Rhybudd i beidio rhoi moron i ferlod gwyllt y Carneddau
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar i bobl beidio â bwydo'r merlod gwyllt sy'n crwydro mynyddoedd y Carneddau.
Dywed y grŵp sy'n gofalu am yr anifeiliaid eu bod wedi canfod pentyrrau o foron wedi'u gadael allan ar gyfer y merlod ym Mwlch Sychnant yn agos at dref Conwy.
Ond dywed arbenigwyr nad yw systemau treulio'r merlod yn gallu ymdopi â bwyd fel moron neu afalau ac maen nhw mewn perygl o ddatblygu "colig ceffylau".
Mae'r symptomau'n cynnwys chwysu gormodol, eisiau gorwedd yn aml, archwaeth wael a chyfradd curiad y galon uchel.
Bu'n rhaid tynnu caseg ac ebol oddi ar y mynydd ger Conwy yr wythnos hon oherwydd bod yr ebol yn sâl.
Mae milfeddygon yn dal i geisio canfod a oedd y salwch wedi'i achosi gan rywbeth roedd y pâr wedi'i fwyta.
Mae'r ffermwr adnabyddus, Gareth Wyn Jones yn ysgrifennydd Cymdeithas Merlod y Carneddau, grŵp o ffermwyr sy'n rheoli'r merlod.
"Mae moron wedi cael eu darganfod mewn pentyrrau o amgylch Bwlch Sychnant ddwywaith rŵan," meddai. "Ond ni fydd system dreulio'r merlod yn eu chwalu.
"Nid dyna mae'r anifeiliaid hyn i fod i'w fwyta. Maen nhw wedi'u gwneud i fwyta'r glaswellt garw ar y mynyddoedd.
"Pan fydd pobl yn cymryd bwyd ar eu cyfer nhw, dydyn nhw ddim yn sylweddoli'r difrod y gallan nhw fod yn ei wneud.
"Os gwelwch yn dda, peidiwch â bwydo'r merlod yma - dydy o'm yn eu helpu, fe allai eu lladd."
Mae'r merlod wedi crwydro dros fynyddoedd Carneddau ers canrifoedd, ac yn byw mewn ardal o 13,500 erw rhwng Bethesda, Llanfairfechan, Capel Curig a Chonwy.
Ychwanegodd Gareth Wyn Jones: "Mae'r merlod yma wedi cael eu geni a'u magu yma ers Oes y Celtiaid - mae eu stumogau wedi arfer bwyta'r llystyfiant bras.
"Mae pobl yn edrych arnyn nhw yr adeg hon o'r flwyddyn, ac efallai eu bod nhw'n meddwl eu bod nhw'n edrych ychydig yn denau oherwydd eu bod nhw'n dod allan o'r gaeaf ac mae ganddyn nhw ebolion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2013