Etholiad 2021: 'Angen cofio am anghenion pobl ifanc'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor anodd i fi ac ma'n hynod bwysig bod gwleidyddion yn cofio amdanon ni bobl ifanc wrth gynllunio at y dyfodol," medd Poppy Thomas o Gaerfyrddin.
Roedd Poppy ar gwrs perfformio yng Nghaerdydd pan wnaeth Covid daro Cymru ond fe ddewisodd hi roi'r gorau i'w hastudiaethau ac mae hi bellach wedi sefydlu busnes ei hun.
"I fi o'dd yn dilyn cwrs perfformio ro'dd e'n anodd iawn i 'neud popeth o adre. Ro'n i mor gutted bo ni methu parhau yn adeilad y coleg - a 'nes i golli motivation fi'n gloi iawn.
"Fi'n berson sy'n hoffi cael pobl rownd fi trwy'r amser, fi'n hoffi bownso syniadau - ac o'n i'n stryglan yn ofnadw' ar y dechre.
"Fi bellach wedi sefydlu busnes. Gan bo fi'n 'neud gwisgoedd 'nes i feddwl y byddai'n beth da gwneud defnydd o hynny a fi wedi sefydlu busnes gwisgo lan fel tywysoges.
"Mae plant bach wrth eu bodd - dwi wedi bod yn ymddangos ar Zoom gan amlaf yn rhoi neges bersonol iddyn nhw ar ddiwrnod pen-blwydd. Wrth i'r cyfyngiadau lacio fi'n gobeithio y bydd modd i fi droi lan mewn partis."
Dywed Poppy Thomas ei bod wedi ymddiddori mwy mewn materion gwleidyddol ers Covid.
"Fi'n credu bod rhaid i wleidyddion ganolbwyntio ar lles pobl ifanc [yn nhymor nesaf y Senedd]. Ry'n ni wedi colli gymaint. Mae buss passes am ddim yn bwysig i fi, cymorth i fusnesau ac mae ffioedd myfyrwyr hefyd yn bwysig. Ond ni wedi colli lot a mae'n rhaid i wleidyddion sylweddoli hynny."
'Ni yw'r dyfodol'
Un fyfyrwraig arall sydd wedi gweld y cyfnod ers Covid yn anodd ar brydiau yw Celyn Angharad Jones, 21 oed o Landdarog ger Caerfyrddin.
"Dwi ar drydedd blwyddyn cwrs perfformio y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd a nid fel hyn ro'n i wedi disgwyl i'r cwrs fod.
"Cwrs ymarferol yw cwrs perfformio a mae 'neud pethe ar-lein wedi bod yn eitha' heriol. Mae trefnwyr y cwrs wedi gwneud eu gorau.
"Ma'r flwyddyn rywsut wedi mynd ond mae 'na deimlad gwag - sa i'n credu bod ni wedi 'neud lot.
"Cyn Covid ro'n ni fel myfyrwyr yn gweld ein gilydd trwy'r amser ac yna stopiodd popeth. I fi mae wedi bod bach yn rollercoaster o flwyddyn - lan a lawr - ond fi'n gobeithio nawr wrth i fi drio cael lle i wneud cwrs Meistr y bydd pethe'n gwella.
"Bydd rhaid i wleidyddion o bob plaid geisio sicrhau rhyw fath o normalrwydd ac ystyried anghenion pobl ifanc. Ni yw'r dyfodol."
Dywed Geraint Williams, 20 oed o Gaerfyrddin, fod yr ail gyfnod clo wedi bod yn waeth na'r cyntaf. Mae e hefyd yn un o fyfyrwyr cwrs perfformio Prifysgol Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd.
"Ro'dd yr ail lockdown fel petai e'n para am byth. Mae 'neud cwrs ymarferol wedi bod mor heriol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - wedi'r cyfan ry'n ni ar gwrs perfformio a dyna be ni fod i 'neud.
"Dwi'n meddwl bod gwaith gwleidyddion yn rili pwysig. Y peth ddylai fod ar dop yr agenda yw'r recovery o Covid - ond mae'n rhaid i ni fod yn rhan o hwnna.
"Sai'n siŵr beth fyddai'n 'neud nesa' ond ni angen gwybod bod rhywun yna yn gofalu am ddyfodol sicr i bobl fel fi wedi cyfnod rili heriol."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021