Etholiad 2021: Addewidion Plaid Diwygio'r DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill yw arweinydd Plaid Diwygio'r DU yng Nghymru

Dim rhagor o gyfnodau clo Covid, adeiladu ffordd liniaru'r M4 a rhoi'r hawl i rieni fynd a'u plant ar wyliau yn ystod y tymor ysgol - dyna rai o bolisïau Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig wrth iddyn nhw gyhoeddi eu haddewidion ar gyfer etholiad y Senedd.

Yn ôl eu harweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, nid maniffesto mae'r blaid yn ei gynnig ond cytundeb gyda'r bobl.

Bum mlynedd yn ôl roedd Nathan Gill yn canfasio dan faner UKIP.

Ond wedi gadael y blaid honno i ymuno â Phlaid Brexit, bellach Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig sydd ar ei fathodyn - gydag addewid i ddiwygio'r economi, y sector cyhoeddus a'n sefydliadau ni.

Byddai'r blaid yn gwaredu treth cyngor a threth busnes, yn newid y drefn bleidleisio yng Nghymru i system gyfrannol, ac yn hytrach na chynyddu nifer Aelodau Senedd Cymru, byddai'n rhoi rôl i Aelodau Seneddol Cymreig San Steffan wrth graffu ar benderfyniadau Bae Caerdydd.

Ond â'i gyn-blaid, UKIP, hefyd yn sefyll eleni, heb sôn am gyn-gyfeillion gwleidyddol eraill yn sefyll dan faner Plaid Diddymu'r Cynulliad, mae her yn wynebu'r blaid i dorri trwodd yn yr etholiad hwn.

Top
Bottom

Pynciau cysylltiedig