Galw ar y byd rygbi i gyflwyno rheolau fel yr NFL

  • Cyhoeddwyd
Alix PophamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alix Popham chwarae i Gymru 33 o weithiau

Fe ddylai awdurdodau rygbi'r undeb fod wedi ceisio gostwng y nifer o anafiadau sy'n digwydd yn ystod hyfforddi ddegawd yn ôl, medd un sydd wedi sicrhau newidiadau mawr ym myd Pêl-droed Americanaidd.

Dywed cyfreithiwr sy'n arwain her gyfreithiol gan gyn-chwaraewyr bod yna "epidemig" o anafiadau i'r ymennydd o ganlyniad i chwarae rygbi.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad ydyn nhw "fyth yn llonydd" pan mae diogelwch chwaraewyr dan sylw.

Mae rygbi elît wedi gwneud nifer o newidiadau er mwyn delio â chyfergyd - mae chwaraewyr yn gorfod cael asesiad pen os yw swyddogion yn bryderus am anaf ac mae unrhyw un sy'n targedu pen gwrthwynebydd yn cael cerdyn coch.

Ond mae cyn-chwaraewyr proffesiynol wedi dweud wrth BBC Cymru na roddwyd digon o sylw i'r niwed sy'n gallu cael ei achosi gan gyfergydion yn ystod eu gyrfa.

Er bod niwed i'r ymennydd wedi cael ei drafod mor bell yn ôl â'r 1970au, mae ymchwil diweddar yn dangos bod diffyg ymwybyddiaeth am y mater, hyd yn oed ymhlith pobl broffesiynol.

'Ddim yn cofio'

Mae Alix Popham wedi fframio'r crys a wisgodd yn ei gêm olaf pan drechodd y Cymry y Saeson yn 2008 - ac mae lluniau ohono yn dathlu wedi hynny wedi'u dangos iddo.

Ond dyw e ddim yn cofio dim am y gêm.

"Roedd yna gymaint o gyswllt fel bod fy ymennydd yn llidus a dwi'm yn cofio dim byd," meddai.

Flwyddyn wedi ymddeol fe gollodd Alix ymwybyddiaeth tra ar ei feic ac fe fynnodd ei wraig Mel ei fod yn gweld meddyg.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi iddo golli ymwybyddiaeth fe fynnodd Mel Popham bod ei gŵr Alix yn gweld meddyg

Wedi nifer o brofion doedd newyddion y niwrolegydd ddim yn dda. Clywodd Alix a'i wraig ei fod yn dioddef o gyflwr dementia cynnar ac Enseffalopathi Trawmatig Cronig.

Dywed Popham bod y staff meddygol wedi dweud mai ergydion cyson o ganlyniad i chwarae rygbi am 14 mlynedd oedd yn gyfrifol.

"Roedd e'n ergyd asgwrn i asgwrn 15 v 15," meddai, "roedd hyn yn digwydd bob dydd" ac mae'n credu ei fod wedi cael 100,000 o ergydion yn ystod ei yrfa.

NFL yn arwain y ffordd

Yn fuan wedi i Alix ymddeol roedd yna newidiadau mawr i'r ffordd yr oedd Pêl-droed Americanaidd yn cael ei chwarae.

Mae sesiynau cyswllt corfforol mewn gwersylloedd ymarfer wedi'u haneru a dim ond un sesiwn ymarfer o'r fath sydd yna yn ystod yr wythnos.

Mae Dr Thom Mayer o Gymdeithas Chwaraewyr NFL yn amcangyfrif bod chwaraewyr, bellach, yn cael 70,000 yn llai o ergydion yn eu gyrfaoedd.

Wrth gael ei holi a yw e'n credu bod hi'n "broblem" bod rygbi'r undeb wedi methu gwneud newidiadau - dywed ei fod e'n credu bod hynny'n wir a dywedodd na fyddai unrhyw newid yn amharu ar natur y gêm.

Dywed Sean Holley, sydd wedi bod yn hyfforddwr proffesiynol am 15 mlynedd ei fod wedi'i synnu nad yw rygbi'r undeb wedi gweithredu yn yr un modd â'r NFL.

Yn ystod ei yrfa dywedodd nad oedd cyfergyd yn cael llawer o sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sean Holley wedi hyfforddi'r Gweilch

Dywed Popham hefyd nad oedd fawr o wybodaeth am gyfergydion yn ystod ei yrfa.

"Roeddwn i wastad yn meddwl bod cyfergyd yn golygu bod yn llwyr anymwybodol ond dyw hynny ddim yn digwydd mewn 90% o gyfergydion.

"Felly yr unig beth dwi'n gofio wedi cyfergyd yw rhywun yn gofyn a oeddwn i'n teimlo'n sâl ac os nad oeddwn i roedd gen i hawl i gario ymlaen."

Mae'n credu bod awdurdodau'r byd rygbi yn ymwybodol o'r problemau yn ystod ei dymor e'n chwarae ond nad oedd y wybodaeth wedi cael ei phasio i hyfforddwyr a staff meddygol.

Mae Popham a Holley wedi galw ar y byd rygbi i gyflwyno yr un newidiadau â phêl-droed Americanaidd.

Dywed World Rugby - y corff sy'n llywodraethu rygbi'r undeb bod cysylltiad yn ystod hyfforddi yn cael ei adolygu'n gyson ac y byddai unrhyw newidiadau yn seiliedig ar gyngor gwyddonol.

Achosion o niwed yn 'epidemig'

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth Popham a rhai chwaraewyr eraill gyhoeddi eu bod yn dwyn achos yn erbyn World Rugby, RFU ac Undeb Rygbi Cymru am niwed i'r ymennydd.

Dywed eu cyfreithiwr Richard Boardman bod tystiolaeth a gasglwyd i'r achos yn awgrymu bod cymaint â 50% o chwaraewyr rygbi yn dioddef o ryw niwed niwrolegol.

"'Dyw hynny ddim i ddweud y bydd pawb yn byw gyda dementia - mi allai fod yn rhywbeth mwy tymor byr - fel epilepsi.

"Ry'n ni'n credu ei fod yn epidemig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-hyfforddwyr a chwaraewyr wedi galw am newidiadau tebyg i rai yr NFL

Mae disgwyl i'r cwestiynau yn yr achos llys ofyn faint roedd yr awdurdodau rygbi yn gwybod am beryglon cyfergyd a phryd y daethon nhw i wybod.

Mae BBC Cymru wedi gweld bod adroddiadau ar anafiadau pen wedi'u trafod yng nghynhadledd feddygol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 1975.

Fe rybuddiodd un niwrolegydd yr adeg honno y gallai "anafiadau ysgafn" fod yn hynod beryglus.

Yn 1992 mewn cynhadledd arall fe nododd dau niwrolegydd bod tystiolaeth yn dangos y gallai un gyfergyd achosi niwed ac y dylai chwaraewr roi'r gorau i chwarae petai wedi cael tair cyfergyd.

Dywed World Rugby bod y farn ar sut y dylid rheoli cyfergydion yn amrywio.

Anodd profi

Dywed yr Athro Willie Stewart, patholegydd niwrolegol ymgynghorol, bod cyfergyd yn cael effaith "yn ddwfn yn yr ymennydd".

"Wrth i'r pen gael ergyd mae'r ymennydd yn troi o fewn y benglog ac wrth i wythiennau gwaed ymestyn mae newidiadau allweddol yn gallu digwydd," meddai.

Mae'n cyfaddef bod hi'n anodd profi cysylltiad uniongyrchol rhwng ergydion a niwed i'r ymennydd ond bod y dystiolaeth yn awgrymu hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y chwaraewr rhyngwladol Jamie Roberts bod angen mwy o ymchwil yn y maes

Un chwaraewr rhyngwladol sy'n dyheu am gael mwy o wybodaeth yw Jamie Roberts, meddyg a fu'n chwarae rygbi yr un pryd â Popham.

"Mae siarad ag Alix yn gwneud i rywun boeni," meddai.

Mae'n galw am fwy o ymchwil ac yn dweud nad oes prawf pendant ar hyn o bryd.

Yn 2016 fe ddangosodd gwaith ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd bod diffyg ymwybyddiaeth am y mater ymhlith pob broffesiynol a'u bod yn credu bod capiau ar gyfer y benglog yn gallu atal cyfergyd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rheolwr Meddygol URC bod diogelwch chwaraewyr yn flaenoriaeth

Roedd Prav Mathena, Rheolwr Meddygol URC, yn rhan o'r astudiaeth a dywed bod mwy o wybodaeth bellach am effaith cyfergyd.

"Ein neges glir yw y byddwn ni wastad yn cefnogi lles chwaraewyr."

Dywed yr Athro Stewart bod y byd rygbi yn symud chwaraewyr sydd wedi cael cyfergyd yn fuan o'r cae ond bod angen gwneud mwy.

"Mae anaf i'r ymennydd bron ymhob gêm," meddai. "Allwn ni ddim cael hynna."

Mae Alix Popham bellach wedi sefydlu elusen - Head for Change - sy'n creu ymwybyddiaeth am y mater ac yn cefnogi cyn-chwaraewyr.

"'Dwi ddim eisiau bod yn flin," meddai, "dwi am wneud newid positif i'r bechgyn sy'n chwarae nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."