Arestio dyn wedi ymosodiad rhyw 'difrifol' yn Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn LlambedFfynhonnell y llun, Clonc 360
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu i'w weld yn amlwg yn Llanbedr Pont Steffan nos Iau

Mae'r heddlu wedi arestio dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw difrifol yn Llanbedr Pont Steffan nos Iau.

Cafodd y dyn 45 oed ei arestio fore Gwener ac mae'n cael ei holi gan dditectifs.

Mewn datganiad fore Gwener dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann: "Yn dilyn presenoldeb sylweddol yr heddlu a'r chwilio yn ardal Llanbedr Pont Steffan neithiwr arestiwyd dyn 45 oed y bore yma mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw difrifol.

"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi'r dioddefwr ar yr adeg hon.

"Mae ditectifs pwrpasol yn delio gyda'r sawl sydd dan amheuaeth yn y ddalfa.

"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith o chwilio fynd yn ei flaen, gan ein cynorthwyo i ddod o hyd i'r sawl sydd dan amheuaeth."