UKIP eisiau adfer yr hawl i ysmygu mewn tafarndai
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai tafarndai yng Nghymru gael y rhyddid i roi caniatâd i gwsmeriaid ysmygu dan do, yn ôl arweinydd UKIP yma.
Dywedodd Neil Hamilton y dylai pobl a busnesau gael "y rhyddid i ddewis".
Mae maniffesto UKIP yn cynnwys caniatáu i landlordiaid gael "ystafelloedd ysmygu", fyddai ar wahân i weddill y dafarn.
Mae pobl wedi cael eu gwahardd rhag ysmygu mewn lleoedd caeedig fel tafarndai yng Nghymru ers 2007.
Ers hynny, cafodd ysmygu mewn cerbydau tra'n teithio gyda phlant ei wahardd yn 2015, tra bod rheiny sy'n ysmygu mewn ysbytai, ar safle ysgol neu barciau chwarae bellach yn gallu wynebu dirwy o £100.
"Os ydy pobl eisiau ysmygu mewn amgylchedd sydd wedi'i rheoleiddio ac nad oes unrhyw un yn cael eu gorfodi i rannu'r un ardal, dydw i ddim yn gweld pam na ddylai pobl gael yr hawl i wneud hynny mewn cymdeithas rydd," meddai Mr Hamilton.
'Newid ein meddyliau ar ddatganoli'
Fe wnaeth UKIP ennill saith sedd yn y Senedd yn yr etholiad diwethaf yn 2016 - gafodd ei gynnal fis cyn refferendwm Brexit.
Ond mae chwech o'r rheiny wedi gadael y blaid bellach, a Mr Hamilton fu'r unig aelod oedd yn cynrychioli UKIP yn ddiweddar.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod y gefnogaeth i'r blaid wedi gostwng yn sylweddol ers 2016.
Pan ofynnwyd iddo ai penderfyniad y blaid i symud ymhellach i'r dde oedd y rheswm dros y gostyngiad, dywedodd Mr Hamilton bod eu maniffesto y tro hwn yn debyg i'r un yn 2016 "oni bai ein bod wedi newid ein meddyliau ar ba mor ddefnyddiol ydy datganoli".
Yn ddiweddar fe wnaeth Mr Hamilton amddiffyn un o ymgeiswyr UKIP ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai, oedd wedi gwneud sylwadau sarhaus am Fwslemiaid ar Twitter.
Roedd Stan Robinson, ynghyd ag ymgeisydd arall UKIP Dan Morgan, yn rhedeg sianel YouTube gafodd ei chyhuddo o fod yn hiliol, cyn i'r sianel gael ei thynnu oddi ar y wefan.
Pan ofynnwyd iddo a ydy UKIP yn blaid hiliol, dywedodd Mr Hamilton: "Wrth gwrs ddim."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Gwalia Deserta
Mae'r blaid hefyd yn cefnogi diddymu'r Senedd, gyda'r slogan "Wedi cael digon ar wleidyddion? Pleidleisiwch i'w diswyddo" ar eu taflenni ymgyrchu.
Fe wnaeth BBC Politics Wales ofyn i Mr Hamilton a oedd hynny'n sinigaidd o ystyried ei fod wedi bod yn wleidydd am ran helaeth o'i fywyd.
"Rydw i wedi bod yn nifer o bethau eraill hefyd - yn fargyfreithiwr, yn newyddiadurwr," meddai.
"Rydyn ni eisiau cael gwared â'r Senedd am fod datganoli yn amlwg wedi bod yn fethiant, ond rydyn ni eisiau mynd tu hwnt i ddatganoli.
"Dydyn ni ddim eisiau i San Steffan benderfynu popeth - rydyn ni eisiau rhoi'r gwasanaeth iechyd yn nwylo'r bobl gan gael byrddau iechyd etholedig, fel gall y rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau yn eu cymunedau lleol gael llais gwirioneddol yn sut maen nhw'n cael eu rhedeg."
Fe allwch chi wylio'r cyfweliad yn ei gyfanrwydd ar BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 10:15 fore Sul, ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2021