Guto Harri i ymuno gyda sianel newydd GB News

  • Cyhoeddwyd
guto harri

Mae'r sianel deledu newydd GB News wedi cyhoeddi bod y newyddiadurwr Guto Harri yn ymuno gyda'u tîm darlledu.

Wedi gyrfa 18 mlynedd gyda'r BBC, aeth Mr Harri i weithio fel pennaeth cyfathrebu i Boris Johnson pan oedd yn Faer Llundain.

Mae hefyd wedi ysgrifennu colofnau i nifer o bapurau newydd gan gynnwys y Times a'r Daily Telegraph, ac mae'n sylwebydd cyson ar raglenni LBC, Sky a'r BBC.

Ef hefyd yw cyflwynydd Y Byd Yn Ei Le ar S4C, ac fe ddywedodd datganiad GB News y bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'n ymgynghorydd i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Hawthorn Advisers, ac fe fu hefyd mewn swyddi blaenllaw gyda News UK a Liberty Global.

Yn natganiad y cwmni, dywedodd Guto Harri: "Mae GB News yn arloesi mewn ffordd newydd gyda newyddion a thrafodaeth deledu egnïol ac eofn, ac mae hynny'n apelio'n fawr ata i.

"Yn bwysicaf oll mae'r sianel yn benderfynol o adlewyrchu a pharchu ystod eang o safbwyntiau eu cynulleidfa ar draws y DU."

Pynciau cysylltiedig