Ymosodiadau hiliol: Menyw'n ddig am arafwch yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Gabriela Tavares a Tattiana Alfaia
Disgrifiad o’r llun,

Gabriela Tavares gyda'i mam, Tattiana Alfaia

*Mae'r erthygl hon yn cynnwys sylwadau o natur hiliol*

Mae menyw 19 oed sydd wedi cael ei cham-drin yn hiliol fwy nag unwaith dros y blynyddoedd eisiau i awdurdodau gymryd y mater o ddifrif.

Dywedodd Gabriela Tavares fod yr heddlu'n araf yn ymateb i'r digwyddiad diweddaraf pan gafodd ei cham-drin ar noson allan yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn gresynu nad oedd wedi gallu ymateb o fewn ei amser targed 48 awr oherwydd galw mawr.

Ychwanegodd y llu fod troseddau casineb yn cael eu cymryd o ddifrif a bod ymholiadau yn yr achos yn parhau.

Dywedodd Ms Tavares fod cwsmer arall yn nhafarn Greenfield y dref ddefnyddio sylw hiliol yn ei herbyn dros benwythnos Gŵyl Banc mis Mai.

Mae'r dafarn wedi gwrthod gwneud sylw.

"Dwi'n upset ond dwi hefyd yn ddig," meddai Ms Tavares.

Dywedodd mai dyma'r diweddaraf mewn nifer o ddigwyddiadau sydd wedi gadael iddi deimlo'n isel ac eisiau symud i ffwrdd o'r ardal lle mae hi wedi ei magu.

Ar hyn o bryd mae Ms Tavares yn astudio trin gwallt yn Llanelli ac yn gobeithio parhau â'i hastudiaethau yn Birmingham yn ddiweddarach eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gabriela Tavares ei bod eisiau symud i ffwrdd o Lanelli

"Does dim esgus dros wneud hwyl am ben lliw croen rhywun," meddai.

"Mae'n gwneud i mi deimlo fel nad ydw i cystal â'r person arall. Ni allaf helpu lliw fy nghroen.

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n isel, fel nad ydw i eisiau bod yma. Rydw i eisiau symud i ffwrdd."

Dair blynedd yn ôl, roedd Ms Tavares, 16 oed, a'i chwaer iau mewn parc pan ddechreuodd dau fachgen wneud hwyl am ei phen.

Dywedodd fod un bachgen yn "fy ngalw'n fwnci, ​​yn taflu cnau ata'i, a defnyddio'r gair 'n'".

"Nid oedd fy chwaer erioed wedi profi unrhyw beth felly - roedd hi wedi upsetio'n lân," meddai.

Dywedodd mam Ms Tavares, Tattiana Alfaia, fod yr heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiadau yn y parc a'r dafarn.

Dywedodd fod swyddog o Heddlu Dyfed-Powys wedi cysylltu â nhw fwy nag wythnos ar ôl y digwyddiad diweddaraf.

"Hoffwn i'r heddlu gymryd hyn o ddifrif," meddai.

"Hoffwn i'r bobl hyn gael gwybod nad yw'n dderbyniol.

"Hoffwn weld mwy o weithredu - pobl yn ymddiheuro i Gabby.

"Os ydych chi'n galw rhywun yn N-word a does dim yn digwydd i chi, rydych chi'n mynd i barhau i'w ddweud," ychwanegodd.

Dywedodd Ms Tavares ei bod yn credu bod hunanfodlonrwydd yn ei chymuned leol ynghylch hiliaeth.

"Mae'n fwy cyffredin nag yr ydych chi'n meddwl," meddai.

'Ymddiheuro am yr oedi'

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael gwybod am y gŵyn ar 2 Mai a chysylltodd Swyddog Cymorth Troseddau Casineb ar 6 Mai.

Dywedodd llefarydd fod swyddogion o'r tîm plismona cymdogaeth wedi mynychu'r lleoliad i ddechrau ymholiadau yr wythnos diwethaf.

Cysylltwyd â Ms Tavares eto ar 10 Mai, meddai, gydag arolygydd hefyd yn cysylltu y diwrnod canlynol i "drafod ei phryderon ac ymddiheuro am yr oedi yn y cyswllt cychwynnol".

Cadarnhaodd y llefarydd fod ymchwiliadau'n parhau.