Elfyn Evans yn ennill Rali Portiwgal

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Evans ar ddiwrnod olaf Rali PortiwgalFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans yn cystadlu ar ddiwrnod olaf Rali Portiwgal

Mae'r Cymro Elfyn Evans wedi ennill Rali Portiwgal ond fe fethodd â dringo i frig Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Enillodd tri o'r pum cymal olaf ar ran tîm Toyota Gazoo i orffen 28.3 o eiliadau ar y blaen i'r Sbaenwr, Dani Sordo.

Cafodd pwynt bonws hefyd ar ôl dod yn bumed yn y cymal cyflym olaf.

Mae'n hwb i'r gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau, wedi iddo ddod o fewn trwch blewyn i ennill Rali Croatia ym mis Ebrill.

"Mae'n teimlo'n dda," meddai wedi'r ras.

"Falle nad ni oedd y criw mwya' cyflym penwythnos ma', ond ddal ati'n dda a chadw allan o drwbl, ac yn amlwg nathon ni ddigon i gadw'r bwlch gyda Dani heddiw."

Dyma'r pedwerydd tro yn ei yrfa iddo ennill rali.

Ar ôl sicrhau 25 o bwyntiau am ennill ym Mhortiwgal, mae cyfanswm Evans a'i gyd-yrrwr Scott Martin bellach yn 77 wedi pedair rali.

Ei gyd-aelod o dîm Toyota, Sebastien Ogier sy'n parhau ar y brig gyda 79 o bwyntiau, ar ôl sicrhau tri phwynt trwy ddod yn drydydd yn y cymal olaf tu ôl i Thierry Neuville ac Ott Tanak.

Pynciau cysylltiedig