'Byddai cyn AS Abolish wedi 'tynnu sylw' o'n hymgyrch'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Richard Suchorzewski
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Richard Suchorzewski y gallai'r blaid "wneud gwahaniaeth" trwy gael digon o seddi i atal mwy o ddatganoli

Mae arweinydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru (Abolish The Welsh Assembly Party) yn dweud y byddai "wedi tynnu sylw" petai Aelod Senedd cyntaf y blaid wedi parhau i sefyll fel un o'u hymgeiswyr yn yr etholiad.

Fe adawodd Gareth Bennett y blaid ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol ac mae'n sefyll yn hytrach fel ymgeisydd annibynnol.

Yn ôl arweinydd y blaid, Richard Suchorzewski, mae'r cyfryngau wedi "rhefru" ar Mr Bennett am "wneud rhai camgymeriadau".

Doedd Gareth Bennett ddim am wneud sylw mewn ymateb i gais gan BBC Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Gareth Bennett â'r Senedd yn 2016 fel aelod o blaid UKIP

Cafodd Mr Bennett ei ethol fel cynrychiolydd UKIP yn rhanbarth Canol De Cymru ym Mai 2016, ar ôl goroesi galwadau o fewn UKIP i'w ddad-ddethol yn sgil sylwadau ynghylch mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

Daeth yn arweinydd UKIP yng Nghymru yn 2018, gan ddadlau o blaid dileu datganoli.

Parodd yr arweinyddiaeth lai na blwyddyn wedi i aelodau ymuno â Phlaid Brexit.

Wedi cyfnod fel Aelod annibynnol fe ymunodd â Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru ym Mehefin 2020.

Yn 2019 fe'i cafwyd yn euog o wneud fideo oedd yn amharchus tuag at yr AS Llafur Joyce Watson.

Cafodd ei wahardd o'r Senedd am wythnos fel cosb.

Flwyddyn cyn hynny fe wnaeth ymchwiliad ganfod bod Mr Bennett wedi gwario bron £10,000 ar swyddfa oedd heb ei archwilio ac yn erbyn cyngor cyfreithiwr.

Gofynnodd raglen Politics Wales BBC Cymru i Richard Suchorzewski pam wnaeth Mr Bennett sefyll i lawr fel un o'u hymgeiswyr fis cyn yr etholiad.

Atebodd: "Fe wnaeth Gareth, pan yn aelod o UKIP, rai camgymeriadau.

"A pan ymunodd ag ein plaid ni, fe wnaeth y cyfryngau refru arno, ac roedd popeth ar sail y camgymeriadau hynny.

"A bod yn onest, rydym wedi cael trafodaeth gyda Gareth, gan gytuno yn y pen draw y byddai'n well, gan y byddai'n tynnu sylw oddi wrth ein neges graidd, iddo beidio sefyll ar ein rhan yn yr etholiad yma."

Ffynhonnell y llun, tattywelshie

Mae Mr Suchorzewski ac uwch swyddog arall y blaid, Simon Rees, wedi cael eu cyflogi fel ymchwilwyr yn y Senedd ar gyfer Mr Bennett.

Dywedodd ei bod wedi cael ei gyflogi am bedwar mis, gan ychwanegu: "Dyna'r unig arian cyhoeddus rwyf wedi eu derbyn erioed mewn rhyw 40 mlynedd o weithio."

"Rhan o'r rheswm dros hynny oedd helpu ac addysgu Gareth ac edrych ar bolisïau a chreu cynlluniau roeddem o'u plaid i sicrhau ein bod yn tynnu i'r un cyfeiriad.

"Wedi pedwar mis, doedd dim angen i mi fod yn rhan o'r broses yna mwyach."

Yn ei ddatganiad polisi ar gyfer yr etholiad, dywed y blaid mai ei hunig bolisi yw diddymu'r Senedd a "rhoi diwedd r ddatganoli yng Nghymru."

Pan ofynnwyd beth sydd gan y blaid i'w gynnig wrth i'r wlad ailadeiladu wedi'r pandemig, atebodd Mr Suchorzewski bod "y datrysiad yna'n rhan annatod" o'u polisi dileu datganoli.

"Os gawn ni ddigon o seddi, ac rwy'n gwerthfawrogi bod dadwneud datganoli'n broses yn hytrach na digwyddiad, a bod yn onest... fe allwn ni wneud gwahaniaeth.

"Gallwn ni atal rhagor o ddatganoli a sydd, yr ydym ni'n ei gredu, wedi bod yn ddinistriol i bobl Cymru."

Mae Politics Wales ar gael ar iPlayer.