'Rwy'n tristáu am y pethau mae hi wedi'u colli'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Abigail Wright:
Disgrifiad o’r llun,

Dr Abigail Wright: Gallai cyfyngiadau arwain at rai teuluoedd i boeni am ddatblygiad eu plant

Fe all diffyg cysylltiad gyda theuluoedd eraill yn ystod y cyfnod clo beri i rai teuluoedd boeni am ddatblygiad eu plant, medd seicolegydd plant.

Dywedodd Dr Abigail Wright y gallai'r cyfyngiadau ar fywyd dyddiol achosi i rai boeni am effaith y pandemig ar blant ifanc.

Cred rhai rhieni fod eu plant wedi bod ar eu colled o ran dysgu sut i gyd-chwarae, ond dywed eraill fod eu plant wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo.

Fe wnaeth adroddiad diweddar awgrymu bod sgiliau siarad rhai plant ifanc wedi dioddef dros y flwyddyn ddiwethaf.

Tra bod yna lai o gyfleoedd wedi bod i blant dywed Dr Wright nad yw hyn o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwael.

Yr hyn sy'n bwysig, meddai, yw sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sydd ei angen.

"Mae yna gamargraff cyffredinol mai dim ond y tu allan i'r cartref mae modd datblygu sgiliau cymdeithasol, gyda chyfoedion ac oedolion eraill.

"Byddwn yn hoffi sicrhau rheini a gofalwyr bod y cyfathrebu a'r cysylltiad rydym yn ei gael yn y cartref yn holl bwysig."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Eos sy'n un oed yn mynd mewn troli siopa am y tro cyntaf

Mae Sammie Bond o Abertawe yn fam i ddau o blant ifanc, Eos sy'n un oed a Cadno sy'n ddwy a hanner.

Dywedodd ei bod wedi poeni am effaith y cyfyngiadau ar ei phlentyn ieuengaf.

"Roedd hi mor fach, roeddwn yn nerfus. I ddweud y gwir dwi ddim wedi mynd â hi rhyw lawer i lefydd a dyw hi ddim wedi bod mewn lle soft-play.

"Rwy'n tristáu weithiau am y pethau mae hi wedi eu colli."

Ond dywedodd tra y byddai wedi hoffi gweld Eos yn cael mwy o brofiadau o'r fath, mae'r cyfnod clo wedi gweld datblygiadau positif o ran Cadno.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sammie Bond a Cadno

"Fe wnaethom ddatblygu yn rhyw fath o gymuned iddo. Rwy'n teimlo fod ei hyder wedi cynyddu oherwydd hynny."

Dywed rhai rhieni sydd wedi methu cwrdd â ffrindiau eu bod wedi troi at dechnoleg er mwyn cael cefnogaeth ychwanegol.

Disgrifiad,

Covid a datblygiad plant: "Dyw Owen ddim 'di cwrdd â hanner ei deulu"

Dywedodd Rebecca Gardinville o Gaerffili ei bod yn anodd peidio â chymharu eich plentyn gydag eraill.

Mae ei mab Owen yn chwe mis oed.

"Rydym yn poeni am bopeth. Yn tynnu lluniau o bopeth ac yn meddwl, ydi hyn yn normal?

"Rwy'n credu ei fod e'n datblygu yn dda - rydych yn trio ei asesu ac mae yna lwyth o apps yna i'ch helpu.

"Ar ddiwedd y dydd maen nhw'n datblygu ar gyflymder eu hunain."

Mae Dr Wright yn cytuno â hyn gan ddweud tra gall pethau fel apps fod yn ddefnyddiol i helpu nodi carreg filltir neu'i gilydd, dylai nhw ddim cael eu gosod fel targed gan y gall hyn arwain ar roi pwysau ar rieni.

"Maen nhw'n gallu bod yn help i rieni i geisio deall lle y gall disgwyl i blentyn fod o ran ei ddatblygiad - ond 'disgwyl' yw'r gair allweddol.

"Mae yna risg o greu pryder i rieni."

"Dylid eu defnyddio (apps) fel man i asesu yn hytrach na rhestr sydd angen ei thicio."

Pynciau cysylltiedig