Glyn Wise: 'Dim mwy o wigs'

  • Cyhoeddwyd
Glyn WiseFfynhonnell y llun, Twitter

"Mae rhaid i ti ddod i arfer efo ti dy hun. Ti wedi tyfu fyny a does na ddim byd yn anghywir efo hynny."

Mae'r cyn ymgeisydd Big Brother a'r cyflwynydd Glyn Wise wedi rhannu llun o'i hun, dolen allanol yn moeli am y tro cyntaf ar ôl bod yn cuddio'r ffaith ers rhai blynyddoedd oherwydd y pwysau i gynnal delwedd ifanc.

Mewn sgwrs ar Radio Cymru am y disgwyliadau sydd ar ddynion o ran sut y dylen nhw edrych, datgelodd Glyn ei fod wedi bod yn gwisgo wigiau ers tair blynedd i geisio cuddio'r ffaith ei fod yn colli ei wallt.

"Oedd o'n rhywbeth sy' wedi bod yn chwarae ar fy meddwl ers blynyddoedd. O'n i wedi bod yn gwisgo wigs am dair blynedd jyst oherwydd do'n i ddim yn hapus efo'r ffordd oedd y 'ngwallt i'n edrych - wedi teneuo yn y blaen [ac yn edrych fel] gwallt mynach!

"O'n i'n teimlo 'o gosh, dwi ddim isho edrych fel hyn', oedd o bron iawn fel o'n i isho aros yn y ddelwedd o fod yn 18, nid mod i'n tyfu'n hŷn."

Ffynhonnell y llun, Chris Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Glyn Wise yn enwog dros nos ar ôl cyrraedd ffeinal cyfres Big Brother yn 2006

Mae'n bymtheg mlynedd ers i Glyn ddod yn un o'r rhai olaf i adael tŷ Big Brother yn 18 oed gan ddod yn enwog dros nos a chael sylw enfawr yn sgil y gyfres ar Sianel 4.

Doedd ei ddelwedd ddim yn rhywbeth oedd yn croesi ei feddwl ar y pryd ac eto, fe gafodd lawer o waith ac arian wedyn o'i herwydd.

"O'n i'n 18 a does dim byd yn poeni ti pan ti'n ddeunaw achos ti'n ifanc. Y gwahaniaeth mawr oedd nes i allu cael gwaith modelu pan o'n i'n 18; nes i 'neud gwaith efo Calvin Klein, o'n i ar glawr Heat Magazine.

"Mae'r arian maen nhw'n roi i chdi yr adeg yna, ti'n gallu prynu tŷ [efo fo] - oherwydd bod fi wedi bod ar un clawr cylchgrawn: mae clawr un cylchgrawn yn cyfateb i'r arian i gael tŷ yn Llundain. Wedyn mae'n dangos, adeg hynny roedd delwedd yn hollbwysig.

Seilio'n gwerth ar 'likes'

"Ond rŵan, symud ymlaen 15 mlynedd, yn anffodus mewn cymdeithas 'dan ni'n seilio pa mor bwysig ydan ni, neu be' ydi'n gwerth ni, ar faint o likes 'dani'n gael Instagram a Twitter.

"A'r rheiny sy'n cael y mwyaf o likes, o safbwynt dynion, ydy'r rhai sydd ar Men's Health Magazine, lle mae 'na gymaint o gyhyrau neu lle mae eu wynebau nhw'n hollol berffaith. Mae'n siomedig."

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Llun proffil Glyn ar Twitter: dechreuodd wisgo wigiau am nad oedd yn hoffi sut roedd yn edrych wedi dechrau colli ei wallt

Mae'n pryderu, meddai, bod agwedd cymdeithas at ddelwedd dynion yn effeithio ar iechyd meddwl bechgyn a dynion ifanc sy'n meddwl mai dyna sut mae rhaid iddyn nhw edrych i gael y mwyaf o likes, sydd yn ei dro yn golygu y mwyaf o werth sydd ganddyn nhw.

Heneiddio'n falch

Yn ddeunaw oed, roedd bod ar glawr cylchgrawn poblogaidd yn foment falch i Glyn: "O'n i'n meddwl 'Waw, dwi 'di gwneud hi mewn bywyd'.

"O'n i wedi llwyddo ac o'n i mor prowd o'n hun. Ond rŵan dwi'n 33 a mae bron iawn fel mod i yn trio cael be [oedd gen i] yn ddeunaw."

"Ond mae rhaid i ti ddod i arfer efo ti dy hun. Ti wedi tyfu fyny a does 'na ddim byd yn anghywir efo hynny.

Ond yn eironig, mae Glyn wedi cael cynnig mwy o waith ers iddo ddatgelu'r llun ohono heb ei wig.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Glyn Wise

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Glyn Wise

"Be' sy'n od ydi dwi 'di cael lot o ymateb gan gwmnïau eisiau rhoi Botox am ddim imi, gofyn os 'dwi isho facelift. 'Swn i'n gallu cael yr holl bethau ma i gyd am ddim i newid y'n wyneb i gyd achos maen nhw'n gweld be' sy'n mynd ymlaen efo'n Instagram i!"

Ond mae'r pen moel yma i aros meddai Glyn.

"Dwi wedi dod i arfer rŵan - dwi wedi ei roi o ar Instagram, mae o allan yna so wedyn dyna hi rŵan, dim mwy o wigs.

"Ges i rywbeth ofnadwy yn digwydd i fi unwaith, nath y'n wig i ddisgyn off pan o'n i yn yr eglwys yn Shanghai a dwi byth eisiau mynd drwy hynna eto!"

Disgrifiad,

Glyn Wise a Stifyn Parri yn trafod delwedd dynion gyda Catrin Haf Jones

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig