Ffrae dros fynediad i draeth poblogaidd yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Daeth nifer o bobl leol ynghyd i ddangos eu gwrthwynebiad
Disgrifiad o’r llun,

Daeth nifer o bobl leol ynghyd i ddangos eu gwrthwynebiad i'r hyn sydd wedi digwydd ger traeth Llanddona

Mae bron i 4,000 o bobl wedi arwyddo deiseb, dolen allanol yn galw am symud cerrig mawr o draeth poblogaidd yn Ynys Môn yn dilyn ymgais bosib i atal eraill rhag parcio yno.

Honnai'r ddeiseb bod "tirfeddianwyr lleol wedi cymryd ar eu hunain" i atal cerbydau rhag parcio ar flaen traeth Llanddona gyda "meini dinistriol a pheryglus" a bod angen i'r awdurdodau weithredu.

Maen nhw'n dweud bod y cerrig yn amharu ar hawliau pobl leol i fwynhau'r ardal ac yn creu rhwystr i'r gwasanaethau brys.

Dywed Cyngor Môn nad nhw sy'n berchen ar y tir dan sylw ond eu bod yn trafod gyda thirfeddianwyr lleol a'r cyngor cymuned i geisio datrys y mater.

Y gred yw bod y cerrig wedi'u gosod ddiwedd Mawrth yn sgil honiadau o "heidiau o faniau gwersylla a chartrefi modur" yn parcio am ddim yno.

'Atal gwasanaethau brys'

Dywed y ddeiseb bod y weithred yn amharu ar hawliau trigolion lleol, gan alw ar y cyngor sir am wardeiniaid a mwy o finiau sbwriel.

Mae'n dweud: "Mae'r bobl hyn wedi dod yma i geisio hawlio perchnogaeth o'r tir yma ac atal eraill rhag ei fwynhau.

"Mae'r cerrig hyn yn atal gwasanaethau brys, fel Gwylwyr y Glannau a'r gwasanaeth ambiwlans, rhag mynd yn uniongyrchol i'r traeth.

"Nod y ddeiseb yma yw dangos na wnawn ni, fel cymuned pentref lleol, adael i hyn ddigwydd ac fe ddown ynghyd a gorfodi Cyngor Sir Ynys Môn i wneud safiad, i'w atal nawr ac i'w warchod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau'r Ardal Harddwch naturiol Eithriadol yma."

Mae'n honni nad yw'r cyngor "wedi gwneud digon" i warchod y traeth, gan alw am "ddarparu'r gwasanaethau perthnasol" fel bod y safle'n "le diogel i deuluoedd ddod gyda'u plant".

Ychwanega bod angen i'r cyngor "roi biniau newydd ar hyd y blaen traeth, gan roi digon o opsiynau i'r rheiny sy'n dymuno dod i'r traeth ei gadw'n lan".

Nid yw'n gwbl glir pwy sy'n berchen ar y tir. Mae Cyngor Cymuned Llanddona wedi trefnu cyfarfodydd yn yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio dod i wraidd y mater a chytuno ar ffordd ymlaen.

Dywed un o'r cynghorwyr, Myrddin Roberts, bod faniau gwersylla'n gallu bod yn broblem, ond nad eu hatal trwy osod meini yw'r ateb.

"Mae rhai o'r bobl hyn ond newydd symud yma ac eto maen nhw'n penderfynu blocio mynediad i draeth hardd y mae cenedlaethau o bobol leol wedi ei fwynhau," meddai.

"Mae llawer o bobol sy'n anabl neu'n oedrannus yn mwynhau cael eu gyrru i lawr i'r traeth ond gallan nhw ddim gwneud hynny rŵan achos does gan y maes parcio cyhoeddus mo'r un mynediad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin Roberts yn aelod o'r cyngor cymuned ac wedi byw yn Llanddona ar hyd ei oes

Dywedodd un o'r cynghorwyr sir lleol, Carwyn Jones: "Dwi wedi gofyn i'r sawl wnaeth osod y cerrig a'r rhwystrau ymosodol yma i'w tynnu ac i gael trafodaeth.

"Cafodd y cais i symud y cerrig ei wrthod gan y rhai 'nath eu rhoi yna.

"Hoffwn i weld y blaen traeth yn dod dan berchnogaeth a gwarchodaeth Cyngor Cymuned Llanddona, fel y cytir o fewn y pentref.

"Dan ni eisiau ateb i hyn, a gobeithio gallwn ni gael pawb o amgylch y bwrdd eto i drafod ymhellach."

Cyngor ddim yn berchen ar y tir

Mewn cysylltiad â'r pryderon ynghylch trafferthion parcio ar y traeth, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Nid yw'r tir ble mae'r parcio yma'n digwydd dan berchnogaeth y cyngor, ac felly ni all y cyngor gymryd unrhyw gamau gorfodaeth neu weithredu unrhyw fesurau i atal, rheoli neu annog defnydd ohono.

"Mae'r maes parcio cyfagos wedi parhau ar agor ac mae ar gael i'w ddefnyddio.

"Rydym ar hyn o bryd yn trafod gyda thirfeddianwyr lleol a'r cyngor cymuned i geisio nodi atebion priodol mewn ymateb i'r materion a'r pryderon lleol."

Mae'r cyngor hefyd wedi cael cais am sylw ynghylch y posibilrwydd o ragor o waith cynnal a chadw a biniau sbwriel yn yr ardal.

Pynciau cysylltiedig