Zebu: Llong hanesyddol wedi'i dinistrio yn y tywydd garw
- Cyhoeddwyd
Mae llong hanesyddol 100 troedfedd o daldra a aeth yn sownd ar forglawdd wedi cael ei datgan yn llongddrylliad ar ôl dioddef difrod "dinistriol" mewn tywydd gwael.
Symudodd y Zebu, a adeiladwyd ym 1938, o Harbwr Newydd Caergybi i'r wal ychydig cyn 16:00 ddydd Sadwrn diwethaf.
Ddydd Mercher roedd perchnogion y llong wedi dweud eu bod yn teimlo'n "bositif" ynglŷn â gallu adfer y llong.
Ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y perchnogion ei fod wedi'i "guro'n erchyll gan y gwynt a'r môr".
Roedd y Capten Gerrith Borrett a syrfëwr morol yn bresennol ym mhorthladd Caergybi ddydd Iau wrth i wyntoedd hyd at 70mya (113km yr awr) daro, gan achosi "difrod dinistriol pellach" i'r llong.
"Yna bu'n rhaid i'r capten wneud y penderfyniad anodd i ddatgan llongddrylliad y Zebu. Erbyn hyn, natur oedd â'r gair olaf," ychwanegodd y datganiad.
Roedd rhybudd tywydd ar gyfer gwyntoedd cryfion a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd ar waith ar draws rhan helaeth o Gymru tan 21:00 ddydd Gwener.
'Diwedd creulon'
Dywed y perchnogion y bydd y llong yn cael ei symud o'r wal "gyda rhywfaint o gyflymder" oherwydd ofnau diogelwch a llygredd, gan ychwanegu fod hyn yn "ddiwedd creulon".
Fe wnaethant ychwanegu ei fod yn "amser hynod heriol yn emosiynol" a gofyn i bobl beidio â gofyn am rannau neu memorabilia "ar yr adeg anodd hon".
Os y bydd modd arbed darnau, dywed y perchnogion "efallai y bydd posibilrwydd y gellir ei hailadeiladu".
Yn y 70au cafodd y llong ei phrynu gan ddyn o Brydain a'i llogi gan Operation Raleigh, elusen a oedd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o Brydain wirfoddoli dramor.
Rhwng 1984 a 1988 fe gariodd dros 500 o bobl ifanc a bu'n ymweld â 41 o wledydd fel rhan o'i gwaith, cyn dychwelyd i Lerpwl, pryd gafodd ei throi yn ganolfan addysg.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r llong suddo.
Yn mis Medi 2015 fe suddodd y llong yn nociau Albert yn Lerpwl, lle oedd hi wedi ei hangori y tu allan i'r Amgueddfa Tate.
Ym mis Ionawr 2017 cafodd y Zebu ei phrynu unwaith eto, a gydag arian o'r Loteri Genedlaethol mae ei sefydliad, Tall Ship Zebu, wedi cynnal gwaith adnewyddu pellach yn y gobaith o'i chael hi yn hwylio yn ôl ar y môr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd16 Mai 2021