Ymosodiadau ar weithwyr brys 'yn digwydd yn amlach'
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog heddlu wedi galw am ddedfrydau llymach ar gyfer achosion o ymosodiad ar weithwyr y gwasanaeth brys.
Daw sylwadau Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly wrth i wasanaethau brys Cymru lansio ymgyrch yn condemnio cam-drin a ddioddefir gan staff.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod ymosodiadau gan gynnwys brathu a phoeri, ar gyfartaledd, 10% yn uwch y mis yn ystod y pandemig.
Dywed y Swyddfa Gartref bod dedfrydau yn achos y fath ymosodiadau yn cael eu dyblu.
"Rhaid i ni edrych ar y troseddau hyn ac mae angen i gymdeithas ddweud nad ydyn nhw'n dderbyniol," meddai Ms Kelly.
"Mae angen adlewyrchu hynny mewn cosbau mwy llym a dedfrydau llymach."
'Anodd dod o hyd i heddwas sydd heb ddioddef'
Cafodd PC Emily Hughes o Heddlu Gwent ei brathu ar y llaw wrth geisio ffrwyno troseddwr tra'n mynychu digwyddiad domestig yn 2020.
"Roedd yn mynd yn hynod dreisgar tuag at y swyddogion ac nid oedd yn gwrando ar unrhyw un o'r gorchmynion geiriol," meddai.
"Fe wnes i grudo ei ben i'w atal rhag achosi anaf iddo'i hun, dyna pryd frathodd fy llaw a thorri'r croen.
"Yn anffodus, rwyf wedi dioddef ymosodiad gryn dipyn o weithiau. Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn amlach.
"Mae'n debyg y byddech chi'n cael trafferth dod o hyd i swyddog sydd ddim wedi dioddef ymosodiad ar ryw adeg yn ystod eu dyletswyddau."
Fe ddioddefodd y parafeddyg Darren Lloyd ymosodiad tra'n gweithio ym Mangor ym mis Ebrill 2019.
Ar ôl trin dyn yr oedden nhw'n credu oedd wedi cal gorddos o gyffuriau, fe ddechreuodd y dyn ymosod arno a'r tîm.
"Mewn geiriau eraill, mi wnaeth o jesd diolch i mi am wastio ei hit o, fel petai," meddai.
"Pynshodd o fi ddwywaith yn fy mraich. Nath yr un gyntaf frifo fi dipyn i ddweud y gwir. Fel oedd o'n cario 'mlaen nes i droi i ffwrdd a mynd allan trwy'r drws ochr.
"I gael fy mrifo gan rywun, mae o yn cael effaith ar rywun. Yn anffodus, efo rhywbeth fel 'na mae o'n parhau am amser. Mae rhywun yn teimlo 'be wnaethon ni'n wrong?'"
Pryder am dafarnau
Gyda thafarndai yng Nghymru ar fin ailagor dan do ddydd Llun, mae pryder am gynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar yr heddlu, criwiau ambiwlansys a chriwiau tân.
Mae ffigyrau o'r gwasanaethau brys yn dangos bod brig mewn nifer yr ymosodiadau wedi digwydd pan gafodd gyfyngiadau'r cyfnod clo cyntaf eu llacio yr haf diwethaf - gyda 256 o achosion wedi'u cofnodi ym mis Gorffennaf a 253 yn Awst.
Roedd y rhan fwyaf o ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu, gyda thraean yn arwain at anaf.
Mae'r data hefyd yn dangos bod mwy na 600 o achosion o staff ambiwlans yn cael eu hymosod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Tachwedd 2020.
Ond arweiniodd cyfran lai o ymosodiadau ar staff ambiwlans at ryw fath o achos troseddol.
Cyflwynwyd y Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys yn 2018 gan roi pwerau dedfrydu mwy difrifol i lysoedd mewn achosion pan mae ymosodiad wedi bod ar weithwyr y gwasanaethau brys.
Dyblodd y ddeddf uchafswm y ddedfryd carchar o chwe mis i 12 yng Nghymru a Lloegr.
Yn 2020, lansiwyd ymgynghoriad i ystyried dyblu'r ddedfryd uchaf eto.
Dywedodd Pam Kelly: "Fy mhryder i yw nad yw'r dedfrydau weithiau yr hyn y dylen nhw fod ac, felly, nid yw ein staff yn rhoi gwybod am ymosodiadau yn eu herbyn am nad ydyn nhw'n teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw.
"Rwy'n credu bod gwir angen i ni edrych ar ddedfrydau a chosbau i'r bobl hynny sy'n cyflawni'r mathau hyn o droseddau.
"Nid yw'r cosbau'n aml yn mynd yn ddigon pell.
"Mae angen i ni sicrhau, pan ymosod ar weithiwr gwasanaeth brys, bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu ar eu cyfer."
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn pryderu am yr effaith hirdymor ymosodiadau ar staff, gyda rhai dioddefwyr ddim yn dychwelyd yn ôl i'r gwaith am fisoedd.
"Y broblem 'da ni'n gael ydi'r effaith mae hwnna'n ei gael ar unigolyn," meddai Dylan Parry, Swyddog Prosiect Trais ac Ymosodiadau y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.
"Da ni wedi colli pobl ar ôl achosion fel hyn am fisoedd. Wedyn wrth gwrs dydi hynny'n gwneud dim daioni iddyn nhw fel person ac mae o'n creu problemau wedyn i'r gwasanaeth."
Mae'r gwasanaethau brys wedi lansio ymgyrch blwyddyn o hyd sy'n annog y cyhoedd i "weithio gyda ni, nid yn ein herbyn"
Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan Heddlu Gwent ar ran Grŵp y Cyd-wasanaethau Brys:
Cofnodwyd 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys yr heddlu, criwiau tân ac ambiwlans yng Nghymru, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Tachwedd 2020, gyda chynnydd misol ar gyfartaledd o 202 o achosion yn 2019 i 222 yn 2020;
Roedd ymosodiadau'n amrywio o gicio, dyrn, poeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol;
Fe ddigwyddodd mwy na hanner (58%) y digwyddiadau yn Ne Ddwyrain Cymru, a thros draean (37%) eu hachosi gan bobl o dan ddylanwad alcohol;
Wrth i'r rownd gyntaf o gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio yng Nghymru, Gorffennaf 2020 (256 o ymosodiadau) ac Awst 2020 (253 o ymosodiadau) welodd y nifer uchaf o ymosodiadau ar weithwyr brys, gyda chynnydd o 20% yn uwch na'r cyfartaledd misol o 212;
Roedd 629 (15%) ymosodiadau ar staff gwasanaeth ambiwlans Cymru dros y cyfnod o 20 mis, o barafeddygon i staff ystafell reoli.
'Arwyr rheng flaen'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod gweithwyr brys yn "arwyr rheng flaen sy'n risgio'u bywydau bob diwrnod i'n cadw'n ddiogel, ac eto mae rhai unigolion ffiaidd yn meddwl bod hi'n dderbyniol i ymosod, pesychu neu boeri" arnyn nhw.
Ychwanegodd: "Dylai unrhyw un sy'n cyflawni'r gweithredoedd ffiaidd yma ddisgwyl iddyn nhw wynebu grym llawn y gyfraith, a dyna pam rydym yn dyblu'r ddedfryd uchafswm ar gyfer pobl sy'n ymosod ar weithwyr brys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2019
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020