Etholiad 2021: Llafur yn cadw seddi pwysig ac yn cipio'r Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
mark drakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi wedi bod yn ddiwrnod da i Mark Drakeford a'i blaid

Mae'r Blaid Lafur yn nesáu at fuddugoliaeth yn Etholiad Senedd Cymru, wrth i'r canlyniadau barhau i gyrraedd.

Llwyddodd y blaid i gipio un sedd a chadw nifer o rai eraill yn eu cadarnleoedd.

Fe gipiodd y Ceidwadwyr un o'u seddi targed oddi ar Lafur, ond nid yw'r Torïaid Cymreig wedi gwneud cystal â'r disgwyl.

Roedd yna siom i Blaid Cymru ac i'w cyn-arweinydd, Leanne Wood, wrth i Lafur adennill y Rhondda.

Roedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol yno i Lafur, gyda Elizabeth 'Buffy' Williams yn ennill â mwyafrif o bron i 5,500.

Fe wnaeth Plaid Cymru ddal eu gafael ar Arfon, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn yn gyfforddus.

Ond methu oedd eu hanes yn eu seddi targed yn Llanelli ac Aberconwy.

Fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hunig sedd, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Mae'r Torïaid hefyd wedi cadw Sir Drefaldwyn, Preseli Penfro, a Gorllewin Clwyd.

Gyda 52 o'r 60 sedd wedi'u datgan, mae Llafur ar 30 gyda'r Ceidwadwyr ar 12, Plaid Cymru ar 9 a'r Democratiaid Rhyddfrydol ag un.

Mae'r holl ganlyniadau yn yr etholaethau wedi'u cwblhau, ond mae disgwyl i weddill y rhai rhanbarthol ddod ddydd Sadwrn.

Dywedodd arweinydd Llafur, Mark Drakeford y byddai'n "gwneud beth bynnag y gallaf ei wneud" i sicrhau bod gan Gymru lywodraeth "sefydlog a blaengar".

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru y byddai'n well ganddo fod mewn sefyllfa "lle mae gennym lywodraeth mwyafrifol sy'n gallu gorchymyn y camau y mae angen iddi eu cymryd ar lawr y Senedd".

Ychwanegodd: "Heb geisio gwneud rhuthro penderfyniad, byddwn yn cymryd cwpl o ddiwrnodau i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniad gorau y gallwn i Gymru."

Dywedodd Eluned Morgan ar raglen Etholiad S4C ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod "arbennig i'r Blaid Lafur ar ôl 22 mlynedd mewn grym".

Mae aelod Llafur Llanelli, Lee Waters - a gadwodd ei sedd ei hyn yn gyfforddus - wedi bod yn trafod effaith Mark Drakeford ar yr ymgyrch.

Mae Mr Drakeford ychydig yn "nerdy" ac yn "ddiflas", meddai Mr Waters, ond "diolch i Dduw amdano fe".

Ychwanegodd ei fod "yn sicr yn ased" i'r blaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol i Elizabeth 'Buffy' Williams a'r Blaid Lafur yn y Rhondda

Mae'r nifer a bleidleisiodd ledled Cymru yn sefyll ar 46%, sydd ychydig yn is na'r record o 46.3% yn etholiad cyntaf y Senedd ym 1999.

Ond mae'n sylweddol is na'r nifer sy'n pleidleisio ar gyfer etholiadau cyffredinol.

Wrth ymateb i fuddugoliaethau yn y Rhondda ac yn Llanelli, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones eu bod yn "ganlyniadau gwych".

Dywedodd bod yna ddau beth i gyfrif am hyn, sef y ffordd y mae Mark Drakeford wedi delio gyda'r pandemig a'r ffaith bod y blaid yn apelio at Gymreictod pobl ond nid o blaid annibyniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Janet Finch-Saunders a Darren Millar i gadw seddi Ceidwadol yn y gogledd-ddwyrain

Disgrifiodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake, y canlyniad yn y Rhondda fel un "torcalonnus" i'r blaid.

Er hynny, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, nad yw "erioed wedi cael ymateb mor gadarnhaol" gan bleidleiswyr.

Dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd pobl wedi gwrthod safbwynt y blaid ar annibyniaeth: "Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod [ymateb tuag at] annibyniaeth yn gadarnhaol."

Er gwaethaf dim enillion, dywedodd Mr Price fod y blaid wedi cynyddu ei chyfran o'r bleidlais.

Disgrifiad o’r llun,

Er bod Plaid Cymru yn cadw Dwyfor Meirionnydd, bydd Mabon ap Gwynfor yn wyneb newydd yn y Senedd

Ddydd Iau, bu trafferthion mewn nifer o orsafoedd pleidleisio gyda chiwiau hir o bobl yn aros am oriau i fwrw pleidlais.

Caeodd y blychau pleidleisio am 22:00 nos Iau, ond oherwydd y pandemig fe gafodd y broses gyfrif ei gohirio tan y diwrnod canlynol.

Bydd 60 Aelod o'r Senedd yn cael eu hethol, ynghyd â phedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Am y tro cyntaf roedd gan bobl 16 ac 17 oed bleidlais yng Nghymru, ond ar gyfer Etholiad y Senedd yn unig.