr elfennau ynglŷn â'r gefnogaeth, ynglŷn â'r adfer a sut fydd hynny'n edrych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021