Gwyddonwyr o Gymru'n ceisio 'ailrewi' Pegwn y Gogledd
- Cyhoeddwyd
Ceisio ailrewi Pegwn y Gogledd - swnio'n amhosib efallai ond dyna nod uchelgeisiol grŵp o wyddonwyr o ogledd Cymru, sydd wedi dyfeisio peiriant iâ arloesol sy'n cynhyrchu rhew o ynni adnewyddol.
Mae'r 'Peiriant Ailrewi' fel mae'n cael ei alw yn ffrwyth llafur blynyddoedd o ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a rŵan mae'r dechnoleg yn barod i'w phrofi yng ngogledd Canada.
Mae'n rhan o obeithion ehangach i hybu proffil gogledd Cymru o fewn y diwydiant ynni gwyrdd.
Mae'r peiriant yn gweithio trwy dynnu dŵr i fyny o'r môr gyda phwmp sydd wedi'i bweru gan wynt, a'i wasgaru fel haenau ar yr wyneb i ailrewi.
Cwmni gwirfoddol Real Ice sydd tu cefn i'r syniad ac mae eu hymdrechion wedi tynnu sylw'r Cenhedloedd Unedig ac ymgyrch amgylcheddol ryngwladol For Tomorrow.
Rheolwr Gyfarwyddwr Real Ice ydy Cian Sherwin, sy'n arwain tîm gwirfoddol o raddedigion a myfyrwyr o Fangor.
Dywedodd: "Rydym wedi datblygu peiriant cynhyrchu iâ sy'n cael ei bweru gan wynt, sy'n hawdd i'w symud o gwmpas, a'r nod ydy bod pobl Inuit lleol yn cael eu cyflogi o fewn y prosiect yma.
"Mae seiliau eu cymunedau yn llythrennol doddi ac mae colli eu ffordd o fyw yn achosi problemau cymdeithasol, gan gynnwys colli diwylliant a bywoliaeth a phobl ifanc yn symud i ffwrdd i chwilio am waith."
"Un o'r prif ffactorau sy'n achosi i dymheredd y môr godi a'r capiau rhew i doddi ydy bod rhew teneuach yn amsugno mwy o wres yr haul yn hytrach na'i adlewyrchu'n ôl, gan gyflymu'r broses ddadmer.
"Mae'r broses o adlewyrchiad o'r iâ yn cael ei adnabod fel effaith Albedo a thrwy gynyddu'r adlewyrchiad mae modd lleihau faint o wres mae'r môr yn amsugno a faint o'r iâ sy'n dadmer.
"Mae môr lle mae 'na rew ac eira drosto yn adlewyrchu 90% o ymbelydredd yr haul, lle mai ond 6% sy'n cael ei adlewyrchu os nad oes unrhyw eira neu rew yn gorchuddio.
"Os allwn ni gael haen dewach o rew yna bydd y gwres yna'n cael ei adlewyrchu allan ac yn atal rhywfaint o iâ y pegynau rhag toddi."
Joshua Roberts, un o wirfoddolwyr Real Ice sy'n esbonio mwy:
"Be 'da ni 'di wneud sy'n arloesol ydy creu peiriant sy'n lot llai mewn maint a sy'n medru cael ei ddefnyddio gan ddau berson.
"Be' ma' hyn yn galluogi ni i wneud ydy rhoi'r peiriant i aelodau o'r gymuned Inuit sy'n medru wedyn sefydlu'r peiriant lle maen nhw'n gweld mae ei angen o.
"'Da ni'n gweld bod yr ardal yn eitha' tebyg i ogledd Cymru neu Ynys Môn mewn rhai ffyrdd, lle mae pobl ifanc yn gadael yr ardal oherwydd diffyg gwaith.
"'Da ni'n gobeithio drwy greu 'chydig o gyflogaeth efo'r peiriant yma, bydd nifer y bobl sy'n gadael yn lot llai."
Mae llawer o'r gwaith ymchwil wedi'i gynnal yn labordai Prifysgol Bangor a'r sefydliad yn falch o chwarae rhan yn y prosiect.
Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor:
"Mae'r brifysgol gyda phwyslais mawr ar gynaladwyedd.
"Mae 'di bod yn ardderchog efo'r prosiect yma i fyfyrwyr peirianneg y brifysgol weld bod be' maen nhw'n ei astudio yn mynd i fod ag effaith yn y byd go iawn."
Wrth helpu rhan arall o'r byd, mae gobaith hefyd o roi hwb yn fwy lleol fel yr esbonia Josh Roberts:
"Dwi yn gobeithio bydd gogledd Cymru'n dod yn hwb ynni gwyrdd a thechnoleg gwyrdd er mwyn i ni wneud gwir wahaniaeth i sefyllfa'r byd.
"Dwi'n meddwl bod ni wedi cychwyn ar y siwrne honno yng ngogledd Cymru ond mae 'na lot mwy fedra' ni ei wneud."
Os bydd modd sicrhau cyllid, y nod ydy profi'r peiriant yn yr Arctig dros y gaeaf, gan ddod ag ymdrechion Cymreig i ateb problem fyd eang gam yn nes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021