Canmol ymgeiswyr Ceidwadol wedi eu canlyniad Senedd gorau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod y canlyniad yn "brawf o'r ymgyrch bositif a redon ni ar draws Cymru"

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi canmol ymgeiswyr ac ymgyrchwyr y blaid wedi iddyn nhw sicrhau eu canlyniad gorau erioed mewn etholiad Senedd.

Llwyddodd y Ceidwadwyr i ennill 16 o'r 60 sedd yn Senedd Cymru, gan guro eu cyfanswm blaenorol gorau o ddwy.

Roedd hynny'n cynnwys trechu Llafur yn Nyffryn Clwyd o 336 pleidlais, ac ennill Brycheiniog a Maesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe enillon nhw seddi ychwanegol ar y rhestrau rhanbarthol hefyd wedi i'r seddi aeth i UKIP yn 2016 ddiflannu i gyd.

Llafur yn dal eu tir

Mae Llafur wedi sicrhau 30 sedd, gan olygu mai nhw fydd yn parhau i lywodraethu ym Mae Caerdydd.

"Mae'r tîm wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau ac mae'n brawf o'r ymgyrch bositif a redon ni ar draws Cymru," meddai Andrew RT Davies.

"Rydw i wrth fy modd yn gweld Natasha Asghar yn creu hanes yn Nwyrain De Cymru fel y ddynes gyntaf o gefndir BAME i gael ei hethol i'r Senedd."

Er hynny roedd disgwyliadau yn gynharach yn yr ymgyrch y gallai'r Ceidwadwyr gipio mwy o seddi Llafur, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Davies yn Nyffryn Clwyd yn un o'r ASau Ceidwadol newydd

Cyfaddefodd Mr Davies fod proffil y prif weinidog Mark Drakeford, sydd wedi bod yn wyneb cyfarwydd i etholwyr yn ystod pandemig Covid-19, wedi chwarae rhan yn hynny.

"Mae wedi bod yn ymgyrch anghonfensiynol ac mae'n amlwg bod cysondeb a dilyniant yn y swydd wedi chwarae rhan bwysig," meddai.

"Hoffwn longyfarch Mark Drakeford a Llafur Cymru ar ymgyrch lwyddiannus."

Wyneb newydd

Bydd Natasha Asghar yn cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru ble roedd ei diweddar dad, Mohammad Asghar, hefyd yn gyn-Aelod o'r Senedd.

"Dwi eisiau ysbrydoli mwy o bobl, nid dim ond o gefndiroedd lleiafrifol, ond pobl ifanc yn ehangach," meddai.

"Mae ystod eang o bobl allan yna sy'n fedrus a gyda'r gwybodaeth, profiad a sgiliau bywyd fydd yn ased i'r Senedd yn y dyfodol."

Yn ogystal â Ms Asghar, bydd gan y Ceidwadwyr sawl wyneb newydd arall yn eu plith pan fyddan nhw'n dod at ei gilydd yn y Senedd y tro nesaf.

Yn eu plith mae James Evans (Brycheiniog a Maesyfed), Sam Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro), Peter Fox (Mynwy) a Gareth Davies (Dyffryn Clwyd).

Ar y rhestrau rhanbarthol mae Sam Rowlands (Gogledd), Joel James (Canol De) a Thomas Giffard (Gorllewin De), yn ogystal ag Altaf Hussain (Gorllewin De), sy'n dychwelyd i'r Senedd ar ôl cyfnod byr rhwng 2015-2016.