Etholiad 2021: Y Rhondda
- Cyhoeddwyd
I fyny'n uchel ar lethr Mynydd y Bwlch mae calon felen yn edrych dros y dyffryn.
Yn hawdd i'w gweld o bell, dim ond wrth agosáu mae modd gweld bod y gofeb hon wedi'i ffurfio o gerrig wedi'u paentio a baneri bach yn coffáu rhai o'r cymunedau isod sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig.
Mae pobl yn Rhondda wedi dioddef yn waeth na'r rhan fwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda llifogydd ac ofnau am dirlithriadau o hen domenni glo yn gwaethygu yn dwysau diflastod Covid.
Yn y cyd-destun hwnnw y byddan nhw'n dewis eu cynrychiolydd i'r Senedd am y pum mlynedd nesaf.
Mae'r ymgeisydd gafodd ei hethol y tro diwethaf eisiau iddyn nhw ei chefnogi hi i "barhau gyda'r cyfle i adeiladu ein cymunedau mewn ffordd wahanol ar ôl Covid".
Wedi bod yn aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, etholwyd Leanne Wood o Blaid Cymru yn aelod dros etholaeth Rhondda yn 2016 - gan wyrdroi mwyafrif Llafur o 6,739 o bleidleisiau.
"Penderfynodd pobl yma eu bod eisiau cymryd cyfeiriad gwahanol," meddai.
"Fe wnaethon nhw fy ethol i'w cynrychioli yn y Senedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn glynu wrth hynny - parhau mewn cyfeiriad gwahanol a pheidio ag edrych tuag yn ôl, oherwydd credaf fod perygl y byddwn yn mynd tuag yn ôl os na fydd pobl yn fy ail-ethol i i'r Senedd y tro hwn."
Mae hi'n tynnu sylw at gynllun rhannu bwyd lleol a'r ymgyrch lwyddiannus i atal israddio Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel llwyddiannau yn ystod ei chyfnod fel yr AS lleol.
"Mae pobl yn gwybod beth yw fy record, ac mae pobl yn gwybod hefyd bod gen i gynllun ar gyfer y dyfodol," meddai wrthyf tra'n ymgyrchu'n Nhon Pentre.
Yn 2016, roedd Ms Wood hefyd yn arweinydd ar ei phlaid, ac yn elwa o'r sylw ychwanegol ddaeth yn sgil y swydd.
Ar ôl colli'r swydd honno yn 2018 ei hunig ffocws y tro hwn yw cadw ei sedd, ac amddiffyn ei mwyafrif o 3,459.
Mae hi'n cydnabod bod y dadleuon teledu yn ystod ei hamser wrth y llyw wedi bod "yn wych" ar gyfer ei phroffil, ond mae'n honni y bydd hi'n "parhau i elwa o hynny am gryn amser".
Mae peidio â bod yn arweinydd y tro hwn wedi darparu mwy o amser "i ganolbwyntio ar greu cynllun ar gyfer adferiad ar ôl Covid yma yn y Rhondda," ychwanega Ms Wood.
Dim ond Plaid Cymru neu Lafur sydd wedi cynrhychioli Rhondda ym Mae Caerdydd ac felly byddai hanes yn awgrymu bod hon yn frwydr rhwng dwy blaid.
Ar yr achlysur hwn mae hefyd yn frwydr rhwng dwy fenyw leol sy'n ymfalchïo mewn bod yn ymgyrchwyr cymunedol cryf.
Ymgeisydd Llafur ym mhrif sedd y blaid Elizabeth Williams, er taw fel 'Buffy' mae pawb yn ei hadnabod, meddai.
"Mae pawb yn fy nabod," meddai wrthyf ar stryd fawr Tonypandy, "cefais fy ngeni yn y Rhondda, rydw i wedi byw yma ar hyd fy oes".
Dywed y rheolwr ar ganolfan gymunedol mai sefyll yn yr etholiad oedd y "cam nesaf" ar ôl ugain mlynedd yn gweithio yn y gymuned.
Os caiff ei hethol mae'n addo rhoi "100%" i'r Rhondda a bod yn "newid positif".
Pan ofynnais iddi am y tebygrwydd rhyngddi hi a Ms Wood, ysgydwodd ei phen yn gadarn.
"Dwi ddim yn credu ein bod ni'r un peth o gwbl," meddai cyn mynd ymlaen i feirniadu record ei gwrthwynebydd.
"Pan gafodd ei hethol, roeddwn i'n meddwl, 'menyw o Rondda - gwych, gadewch i ni weld beth y gall hi ei wneud', ac i fod yn hollol onest â chi, rwyf wedi cael fy siomi, fy siomi yn fawr.
"Peidiwch ag anghofio ei bod hi wedi bod [yn y Senedd] ers 17,18 mlynedd a beth mae hi wedi'i wneud dros y Rhondda?"
Gan gydnabod ei fod yn annhebygol o ennill y sedd, dywed ymgeisydd y Ceidwadwyr fod ei ymgyrch yn rhan o "brosiect tymor hir sy'n mynd i'r cyfeiriad cywir".
Enillodd y blaid 528 pleidlais yn 2016 gan ddod yn bedwerydd yn bell y tu ôl i UKIP.
Fodd bynnag yn etholiad cyffredinol 2019, wrth i Brexit hawlio sylw, daeth y Torïaid yn ail yma gyda 4,675 o bleidleisiau.
Dywed Tom Parkhill ei fod yn canolbwyntio ar helpu busnesau bach a chreu swyddi.
Mae e hefyd yn galw am ymateb ar y cyd ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer llacio'r cyfyngiadau cloi.
"Mae'n ymddangos ei fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol," meddai am ddull Llywodraeth Cymru.
Bellach yn gynghorydd yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Sir Lincoln, dywed Mr Parkhill ei fod yn deall yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn Rhondda.
"Fe ddes i o dref debyg i'r rhai yn Rhondda ac roedd hi'n frwydr wirioneddol i ddechrau fy ngyrfa ac rwy'n credu y gallaf uniaethu â phobl sydd hefyd wedi cael trafferth ac nad ydyn nhw wedi gallu cael swydd," meddai.
Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddim ond 173 pleidlais yn yr etholaeth hon yn 2016, wrth i'r blaid golli pedair o'u pum sedd yn y Senedd.
Ac yn etholiad cyffredinol 2019 fe gollon nhw eu hunig sedd Gymreig yn San Steffan.
Felly, gydag etholiad arall ar y gorwel, a yw'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwythu'u plwc?
"Roeddwn i'n teimlo ein bod ni wedi chwythu ein plwc yn 2016," meddai ymgeisydd Rhondda'r blaid yn yr etholiad hwn, Jackie Charlton.
"Roeddem yn hynod siomedig, ond rydym wedi adeiladu ein plaid ers hynny.
"Rwy'n gwybod sut beth yw bod ar y brig ac i lawr ar y gwaelod, ac rydw i wir yn teimlo ein bod ni ar gynnydd eto."
Dywed Ms Charlton, cynghorydd ym Mhowys, ei bod yn cydnabod yr "anawsterau go iawn" y mae pobl Rhondda wedi'u dioddef a'i bod yn addo "dod â rhywbeth ffres" a "chynnig rhywbeth gwahanol".
Mae ei blaenoriaethau'n cynnwys iechyd, newid yn yr hinsawdd a chefnogi busnesau ar ôl y pandemig.
Ymhlith yr ymgeiswyr eraill mae Steve Bayliss o blaid Diwygio UK sy'n feirniadol o record Llywodraeth Lafur Cymru ar iechyd.
Enw blaenorol y blaid oedd Plaid Brexit a dywed Mr Bayliss: "Fel Plaid Brexit, fe wnaethon ni ddangos y gallwn ni gyflawni'r hyn y mae'r bobl ei eisiau ac rwy'n benderfynol o wneud hynny eto."
Ymgeisydd Propel yw'r cyn-löwr Jeffrey Gregory o Donypandy.
Dywed fod y "lefelau ysgytwol o dlodi ac amddifadedd yn Rhondda" yn dangos "yn amlwg nid yw rhywbeth yn gweithio".
Os caiff ei ethol, mae Mr Gregory yn addo "mynd i'r afael â thlodi, ac amddifadedd, a bydd yn ymladd dros yr ieuenctid, y digartref, y tlawd a'r difreintiedig."
Mae Steve Phillips yn sefyll dros Freedom Alliance sy'n gwrthwynebu cyfyngiadau clo'r pandemig.
"Ers dros flwyddyn bellach rwyf wedi eistedd a gwylio ein rhyddid yn cael ei dynnu oddi wrthym," meddai, "Roedd yr holl beth yn fy ngwylltio a doeddwn i ddim yn siŵr beth y gallwn ei wneud yn ei gylch.
"Mae'n bryd i ni sefyll i fyny, digon yw digon," meddai.
"Os ydw i'n ennill fy sedd, rwy'n bwriadu herio'r mesurau hyn a dod â synnwyr cyffredin yn ôl i'r bwrdd, gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ystadegau go iawn ac yn bwysicaf oll helpu pobl i symud ymlaen o'r amser erchyll hwn rydyn ni wedi'i gael."
Dywed Ian McLean o Plaid Diddymu'r Cynulliad ei fod wedi gweld drosto'i hun nad yw datganoli "wedi gwneud unrhyw beth i helpu Rhondda".
"Mae'n bryd troi'r llanw… a chael un llywodraeth yn y DU," ychwanega.
"Mae diffyg buddsoddiad yn y Rhondda wedi cael effaith ddramatig ar gyflogaeth pobl ifanc.
"Yr ifanc yw ein dyfodol ac maen nhw wedi cael eu hesgeuluso gan Blaid Cymru a Llafur, sydd ddim ond yn poeni am gadw eu swyddi yn y Cynulliad."
Rhestr ymgeiswyr
Steve Bayliss - Reform UK
Jackie Charlton - Democratiaid Rhyddfrydol
Jeff Gregory - Propel
Ian McLean - Abolish the Welsh Assembly Party
Tom Parkhill - Ceidwadwyr
Steven Phillips - Freedom Alliance
Elizabeth Buffy Williams - Llafur Cymru
Leanne Wood - Plaid Cymru
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021