Leanne Wood: 'Neges Plaid Cymru wedi bod yn aneglur'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leanne Wood yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 2012 a 2018

Doedd hi "ddim yn glir beth oedd neges Plaid Cymru" yn etholiad y Senedd oni bai am annibyniaeth, yn ôl cyn-arweinydd y blaid, Leanne Wood.

Fe gollodd Ms Wood ei sedd yn Rhondda yn yr etholiad ddechrau'r mis wrth i Lafur adennill yr etholaeth.

Dywedodd bod diffyg eglurder am annibyniaeth, diffyg trefniant a pholisïau aneglur wedi arwain at ganlyniadau siomedig i'r blaid.

Mae Plaid Cymru wedi penodi ei chyn-gadeirydd a phrif weithredwr, Dafydd Trystan i arwain arolwg i'r hyn ddigwyddodd yn yr etholiad wedi i'r blaid golli tir mewn rhai ardaloedd a methu ag ennill unrhyw seddi targed.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leanne Wood wedi llwyddo i gipio sedd Rhondda oddi ar Lafur yn 2016

Dywedodd Ms Wood wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales: "Mae angen i ni egluro i bobl ac ymwneud gyda phobl ynglŷn â pham y byddai'r alwad am annibyniaeth yn newid bywydau pobl, yn rhoi diwedd ar dlodi ac yn rhoi'r cyfle i ni wneud pethau sydd tu hwnt i'n gallu ar hyn o bryd am nad oes gennym ni'r pwerau.

"Dydw i ddim yn credu bod y ddadl wedi cael ei gyflwyno yn y termau hynny.

"Oni bai ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i fywydau pobl pob dydd yna rwy'n ofni y byddan nhw'n rhoi eu pleidlais i rywun arall."

Ychwanegodd: "Roedd annibyniaeth yn un cwestiwn - mae angen i ni hefyd ystyried trefniant. Mae gennym drefniant gwych mewn rhai llefydd ond mewn llefydd eraill dyw e ddim mor grêt.

"Yna mae'r cwestiwn o bolisïau yn ehangach. Dydw i ddim yn rhy siŵr beth oedd ein neges ganolog yn yr etholiad yma tu hwnt i annibyniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Leanne Wood golli sedd Rhondda i Buffy Williams o'r Blaid Lafur

Pan ofynnwyd iddi am adroddiadau bod diffyg herio i arweinyddiaeth Adam Price, dywedodd Ms Wood nad yw hi'n rhan o redeg y blaid erbyn hyn ond ei bod yn "gobeithio nad dyna'r achos".

"Byddwn yn gobeithio'n fawr y byddai pobl yn barod i herio a gofyn cwestiynau," meddai.

"Weithiau, y cwestiynau mwyaf anodd sydd angen cael eu gofyn."

Ychwanegodd Ms Wood bod Mr Price yn "arweinydd da mewn nifer o ffyrdd ac rwy'n credu y dylai barhau [fel arweinydd]".

"Bydd angen llawer o gefnogaeth er mwyn ailadeiladu'r blaid ac ennill etholaethau, oherwydd os nad ydyn ni'n ennill etholaethau yna ni fydd annibyniaeth yn cael ei gyflawni."

'Angen siarad gyda phobl'

Ychwanegodd Ms Wood bod angen i'r adolygiad o ganlyniadau'r etholiad fod yn "seiliedig ar dystiolaeth".

"Mae angen i ni siarad gyda phobl sy'n pleidleisio," meddai.

"Mae gennym ni oll ein syniadau am beth sydd efallai wedi digwydd ond os nad ydyn ni'n siarad gyda phobl yn uniongyrchol a gofyn am eu syniadau a gwrando arnyn nhw yn iawn, yna mae'r cyfnod yma o edrych yn ôl am fod yn wastraff amser."