Diflaniad Frankie Morris: Heddlu yn rhyddhau dau

  • Cyhoeddwyd
CCTV yn dangos Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Frankie ei weld ddiwethaf yn gwthio ei feic ger y Vaynol Arms

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Frankie Morris yng Ngwynedd wedi rhyddhau dau o'r bobl gafodd eu harestio dros y penwythnos.

Mae un person yn parhau i gael eu holi ar ôl i'r llanc 18 oed o Landegfan fethu a dychwelyd adref ôl mynd i barti mewn chwarel ger Waunfawr.

Cafodd un o'r tri gafodd eu holi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Cafodd Frantisek "Frankie" Morris, 18, ei weld ddiwethaf ger y Vaynol Arms, Pentir, ddydd Sul, 2 Mai.

Dros y penwythnos fe wnaeth deifwyr afon yr heddlu ymuno yn y chwilio.

Ddydd Llun dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i chwilio yn ardal Pentir.

"Fe fydd presenoldeb sylweddol gan yr heddlu yn parhau ym mhentref Pentir dros y diwrnodau nesaf tra byddwn yn parhau i chwilio," meddai'r prif arolygydd Owain Llewelyn

"Byddwn yn hoffi diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth tra bod ffyrdd lleol yn parhau i gael eu heffeithio a'u cau oherwydd yr ymchwiliad."

Mae deifwyr yr heddlu wedi bod yn chwilio Afon Cegin am "gliwiau" i'w ddiflaniad.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan North West Police Underwater Search & Marine Unit

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan North West Police Underwater Search & Marine Unit

Mae gyrwyr wedi bod yn cael eu stopio gan yr heddlu hefyd, wrth i'r ffordd o Bont Felin, Pentir sy'n mynd tuag at Waen Wen barhau ar gau.

Apeliodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn ar nifer o yrwyr ceir penodol i gysylltu â nhw hefyd, gyda'r lluniau'n cael eu rhannu ar gyfrifon yr heddlu ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi siarad â beiciwr a gafodd ei weld ar deledu cylch cyfyng yn yr ardal ac nad oedd bellach yn rhan o'u hymchwiliad.

Ond maen nhw'n dal yn awyddus i siarad â thri beiciwr a gafodd eu gweld ger y dafarn tua 13:45 y dydd Sul hwnnw.

Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Frankie Morris wedi bod mewn parti mewn chwarel ger Waunfawr cyn iddo ddiflanu

Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn y digwyddiad, neu'r 'rave', yn chwarel Waunfawr ddydd Sadwrn, 1 Mai i gysylltu â nhw.

Cafodd Frankie ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng yn gwthio ei feic ger y Vaynol Arms.

Mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o'r chwilio am Mr Morris, gan ddefnyddio drônau a chŵn.

Pynciau cysylltiedig