Stopio yfed: ‘Dwi isho bod yn hollol bresennol i mhlant’

  • Cyhoeddwyd
Catrin HeleddFfynhonnell y llun, Catrin Heledd

Mae rhoi'r gorau i yfed alcohol yn benderfyniad personol, ac mae gan bawb eu rhesymau penodol pam eu fod eisiau gwneud hynny.

Roedd gan Catrin Heledd, sylfaenydd y dudalen Instagram newydd, Sobor o Dda, dolen allanol, ei rhesymau ei hun am pam ei bod hi wedi stopio.

"I ddeud o'n syml iawn, o'n i jyst yn yfed gormod.

"Ac 'wrach trwy fi yn deud 'o'n i'n yfed gormod', mae 'na rywun wedi ffurfio 'wbath yn pen nhw bo' fi'n cysgu ar rhyw park bench yn rhwla a mynd i gwaith 'di meddwi a ballu, a do'n i'm yn gneud hynny.

"'Swn i'n cael glasied o win yn gneud swper, 'swn i'n cael glasied o win arall wrth fwyta a wedyn 'dwi 'di cael dau... so waeth i fi orffen y botel!'. Mae limit pawb yn wahanol, a fasa rhai yn deud 'dwi'n yfed hynny a dio'm yn broblem i fi', ond o'n i jyst 'di cyrraedd pwynt, 'mae o'n broblem i fi'."

Ffynhonnell y llun, Catrin Heledd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Catrin wedi penderfynu ei bod hi'n yfed gormod, ac felly ei bod hi'n amser rhoi'r gorau iddi

'Gweld y byd yn fwy lliwgar'

Roedd Catrin wedi trio rhoi'r gorau iddi fwy nag unwaith dros y blynyddoedd, ond ddim wedi cael fawr o lwc. Rhywsut, mae'r ymdrech ddiweddaraf wedi bod yn wahanol, meddai.

"Eleni, o'n i'n gweithio dros Dolig a dros y flwyddyn newydd, so doeddwn i ddim yn yfed ar yr adegau yna pryd bynnag, ond rhwng y ddau, nes i jyst penderfynu dwi'n mynd i roi trei arni, er do'n i ddim yn hyderus iawn. A nes i sticio ati - o'n i'n synnu fy hun pa mor dda oedd o.

"O'dd pethau'n dechrau newid o fewn y mis cynta' 'na - fy nghroen i'n gwella, o'n i'n cysgu lot yn well, nes i golli bach o bwysau, a jyst gweld y byd yn lot mwy lliwgar. O'dd o'n amazing. Dyma Ionawr yn mynd heibio, a dyma fi'n teimlo 'I'm doing this, I'm on it!'"

Perthynas iach efo alcohol

Fel yr eglurodd Catrin wrth Hanna Hopwood Griffiths ar raglen Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru, mae dod yn fam i efeilliaid bach wedi chwarae rhan yn ei phenderfyniad i fyw'n ddi-alcohol.

"Unwaith ti'n dod yn fam, mae beth wyt ti'n meddwl am a ffocws ti yn newid. A dwi jest isho bod yn hollol bresennol i mhlant i, a mae o mor syml â hynny.

"Mae fi a ngwraig i wedi mabwysiadu efeilliaid, a fel lot o blant sydd wedi cael eu mabwysiadu, 'dan ni'n hollol ymwybodol bod 'na risg uchel iawn bod ni'n mynd i gael diagnosis yn y blynyddoedd i ddod o Foetal alcohol spectrum disorder. Mae o wastad yn cefn meddwl ni, a dwi rili isho'r genod i gael perthynas iach efo alcohol.

Ffynhonnell y llun, Catrin Heledd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin a'i gwraig Gwawr eisiau sicrhau fod gan eu merched berthynas iach gydag alcohol

"Mami C a Mami G yda ni - a dwi isho iddyn nhw wybod, mae Mami C yn dewis peidio yfed achos tydi ei pherthynas hi ddim yn un iach efo alcohol. Dwi efo problem efo moderation, so y peth gorau fedra i wneud ydi peidio yfed yn gyfangwbl.

"Ond mae 'na alcohol yn y tŷ 'ma, tydi Mami G ddim fatha Mami C, mae hi'n medru cael glasied o win a dyna fo - mae hi'n hollol wahanol i fi yn y ffordd yna.

"Fel rhieni, 'da ni'n role models ar ddiwedd y dydd, a dyna sut o'n i'n teimlo am bethau."

Disgrifiad,

Catrin yn siarad gyda Hanna Hopwood Griffiths ar Gwneud Bywyd yn Haws

Trafod bod yn sobor... yn Gymraeg

A hithau wedi bod yn ddi-alcohol ers 'chydig o fisoedd bellach, mae Catrin nawr wedi sefydlu tudalen Gymraeg ar Instagram sydd yn cynnig cyngor i bobl sydd eisiau byw bywyd heb alcohol. Roedd hi wedi sylwi fod yna ddigon o safleoedd ar gael yn Saesneg, ond dim yn Gymraeg, meddai, ac roedd hi'n siŵr fod yna nifer o bobl mewn sefyllfa debyg iddi hi.

"Dim [iechyd meddwl] ydi pwynt y cyfrif ond mae o bendant yn feature ynddo fo - jyst trio hyrwyddo bod yn iach o ran iechyd meddwl a meddwl am y triggers gwahanol i bobl o ran gorbryder ac iselder.

"Ar ddiwedd y dydd, depressant ydi alcohol, felly yn amlwg, 'da chi mynd i fynd ar downer ar ôl yfed. 'Swn i'n cymryd annual leave o'r gwaith yn y gorffennol, 'swn i 'di bod yn yfed bob noson yr wythnos - a'r wythnos canlynol, 'swn i'n rili stryglo efo mood fi a dwi'n meddwl fod lot o bobl yn teimlo fel'na.

Pwy 'sa'n meddwl bod peidio yfed yn medru bod yn gymaint o hwyl?!"

"Mae o'n rili difyr gweld yr ystadegau diddorol 'ma gan Instagram. Ar hyn o bryd, mae o'n denu mwy o ferched na dynion, a'r oedran mwya' ar hyn o bryd ydi 35-45, a dyna 'di'r bracket dwi'n disgyn mewn i.

"Dwi'n meddwl 'wrach yn yr oedran yna, ti 'di byw dipyn, a ti 'di gneud dy fistêcs di, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, mae 'na lot o bobl wedi cael y cyfle i ail-asesu lle maen nhw a meddwl lle maen nhw isho mynd yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Sobor o Dda
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o hoff 'mocktails' Catrin: Eirin gwlanog ac afal, a gin di-alcohol gyda sudd blodau'r ysgaw

Mae Catrin hefyd yn cynnig cyngor am ddiodydd addas i'w hyfed os am osgoi alcohol. Ar ôl ychydig o fisoedd o fod yn sobor, meddai, roedd hi'n dechrau diflasu ar y diodydd roedd hi'n eu hyfed; y sudd ffrwythau a'r te amrywiol 'a teimlo fatha rhyw 80 year old yn yfed Horlicks cyn mynd i ngwely...!'

Ond beth mae hi eisiau ei bwysleisio i'w dilynwyr yw nad oes rhaid i fywyd di-alcohol fod yn llawn diodydd diflas. Ar ôl derbyn hamper o amrywiaeth o ddiodydd di-alcohol gan ei gwraig ar ei phenblwydd - yn gwrw, seidr, gwirodydd a syrups amrywiol ar gyfer gwneud mocktails - mae'r Horlicks wedi cael ei daflu i'r bin, a dydi hi ddim wedi edrych nôl...

"Dwi'n cofio deud, ar ddiwrnod fy mhenblwydd i, pwy 'sa'n meddwl bod peidio yfed yn medru bod yn gymaint o hwyl?!"

Hefyd o ddiddordeb: