Etholiad 2021: Gwlad yn addo osgoi chwith yn erbyn dde

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Logo GwladFfynhonnell y llun, Gwlad

Mae Gwlad - plaid wleidyddol newydd sydd o blaid annibyniaeth i Gymru - yn addo osgoi tactegau llwythol, chwith yn erbyn y dde.

Wrth lansio eu polisïau ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Iau, fe ddywedodd eu harweinydd Gwyn Wigley Evans na fyddan nhw'n brysio i gynnal refferendwm ar adael y Deyrnas Unedig yn syth.

Yn hytrach, creu cynllun clir o ddatblygiadau er mwyn cyrraedd y nod hir-dymor yw'r flaenoriaeth iddyn nhw ar hyn o bryd.

Yn ôl maniffesto, dolen allanol Gwlad, mae eu cynlluniau ar gyfer annibyniaeth yn cynnwys arian a banc canolog i Gymru.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

Maen nhw hefyd yn amlinellu cynllun i drafod:

  • cadw'r frenhiniaeth;

  • mabwysiadu brenhiniaeth newydd;

  • newid i drefn arlywyddol Americanaidd neu Ffrengig;

  • neu fabwysiadu model o arlywydd anweithredol (non-executive) tebyg i Iwerddon neu Israel.

Yn ôl y maniffesto 43 tudalen, yn y tymor byr mae Gwlad yn awyddus i "weithio o fewn strwythurau presennol Llywodraeth Cymru a'r Senedd o fewn y Deyrnas Unedig", gan ddangos "sut mae gwneud gwell defnydd o'r pwerau sydd eisoes wedi eu datganoli".

Ond yn yr hir-dymor, maen nhw'n awyddus i ddatblygu "Cymru rydd, lewyrchus gyda system ddemocrataidd aml-bleidiol".

Yn ôl Mr Evans, fe fyddan nhw'n arwain tuag annibyniaeth drwy gynllun ymarferol fydd yn mynd a phobl Cymru hefo nhw ar y daith.

"Mae'r model gwleidyddol llwythol o'r chwith yn erbyn y dde yn hen hanes bellach", meddai.

"Rydym ni'n lwcus iawn yn Gwlad nad oes ganddo ni y math yna o hanes a dogma sy'n effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n edrych ar bethau.

"Mae hynny'n golygu y gallwn ni dderbyn syniadau o bob cyfeiriad, ac o wahanol wledydd hefyd, gyda'r un nôd: 'Ydy o'n iawn i Gymru?'."

Mae gan Gwlad ymgeiswyr yn sefyll yn 14 o'r 40 etholaeth seneddol, a rhestr lawn o bedwar ymgeisydd ym mhob un o'r pum rhanbarth sy'n anfon aelodau i Fae Caerdydd dan y system o gynrychiolaeth gyfrannol.