Carwyn Jones: 'Newid hinsawdd wedi llithro lawr yr agenda'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones adael fel aelod o'r Senedd fis yma wedi cyfnod o 22 mlynedd yno

Fe wnaeth mynd i'r afael â chynhesu byd eang lithro "i lawr yr agenda" yn y blynyddoedd yn dilyn cwymp ariannol 2008, yn ôl cyn-brif weinidog Cymru.

Roedd Carwyn Jones yn amddiffyn ei record mewn grym ar ôl cael ei benodi'n gadeirydd yr elusen newid hinsawdd Maint Cymru.

Dywedodd fod angen i'r mater bellach ddod yn "brif flaenoriaeth" y byd, gan rybuddio bod cymunedau cyfan a bywoliaeth pobl mewn perygl o gael eu "dinistrio".

Fe adawodd Mr Jones ei waith fel aelod o'r Senedd y mis yma ar ôl 22 mlynedd.

Dywedodd ei fod bellach am wneud ymgyrchu dros weithredu ar newid hinsawdd - "yr her fwyaf y'n ni wedi wynebu fel pobl ers yr ail ryfel byd" - yn un ffocws o'i yrfa yn y dyfodol.

Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018 fe basiwyd deddfau arwyddocaol ar yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Ond methwyd yn gyson â chyrraedd targedau plannu coed, a bu blynyddoedd hefyd lle'r oedd allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu yn hytrach na gostwng.

Wrth gael ei herio ynglŷn â hyn dywedodd fod "bob amser mwy i'w wneud".

Cyfeiriodd at gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus a sefydlu corff Trafnidiaeth Cymru fel enghreifftiau o weithredu cadarnhaol er gwaethaf beirniadaeth gan y sector amgylchedd mai dim ond gan 3% y syrthiodd allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru rhwng 1990 a 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn cyfeirio at sefydlu corff Trafnidiaeth Cymru fel un o'r camau positif gan ei lywodraeth

"Y broblem o'dd dwi'n credu os ma' pobl yn teimlo'n ddiogel ynglŷn â'u hincwm, eu swyddi, bod ganddyn nhw do dros eu pennau maen nhw'n fwy bodlon i wrando ar y ddadl ynglŷn â lleihau allyriadau," meddai Mr Jones.

"Os ydy pobl ddim yn teimlo'n ddiogel - a 'na beth ddigwyddodd ar ôl crash ariannol 2008 - fe aeth e lawr yr agenda yn rhyngwladol... mwy o bwyslais ar gael mwy o swyddi beth bynnag y gost.

"Nawr diolch byth mae'n mynd 'nôl lan yr agenda - 'nôl i le dyle fe fod sef y flaenoriaeth fwya' yn y byd - a dyna pam wrth gwrs dwi'n gweld e'n anrhydedd i fod yn rhan fach o gwrdd â'r her yna."

Er bod y pandemig wedi dangos sut y gellid cyflwyno newidiadau mawr yn gyflym, roedd hefyd wedi tynnu sylw at y broblem o "wledydd ddim yn gweithio gyda'i gilydd".

Rhywbeth, meddai, sydd angen mynd i'r afael ag ef wrth ymateb i gynhesu byd-eang.

'Effaith gadarnhaol'

Dywedodd fod penderfyniad ei olynydd, Mark Drakeford i sefydlu adran newid hinsawdd yn Llywodraeth Cymru gyda gweinidog a dirprwy weinidog newydd i gymryd cyfrifoldeb am y mater, yn "anfon neges hynod bwysig".

"Gallwn ni roi enghreifftiau ymarferol i ddangos i wledydd eraill ein bod yn gwneud ein rhan yng Nghymru - ry'm ni'n wlad fach ond gallwn ni gael effaith gadarnhaol," meddai.

Dywedodd Cyfarwyddwr Maint Cymru, Nicola Pulman y byddai'r cyn-brif weinidog yn dod â "hanes ar y lefel uchaf o lywodraeth wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd" i waith yr elusen.

Mae'r sefydliad yn cefnogi prosiectau diogelu coedwigoedd a phlannu coed yn Affrica, De America a De-ddwyrain Asia yn ogystal â rhedeg rhaglen addysgol ledled Cymru i helpu i ddysgu pobl ifanc am newid hinsawdd.