Etholiad 2021: Pwy yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds?
- Cyhoeddwyd
Gydag etholiad Senedd Cymru yn agosáu, mae Cymru Fyw yn cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru. Tro Jane Dodds yw hi heddiw.
Yn wahanol i arweinwyr y prif bleidiau eraill yng Nghymru, dydi arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, heb fod yn aelod o Senedd Cymru hyd yma.
Gyda Kirsty Williams yn sefyll lawr fel Aelod o Senedd Cymru eleni, bydd Jane Dodds yn gobeithio cael ei hethol fel AS drwy'r rhestr - hi yw'r dewis cyntaf ar y rhestr rhanbarthol i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Jane yw'r union math o berson chi eisiau mewn gwleidyddiaeth - person ag anrhydedd," meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg sy'n gyn-arweinydd y blaid yng Nghymru.
"Drwy gydol ei bywyd mae hi wedi dangos gwir benderfyniad i frwydro dros beth sy'n gyfiawn a chefnogi'r bobl sydd ei hangen fwyaf. Yr awch yma am gyfiawnder cymdeithasol sy'n ei hysbrydoli hi.
"Cafodd ei hethol yn arweinydd ar adeg anodd i'r blaid, ond mae ganddi frwdfrydedd gwbl amlwg a gweledigaeth glir o ble rydyn ni angen mynd."
Daeth Jane Dodds yn arweinydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Tachwedd 2017, gan olynu y cyn-Aelod Seneddol dros Geredigion, Mark Williams.
Fe enillodd Jane Dodds isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ar 1 Awst 2019 gan ddod yn Aelod Seneddol yr etholaeth. Collodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, ar 12 Rhagfyr 2019.
Cafodd Jane Dodds ei geni i deulu Cymraeg yn Wrecsam yn 1963, ac mae bellach yn byw yn Y Gelli Gandryll gyda'i gŵr, Patrick.
Rhywun sydd wedi cydweithio gyda Jane Dodds yn y Democratiaid Rhyddfrydol yw Cadan ap Tomos, un o ymgeisydd y blaid yn yr etholiad eleni.
"I bawb sy'n cwrdd â Jane Dodds am y tro cyntaf, mae un peth yn eich taro chi'n fwy nag unrhywbeth arall: ei charedigrwydd.
"Mae'n glir o bob dim mae hi'n gwneud - o'i hymroddiad yn ei gwaith i helpu'r bobl mae'n eu cynrychioli, i'r ffordd mae hi'n trin ei thîm o staff a gwirfoddolwyr - taw'r hyn sy'n gyrru ei gwleidyddiaeth yw dymuniad clir i helpu pobl llai ffodus a gwella cymunedau ein cenedl."
Astudiodd Jane Dodds ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna fe hyfforddodd i fod yn weithiwr cymdeithasol, gan weithio i Fyddin yr Iachawdwriaeth mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant. Mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o awdurdodau lleol, yn ogystal ag arwain Adran Plant Cyngor y Ffoaduriaid.
"Do'n i ddim yn gwybod llawer am Jane pan nes i gyfarfod â hi gyntaf, yn ystod ymgyrch etholiad San Steffan 2015," meddai Cadan ap Tomos. "Mae'n glir bod ei hagwedd at wleidyddiaeth wedi'i siapio gan ei phrofiadau'n gweithio ym maes amddiffyn plant fel gweithiwr cymdeithasol, yn yr wlad hon a thramor.
'Rhoi llais' i eraill
"Mae 'na rywbeth hael iawn am ymroddi eich bywyd i roi llais i'r rheiny sydd methu sefyll cornel eu hunain, ond dyna'r fath o berson yw hi.
"Un o'm llwyddiannau mwyaf balch oedd bod yn rhan o'r tîm a lwyddodd i'w hethol hi yn AS dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn y fuddugoliaeth sylweddol yn is-etholiad haf 2019. Dyna wrth gwrs a arweiniodd at Boris Johnson i golli ei fwyafrif, ac o ganlyniad roedd cymaint o obaith a disgwyliad ar ysgwyddau Jane i lwyddo."
"Ond aeth ati'n syth pan gafodd ei hethol, yn chwarae rôl blaengar yng ngwaith y blaid yn San Steffan a rhoi cynrychiolaeth go iawn i drigolion ei hetholaeth."
Crêd Cadan ap Tomos bod personoliaeth Jane Dodds yn cael ei adlewyrchu yn ei gwleidyddiaeth a'r hyn mae hi eisiau ei weld yn digwydd mewn cymdeithas:
"Yn fyr, y gwerthoedd mae hi'n eu dangos yn ei bywyd bob dydd yw'r rheiny sydd angen mwy ohonynt yn ein gwleidyddiaeth. Llai o'r ymgecru sy'n anffodus yn nodweddiadol o wleidydda'r dyddiau hyn, a mwy o gydweithio er budd pobl ein cymunedau. Dyna fyddai Jane yn canolbwyntio ar yn y Senedd, rwy'n siŵr, a dyna pham rwy'n falch o gael y cyfle i weithio gyda hi."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Cic o'r smotyn
Yr Arglwydd Mike German oedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd o 1999 i 2008:
"Jane yw un o'r bobl mwyaf angerddol a didwyll dwi erioed wedi cwrdd ym myd gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd," meddai'r Arglwydd German.
"Mae hi'n sicr o'r hyn mae hi'n ei gredu sy'n iawn ac yn brwydro'n ddi-flino drosto. Mae hi'r union math o berson rydyn ni angen mewn gwleidyddiaeth, person gonest.
"Mae ganddi brofiad bywyd - gyda bron i 30 mlynedd o brofiad yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gyda gofal plant, mae ganddi brofiad uniongyrchol o sut mae polisïau deallus, egwyddorion a gweithredoedd yn gallu cael effaith ar fywyd rhywun.
"Uwchlaw hyn i gyd mae Jane yn garedig ac yn feddylgar - rhywun fyddech chi'n hapus i eistedd gyda am baned o de a sgwrs. Mae ei chynhesrwydd yn rhinwedd gwirioneddol o fewn y byd gwleidyddol.
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mewn cymdeithas deg lle all bawb lewyrchu, ac mae Jane Dodds yn ymgorfforiad o'r egwyddor yma."
Un sedd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ar hyn o bryd - sedd Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Ond er bod Williams yn ymddeol o'r Senedd bydd y blaid yn gobeithio dal 'mlaen i'r sedd honno ac ennill seddi eraill ar 6 Mai, gan gynnwys ethol Jane Dodds ar y rhestr.