Rhybudd melyn am stormydd i rannau o dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
StormyddFfynhonnell y llun, Stephen Davies Photography

Mae rhybudd melyn am stormydd wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer ardaloedd yn ne-orllewin Cymru fore Mercher.

Bydd y rhybudd yn berthnasol rhwng 05:00 ac 11:00, ac yn effeithio ar ardaloedd yn Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mellt sy'n debygol o fod y prif berygl ond mae rhywfaint o law trwm a chenllysg hefyd yn bosib, gyda hyd at 20mm o law mewn cyfnod byr i rai ardaloedd.

Gallai'r mellt achosi difrod i adeiladau ac mae perygl y gall cyflenwadau trydan gael eu heffeithio.

Mae'r rhybudd hefyd yn crybwyll y gallai'r glaw trwm arwain at lifogydd mewn mannau, ac achosi oedi i drafnidiaeth ar y ffyrdd a rheilffyrdd.

Pynciau cysylltiedig