CPD Abertawe yn anelu am ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair

  • Cyhoeddwyd
Abertawe 2011Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Abertawe eu cyfnod yn yr Uwch Gynghrair gyda dyrchafiad 10 mlynedd yn ôl

Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe yn ceisio efelychu eu llwyddiant 10 mlynedd yn ôl wrth ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Fe fydd yr Elyrch yn herio Brentford yn Wembley, gyda rhai miloedd o gefnogwyr yn cael teithio o dde Cymru i fynychu'r achlysur yn Llundain.

Y gred yw bod ennill ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth gwerth tua £160m i'r enillydd oherwydd y sylw a'r nawdd sydd ar gael i glybiau'r Uwch Gynghrair.

Llwyddodd Abertawe i drechu Barnsley i gyrraedd y rownd derfynol, tra bod Brentford wedi curo Bournemouth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Cooper y byddai ennill dyrchafiad yn "golygu popeth" i'r clwb

Fe wnaeth yr Elyrch drechu Reading yn y gêm hon yn 2011, gan arwain at gyfnod o saith mlynedd yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl disgyn yn ôl i'r Bencampwriaeth yn 2018 mae'r clwb a'r cefnogwyr wedi bod yn ysu i ddychwelyd i'r lefel uchaf.

Brentford oedd wedi gorffen y tymor yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth, tra mai Abertawe oedd yn bedwerydd, a gêm gyfartal 1-1 oedd y canlyniad y ddwy waith i'r timau herio ei gilydd yn y tymor arferol.

Fe wnaeth y ddau dîm wynebu ei gilydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle y llynedd hefyd, gyda'r clwb o Lundain yn llwyddiannus y tro hwnnw ond yn colli i Fulham yn y ffeinal.

Mae rheolwr Abertawe, y Cymro o Bontypridd, Steve Cooper, wedi dweud y byddai ennill dyrchafiad yn "golygu popeth" i'r clwb.

Ffynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffeinal gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei disgrifio fel y gêm fwyaf yn hanes Caernarfon

Ond nid Abertawe ydy'r unig glwb o Gymru sydd â gêm allweddol ddydd Sadwrn, gyda Chaernarfon a'r Drenewydd yn brwydro am le yng Nghynghrair Europa ar gyfer y tymor nesaf.

Ni fydd cefnogwyr yn cael mynychu'r gêm honno ar Yr Oval yng Nghaerarfon, er gwaethaf galwadau gan gefnogwyr a Phlaid Cymru.

Mae ffeinal gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei disgrifio fel y gêm fwyaf yn hanes Clwb Pêl-droed Caernarfon, tra bo'r Drenewydd wedi ennill y gemau ail gyfle yn 2015.

Mae Wrecsam yn chwarae gêm olaf y tymor yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr hefyd, gyda'r gobaith o sicrhau eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle. Ennill, ac fe fyddan nhw'n sicr o'u lle yn y gemau ail gyfle.

Yna ddydd Llun bydd Casnewydd yn herio Morecambe yn ffeinal gemau ail gyfle Adran Dau, gyda hwythau hefyd yn anelu am ddyrchafiad.