Byddai'r Gwyrddion yn cefnogi 'cynnydd teg' ar dreth incwm

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CeiniogauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai pwerau dros dreth eu datganoli i Gymru yn 2019

Byddai'r Blaid Werdd yn cefnogi "cynnydd teg" mewn treth incwm er mwyn darparu rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn ôl ei harweinydd yng Nghymru.

Dywedodd Anthony Slaughter bod ei blaid yn credu mai'r "bobl sydd yn gwneud y mwyaf ddylai dalu'r mwyaf".

Ychwanegodd nad ydy'r Gwyrddion eisiau i gyllideb Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i "gynlluniau enfawr i adeiladu ffyrdd".

Mae maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad y Senedd yn addo y bydd gan y gwasanaeth iechyd a chynghorau "y cyllid sydd ei angen i gynyddu eu capasiti".

'Penderfyniadau anodd i'w gwneud'

Pan ofynnwyd iddo sut fyddai'r blaid yn talu am y gwariant ychwanegol ar y GIG, dywedodd Mr Slaughter: "Yr hyn rydyn ni wedi'i weld yn ystod y pandemig ydy, pan fo angen arian, mae modd ei ffeindio.

"Mae'n her, ac fe fydd 'na benderfyniadau anodd i'w gwneud ond mae'r arian yna os oes ei angen."

Ychwanegodd y bydd angen lleihau'r cyllid mewn rhai mannau er mwyn cynyddu gwariant fan arall, ac ar hyn o bryd fod arian yn cael ei wario ar "bethau sy'n gwaethygu'r argyfwng hinsawdd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anthony Slaughter (dde) fod "angen bod yn uchelgeisiol" ar newid hinsawdd

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r blaid yn cefnogi cynnydd mewn treth incwm i gynyddu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, dywedodd Mr Slaughter y byddai'n "cefnogi cynnydd teg mewn trethi".

"Rydyn ni'n credu mai'r bobl sydd yn gwneud y mwyaf ddylai dalu'r mwyaf," meddai.

Yn ôl ymchwil diweddaraf y llywodraeth, fe fyddai cynyddu treth incwm 1c ar gyfer y rheiny sydd yn y band uchaf yng Nghymru - pobl sy'n ennill dros £150,000 y flwyddyn - yn codi £3m.

Fe fyddai'r un cynnydd i'r band canol - pobl sy'n ennill rhwng £50,271 a £150,000 - yn codi £23m y flwyddyn, tra byddai cynnydd i'r band isaf - rhwng £12,571 a £50,270 - yn rhoi £177m ychwanegol i'r llywodraeth.

'Targed uchelgeisiol' ar allyriadau

Mae maniffesto'r Blaid Werdd hefyd yn cynnwys addewid i gyrraedd targed allyriadau carbon net sero erbyn 2030.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno targed o gyrraedd hynny erbyn 2050, ond dywedodd Mr Slaughter y byddai hynny'n "rhy hwyr".

Dywedodd dadansoddiad Cyfeillion y Ddaear o faniffesto'r Gwyrddion bod y targed o fod yn net sero erbyn 2030 yn "uchelgeisiol iawn" ond nad ydy'r polisïau ynddo yn cyd-fynd â'r targed hwnnw.

Ond dywedodd Mr Slaughter: "Fe fyddwn i yn dadlau y byddai ein polisïau yn cyrraedd y targedau hynny.

"Mae'n darged uchelgeisiol ond mae angen bod yn uchelgeisiol."

Fe allwch chi wylio'r cyfweliad yn ei gyfanrwydd ar BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 10:15 fore Sul, ac yna ar iPlayer.