Dream Horse: Ffilm Hollywood am hanes rhyfeddol ceffyl o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae hanes y ceffyl Dream Alliance a gafodd ei hyfforddi yn Sir Caerffili gan grŵp o bobl leol - cyn ennill Grand National Cymru - wedi cyrraedd y sgrin fawr.
Fe gafodd y ffilm Dream Horse ei dangos am y tro cyntaf erioed mewn sinema yng Nghoed-duon nos Sul.
Cafodd Jan Vokes y syniad o fagu'r ceffyl ar ei rhandir yng Nghefn Fforest ger Coed Duon 20 mlynedd yn ôl, a dywed bod hi'n gwbl anghredadwy ei bod yn cael ei phortreadu yn y ffilm gan Toni Collette - un o brif actorion Hollywood.
Wedi ei brynu bu grŵp o bobl yn talu £10 yr wythnos i hyfforddi'r ceffyl, a'r uchafbwynt oedd ei weld yn ennill Grand National Cymru yn 2009.
Fe ddechreuodd y gwaith o gynllunio'r ffilm bum mlynedd yn ôl ac roedd hi fod yn barod erbyn 2020, ond oherwydd y pandemig bu oedi.
Dywed y cynhyrchwyr ei bod yn stori berffaith ar gyfer Hollywood.
Mae'r holl waith ffilmio wedi cael ei wneud ym Mlaenafon a Rhymni - doedd dim digon o le ar y safle gwreiddiol yng Nghefn Fforest.
Ymhlith eraill o'r cast mae Damian Lewis, Owen Teale, Joanna Page, Steffan Rhodri, Siân Phillips a Rhys ap William.
"Mae wedi bod yn amser hir ers i ni saethu'r ffilm, ac mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i'r diwydiant teledu, ffilm a theatr - ac i ni fel actorion a phobl sy'n gweithio tu ôl y llenni hefyd", meddai Rhys ap William.
"Felly mae hyn yn arbennig. Mae'n brilliant bod y ffilm yn cael ei gweld a gobeithio y bydd hi'n codi ysbryd pawb ar ôl y pandemig a dangos bod y diwydiant yn dechrau dod nôl ar ei draed."
Euros Lyn yw cyfarwyddwr y ffilm a dywed ei bod yn hynod o bwysig cyflwyno Cymru i'r byd.
"Fel rhywun sy'n dod o'r cymoedd, mae'n bwysig iawn i fi ein bod yn cynrychioli Cymru go iawn ar y sgrin ac mae cyn lleied o ffilmiau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yn cael eu rhannu ar draws y byd.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn dweud y gwir ynglŷn â phwy ydyn ni a bod ni'n cynrychioli ein hunain ar y sgrin.
"Fe wnaethon ni'r ffilm yma i'w dangos mewn theatrau - mae rasys ceffylau i fod yn epig a theatrig.
"Mae calon emosiynol y ffilm yn rhywbeth oedd wedi cael ei gynllunio i gael ei brofi yn y sinema ac wrth gwrs mae'n stori ynglŷn â phŵer cymuned - felly mae gwylio'r ffilm ymysg cynulleidfa a rhannu'r profiad gyda phobl eraill yn atseinio un o themâu canolog y ffilm," ychwanegodd.
Bydd y ffilm yn cyrraedd y sinemâu ym mis Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019