'100% o blant 7 oed Ceredigion i siarad Cymraeg erbyn 2032'

  • Cyhoeddwyd
ysgolFfynhonnell y llun, PA Media

Fe ddylai fod yn ddyhead fod pob un disgybl yn ysgolion cynradd Ceredigion yn cael eu trochi yn y Gymraeg tan eu bod yn saith oed erbyn 2032, yn ôl adroddiad gan swyddogion addysg y sir.

Mae adroddiad drafft yn nodi fod 72.9% o ddisgyblion Blwyddyn Un ysgolion cynradd yn derbyn addysg Gymraeg yn y sir.

Nawr mae swyddogion am gael gosod targed o 100% ymhen 10 mlynedd.

Mae'r ddogfen ddrafft, Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, dolen allanol, sydd eto i dderbyn sêl bendith cynghorwyr yn trafod sut mae cyrraedd y nod.

"Mae angen mwy o warchodwyr plant sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig yng ngogledd y sir", meddai'r ddogfen.

"Mae Aberystwyth ac Aberaeron wedi cael eu nodi fel dwy ardal lle mae angen mwy o ddarpariaeth gwarchodwyr plant Cymraeg."

Mae yna fwriad hefyd i gynnal proses ymgynghorol yn ardal Aberystwyth a Chei Newydd ynglŷn â chynyddu meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad fod angen mwy o warchodwyr sy'n siarad Cymraeg yng ngogledd y sir

Byddai'r ymgynghoriad yn effeithio ar ddarpariaeth ysgolion Ysgol Plascrug, Ysgol Comins Coch, Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Padarn Sant ac Ysgol Cei Newydd.

Dywed yr adroddiad y byddai angen canolfan trochi newydd yn ardal Aberystwyth, gyda chais eisoes wedi ei wneud i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol.

Mae yna ganolfannau trochi eisoes yn Aberteifi a Felinfach yn benodol er mwyn helpu pobl sy'n symud i'r ardaloedd hynny.

Byddai'r ganolfan yn Aberystwyth yn rhan o'r Ysgol Gymraeg.

"Bydd y cais ar gyfer estyniad Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ychwanegu 30 o lefydd ychwanegol yno ac yn cynnwys Canolfan Iaith."

Mae'r cynllun hefyd yn cyfeirio at deuluoedd di-Gymraeg sy'n symud i'r ardal.

"Bydd unrhyw rieni newydd o'r tu allan i'r awdurdod yn cael eu cyfeirio at swyddog derbyniadau'r awdurdod fydd yn dosbarthu gwybodaeth unffurf fydd yn nodi mai darpariaeth drochi cyfrwng Cymraeg fydd y blynyddoedd cynnar i ddisgyblion hyd saith oed."

Pynciau cysylltiedig