Pryder tanau gwair Machen am bedwerydd diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân yn parhau i frwydro fflamau anferth ar lethrau mynydd yn Sir Caerffili.
Mae hyd at 50 o ymladdwyr tân ar y tro wedi bod yn taclo'r tân gwyllt mawr ym Mynydd Machen, a ddechreuodd ddydd Sadwrn.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y fflamau bellach wedi gorchuddio dros 50 hectar o laswellt.
Maen nhw'n amau fod y tanau wedi'u cynnau'n fwriadol.
Prynhawn ddydd Mawrth, dywedodd y gwasanaeth tân bod pedwar o griwiau'n delio gyda digwyddiad newydd yn Evanstown yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r tân yna dros tua 30 hectar.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae'r gwasanaeth tân yn credu fod dros 160 o danau gwair bwriadol wedi bod yn ne Cymru.
Ym Machen, dywedodd un dyn lleol fod trigolion yn "bryderus iawn" am y sefyllfa.
Mae pobl sy'n byw gerllaw yn cael eu cynghori i gau drysau a ffenestri oherwydd y mwg.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru na chafodd neb eu hanfon o'u cartrefi.
Mae nifer o gerbydau'r gwasanaeth tân wedi bod ym Machen gan gynnwys hofrennydd tân, peiriannau tân, cerbydau oddi ar y ffordd ac Unedau Tanau Gwyllt y gwasanaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi defnyddio peiriannau trwm i greu seibiannau tân i atal y fflamau rhag lledaenu i lawr ochrau'r mynyddoedd.
Dywedodd Sarjant Andy Jones o Heddlu De Cymru ein bod wedi "colli sawl erw o'n tirwedd hardd i danau glaswellt bwriadol" dros y penwythnos.
"Mae'r cyfrifoldeb ar y cyhoedd," meddai, "fy mhle yw i bawb sefyll yn awr, i atal difrod pellach ac i osgoi trasiedi bosib a allai fod yn ddim ond un tân gwyllt i ffwrdd."
Dywedodd Ben Cottam, o Fachen, fod y tân gwyllt wedi rhoi "llawer o bryder" i bobl.
"Mae'r mynydd i gyd yn fwg ac yn mudlosgi," meddai wrth raglen Breakfast ar BBC Radio Wales.
"Yng nghefn y tŷ gallwn weld bod y tân yn dal i fudlosgi - fe ddechreuodd yr hofrennydd daflu dŵr ar y tân eto'r bore 'ma.
"Mae'r criwiau tân wedi bod yn hollol aruthrol."
Dywedodd fod pobl leol wedi bod yn "bryderus iawn" dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.
"Dim ond pan aeth hi'n dywyll oedd pobl yn sylweddoli faint o'r mynydd oedd ar dân," meddai.
"Fe wnaeth y gymuned ddod at ei gilydd i brynu pizzasa diodydd i'r criwiau. Roedd yna lawer o bryder.
"Mae'n drist iawn, iawn gweld beth ddigwyddodd - mae'n gynefin pwysig i fyny yno."
Dywedodd Jason Evans, pennaeth lleihau risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, eu bod wedi cael dros 100 o ddigwyddiadau tanau gwyllt yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Wrth siarad ar raglen Breakfast BBC Radio Wales, dywedodd Mr Evans: "Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol dros y nifer o ddyddiau diwethaf.
"Mae'r 24 awr ddiwethaf yn ardal de Cymru wedi bod yn arbennig o brysur a heriol i'r gwasanaeth. Rydyn ni wedi cael dros 100 o ddigwyddiadau tanau gwyllt.
"Maen nhw wedi bod yn ddwys iawn o ran adnoddau ar gyfer ein criwiau ar lawr gwlad ond hefyd staff ein hystafell reoli yn benodol.
"Mae'r tanau'n weladwy iawn ar lethrau bryniau ein cymoedd felly mae'r ystafell reoli wedi cymryd nifer fawr o alwadau - yn ystod y 24 awr ddiwethaf roedd 500 o alwadau."
Dywedodd fod ganddyn nhw hyd at 50 o ddiffoddwyr ar y tro yn ymladd y tân ym Machen.
"Mae'r hofrennydd wedi bod yn ased enfawr," ychwanegodd.
"Bydd ein tîm troseddau tân yno yn hwyr y bore yma gyda'n swyddogion ymgysylltu tir - byddan nhw'n edrych o amgylch eiddo i dorri rhywfaint o'r llystyfiant sy'n agos at eiddo yn ôl.
"Rydyn ni'n hyderus ein bod ni mewn sefyllfa gadarnhaol iawn."
"Mae effaith tanau glaswellt yn ddinistriol ar yr amgylchedd gan ladd anifeiliaid a dinistrio cynefin bywyd gwyllt fel y gwelsom eisoes mewn sawl ardal ledled de Cymru," meddai llefarydd ar ran gwasanaeth tân y de.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau i leihau risg ac effaith tanau glaswellt, ond byddem yn atgoffa pobl i ymatal rhag defnyddio unrhyw danau fflam agored mewn ardaloedd o'r fath i leihau'r risg y bydd tanau'n cychwyn ac yn ymledu oherwydd y cynnydd yn y tywydd cynnes a sych."
'Methu bod mewn dau le ar unwaith'
Yn ôl Dean Loader, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân De Cymru, mae mwyafrif y tanau sydd wedi bod dros y penwythnos yn rhai bwriadol.
"Mae'n broblem fawr i ni ar y funud," meddai. "Dyma'r cyfnod pan fydd hi brysuraf i ni.
"Plîs peidiwch â dechrau'r tanau yma - allwn ni ddim wastad bod mewn dau le ar unwaith, fe all mynd i daclo'r tanau yma ein hatal ni rhag cyrraedd llefydd eraill."
Dywed Cerith Griffiths, aelod o bwyllgor gweithredol undeb yr FBU yng Nghymru: "Dwi 'di bod yn y gwasanaeth tân ers dros 27 mlynedd, ac ma' hyn wedi bod yn broblem blwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Ni'n cael cyfnod sych ac mae'r tanau'n dechre'."
Gofynnodd i bobl "feddwl am beth chi'n 'neud" cyn ystyried cynnau unrhyw fath o dân bwriadol.
Yn y cyfamser, yn Aberpennar, bu'n rhaid i griwiau tân dynnu nôl o geisio diffodd fflamau am fod yr amodau'n rhy heriol yn y tywyllwch.
Bu diffoddwyr yn dychwelyd yno fore Mawrth.
Tua'r gorllewin, mae ymladdwyr tân yn parhau i geisio diffodd fflamau ar safle canolfan ailgylchu yn Nant-y-caws, Sir Gâr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno am y tro cyntaf ddydd Sadwrn.
Yn y gogledd, mae diffoddwyr wedi bod yn taclo tân gwyllt ar y Gogarth ger Llandudno.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau wedi brwydro yn erbyn tân ar 16 metr sgwâr o eithin. Fe fyddan nhw'n mynd i ailwirio'r ardal fore Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021