Cynllun insiwleiddio tai: Trigolion yn 'difaru'
- Cyhoeddwyd
Dal i ddisgwyl mae degau o drigolion Arfon am waith i adfer eu cartrefi, rai blynyddoedd ar ôl iddyn nhw ymrwymo i gynllun insiwleiddio Arbed.
Dan ofal Llywodraeth Cymru roedd y cynllun yn gyfle am ddim mewn ardaloedd difreintiedig i wneud eu tai yn fwy ynni-effeithlon.
Yn 2014-15 cafodd ffenestri a boeleri newydd eu gosod a waliau allanol eu paentio a'i selio i gynhesu'r tai. Ond buan y daeth y trafferthion i'r amlwg a chwestiynau'n cael eu gofyn am safon y gwaith.
Mae Margaret Roberts a Kerry Roberts yn gymdogion yn Neiniolen. Mae'r ddau yn teimlo "rhwystredigaeth enfawr" wrth geisio sicrhau fod eu cartrefi'n cael eu hadfer.
Yn ôl Kerry Roberts mae o'n cael "problemau efo'r paent ac efo'r ffenestri hefyd. Mae hyn yn mynd ymlaen ers rhyw bedair blynedd rŵan."
Profiad tebyg mae Margaret Roberts wedi'i gael drws nesa.
"Y paent ydi mhroblem i ar dalcen y tŷ. Mae yna rai tai yn cael dŵr i mewn ac ar dai eraill mae'r wyneb yn cracio a dŵr yn mynd i mewn y tu ôl. Pan ddaeth yr arbenigwr yma mi nath o sylwi ar y gwallau ar fy nhŷ yn syth - y ffordd mae pethau wedi cael ei gneud."
Fyny'r ffordd fe wnaeth Newyddion S4C siarad efo un o drigolion eraill Deiniolen. Doedd hi ddim am roi ei henw ond mi wnaeth hi ddangos y difrod i'w thŷ. Mae dŵr yn mynd i mewn drwy'r ffenestri ar adegau ac mae hi'n "difaru ei henaid" medda hi iddi gytuno i'r gwaith.
Mae 'na drafferthion mewn pentrefi eraill hefyd, gyda degau o achosion tebyg mewn tai yn Ninorwig, Y Fron a Charmel. Mae yna enghreifftiau o gladin a phibelli wedi'u gosod yn anghywir, a difrod hefyd i doeau.
Cwmni Willmot Dixon Energy Services gyd-lynodd y gwaith. Fortem Energy Services ydi'r enw bellach. Mae'r cwmni yn ymwybodol meddan nhw o'r cwynion ac wedi ysgrifennu at berchnogion y tai i gynghori ar yswiriant a thelerau'r warant.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei thro yn cyfaddef i'r gwaith ar y tai "syrthio islaw'r safonau disgwyliedig". Mae yna addewid i gefnogi'r trigolion i "symud ceisiadau yn eu blaen."
Mewn ymateb dwedodd Sian Gwenllian AS, sy'n cynrychioli Arfon ac sydd wedi brwydro ar ran y trigolion yma ers Haf 2017, nad ydi hyn bellach yn tycio.
Mae'r preswylwyr meddai wedi "rhoi eu ffydd mewn cynllun yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo, ac maen nhw wedi cael eu gadael i lawr".
"Dim ond yn ddiweddar iawn mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith wedi dod i mewn i'r darlun, oherwydd mae'r llywodraeth wedi bod yn cymryd yr awenau.
"Maen nhw wedi bod yn cyflogi arbenigwyr - dau adroddiad annibynnol. Rhaid dweud fy mod i'n disgwyl wedyn y byddai'r llywodraeth wedi gallu gorfodi'r cwmni i adfer y sefyllfa ar gyfer y trigolion.
"Mae yna edrych rŵan fod yna luchio bai nôl a blaen rhwng y llywodraeth, y cwmni a'r trigolion - unwaith eto yn ceisio gwthio'r cyfan dan y carped."
Tydi Margaret Roberts heb lwyr anobeithio y caiff y sefyllfa ei datrys yn y diwedd.
"Dwi'n gobeithio y bydd rhywbeth yn cael ei wneud i sicrhau nad ydi o'n digwydd yn nunlle arall - bod pentrefi eraill ddim yn gorfod mynd trwy'r hyn da ni di mynd drwyddo fo," meddai.
"Dwi'n sbïo ar yr ochr ddu weithiau, ond dwi'n dal i fyw mewn gobaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017