Carcharu dyn am 13 ymosodiad rhywiol mewn 48 awr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gyflawnodd ymosodiadau rhyw ar 10 menyw a dwy ferch mewn dau ddiwrnod wedi cael ei garcharu am dair blynedd.
Ymosododd Oliver Smith, 27, o ardal Pantygwydr (Uplands), Abertawe tra'n reidio'i feic o gwmpas y ddinas ym mis Chwefror.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod nifer o'r merched yn ofni mynd allan ar eu pen eu hunain yn dilyn yr ymosodiadau.
Digwyddodd y troseddau gan fwyaf yn ardal Parciau Singleton a Brynmill ar 12 a 13 Chwefror.
Mewn gwrandawiad blaenorol, pan blediodd Smith yn euog i 13 trosedd, dywedodd wrth ynadon bod ei droseddau yn "ddatganiad gwleidyddol" am nad oedd yn credu y dylai menywod "wisgo dillad deniadol yn gyhoeddus".
'Daliadau rhyfedd'
Clywodd y llys fod adroddiadau seiciatryddol yn dweud bod gan Smith "syniadau, ideoleg a meddyliau rhyfedd dros ben,".
Roedd ei fam wedi mynegi pryder am "ddaliadau rhyfedd" ei mab, ac roedd wedi ceisio cael diagnosis iddo ers 15 mlynedd.
Roedd Smith wedi gwrthod cyfathrebu gyda gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl er mwyn gwneud asesiad awtistiaeth.
Cafodd Smith ei ddedfrydu am gyflawni 10 ymosodiad rhyw, un o geisio ymosod yn rhywiol ac un o ymosod yn rhywiol ar blentyn dan 13 oed.
Roedd cyfanswm o 11 o ddioddefwyr. Ymosodwyd ar un ohonynt ddwy waith.
Gofynnodd i'r llys ystyried saith achos arall o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd.
Disgrifiodd y Barnwr Geraint Walters ymddygiad Smith fel "ymgyrch o droseddu rhywiol".
"Fe achosodd arswyd eang i fenywod ar y pryd o gwmpas ardal Abertawe," meddai.
"Mae nifer yn sôn am deimlad o drais yn eu herbyn am y ffordd ddaru chi ymosod arnynt.
"Mae rhai wedi disgrifio'r effeithiau dwfn sy'n parhau hyd heddiw.
"Roeddech yn gwisgo hwdi a dillad tywyll gyda hwd dros eich pen, yn defnyddio beic i seiclo tuag at eich dioddefwyr ac yna i ddianc yn gyflym."
Yn ogystal â'r ddedfryd o dair blynedd o garchar, gwnaed gorchymyn atal niwed rhywiol (sexual harm prevention order) yn erbyn Smith, a bydd yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2021