Ymchwilio i asbestos ar draeth 'ble mae plant yn chwarae'

  • Cyhoeddwyd
asbestos
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor bod amodau gwlyb y traeth yn golygu mai ychydig iawn o risg sydd i'r deunydd

Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio yn dilyn adroddiadau bod asbestos wedi ei ddarganfod ar draeth ar safle hen orsaf bŵer.

Dywedodd Mike Theodoulou, Maer Porth Tywyn, ei fod yn "gandryll" am y sefyllfa a'i fod eisiau i'r traeth - rhwng Port Tywyn a Phwll - gael ei gau.

Dywedodd bod ei wyrion ei hun yn chwarae ar y tywod a'i fod yn poeni eu bod nhw ac eraill mewn perygl.

Mynnodd Cyngor Sir Gâr fod y deunydd yn peri "ychydig iawn o risg".

Dywedodd Mr Theodoulou fod yr awdurdod a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael eu hysbysu ddeufis yn ôl, ond nad oedd unrhyw beth wedi'i wneud.

'Plant yn adeiladu cestyll gyda darnau o asbestos'

"Os ewch chi yno, gallwch godi darnau o asbestos sy'n flaky ac yn bowdrog. Mae plant yn chwarae ar y traeth hwnnw, gallwch eu gweld yn adeiladu cestyll tywod gyda darnau o asbestos," meddai.

Roedd Mr Theodoulou yn pryderu y gallai erydiad achosi i'r asbestos gael ei olchi i'r môr o safle hen Orsaf Bŵer Bae Caerfyrddin ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.

Ffynhonnell y llun, Simon Mortimer/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiadau mae asbestos wedi cael ei ddarganfod ar draeth Porth Tywyn yng Nghaerfyrddin

Dywedodd y cyngor eu bod wedi gofyn i arbenigwyr "asesu ychydig bach o ddeunydd sydd o bosib yn cynnwys asbestos".

Ychwanegodd bod y deunydd hwn wedi ei weld ymhlith creigiau ar ddarn o draeth ger Porth Tywyn.

'Ychydig iawn o risg'

Dywedodd llefarydd: "Mae'r deunydd, sy'n edrych fel rwbel a rhannau bach o ddalen rychog, wedi'i weld mewn ardal fach rhywle i'r dwyrain o'r harbwr lle mae erydiad arfordirol yn datgelu rhai olion o ddefnydd diwydiannol blaenorol yn yr ardal.

"Mae'r cyngor yn rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd bod amodau gwlyb y traeth yn golygu mai ychydig iawn o risg sydd i'r deunydd - gall ffibrau asbestos ond fod yn risg os ydyn nhw'n cael eu haflonyddu ac yn mynd i'r aer.

"Fodd bynnag, gofynnir i'r cyhoedd beidio â chyffwrdd na symud y deunydd fel y gall gael ei asesu a'i drin yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Mike Theodoulou
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Theodoulou bod pibellau ar y traeth wedi eu leinio gydag asbestos

Dywedodd Philip Hughes, aelod y cyngor dros amddiffyn y cyhoedd, fod yr ardal dan sylw "lle mae rhai olion o'r orsaf bŵer a gafodd ei dymchwel yn yr 1990au yn cael ei dadorchuddio gan erydiad arfordirol".

Ychwanegodd: "Er y gallwn fod yn dawel ein meddwl nad yw'r deunydd - hyd yn oed os yw'n cynnwys asbestos - yn peri ychydig iawn o risg oherwydd amodau gwlyb yr ardal, rydym yn cynghori pobl i adael llonydd i'r deunydd.

Nid dyma'r tro cyntaf i asbestos gael ei ddarganfod yn y parc - roedd peth ohono yn yr ardal yn 2000 wedi iddo gael ei ganfod gan gyfrifon Gorsaf Bŵer Bae Caerfyrddin.

Gofynnwyd i CNC am sylw.

Pynciau cysylltiedig