Llifogydd Sgiwen: Pentrefwyr yn 'byw uffern'
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i diffoddwyr gynorthwyo pobl i adael eu cartefi yn ystod y lligofydd
Mae pentrefwyr a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi ar ôl i siafft mwyngloddio tanddaearol ddymchwel yn dweud eu bod yn gorfod "byw uffern".
Gallai rhai orfod aros tan ar ôl y Nadolig cyn bydd modd dychwelyd adref i Sgiwen gydag eraill yn dweud bod ceisio cael help yr Awdurdod Glo yn "hunllef".
Dywedodd un ddynes bod ei phlentyn yn derbyn cwnsela oherwydd y trawma o gael ei achub.
Mae eraill yn dweud eu bod yn byw mewn ofn cyson y bydd rhagor o ddŵr yn dod o'r mynydd.
Bedwar mis ers i'r hen waith wthio dŵr allan o Fynydd Drumau, mae'r gwaith clirio yn parhau.
Yn ystod y dydd, mae sŵn y gwaith yn amlwg ar Heol Dinefwr.

Dywedodd Angela Jones, sy'n byw ar Heol Dinefwr yn Sgiwen, bod iechyd meddwl rhai o'r pentrefwyr yn 'diodde'
"Mae lorïau sy'n dod i gasglu'r llanast yma drwy'r adeg," meddai Angela Jones un o'r trigolion.
"Ond unwaith mae pump o'r gloch yn dod, mae hi fel y bedd. Does neb yn byw yma."
Bu'n rhaid i bobl adael bron i 30 o gartrefi ar ôl y llifogydd ar Ionawr 21 gyda nifer yn dal i aros mewn gwestai.
'Mae plant wedi diodde'
"Dyw e ddim yn teimlo fel cartref o gwbl," meddai Ms Jones sy'n poeni am iechyd meddwl rhai o drigolion Sgiwen.
"Maen nhw'n teimlo'n unig ac maen nhw'n teimlo wedi'u hanghofio ac mae'u hiechyd meddwl nhw yn diodde'.
"Mae plant wedi diodde' a dyw e ddim yn hawdd i gael help achos chi'n ffaelu gweld y doctor.
"Dy'n nhw ddim yn cysgu, maen nhw'n cael breuddwydion cas, maen nhw'n ffaelu ymlacio yn llwyr, achos mae'r tai ddim fel cartref, jest tai ydyn nhw," meddai.
Awdurdod Glo'n 'gwrthod cyfrifoldeb'
Mae Ms Jones yn dweud bod 'na feirniadaeth fawr yn yr ardal o ymateb yr Awdurdod Glo.
"Oes. Dyw pobol ddim yn hapus achos dy'n nhw ddim yn cymryd cyfrifoldeb am y llanast," meddai.
"Oedd y dŵr yn oren ac oedd e'n llawn pethau brwnt a cherrig, so oedd e ddim jest yn glaw, roedd e o'r mynydd a ddim o'r awyr."
Mae'r Awdurdod Glo'n gwrthod derbyn cyfrifoldeb am y difrod y tu mewn i eiddo.
Dywed yr awdurdod nad yw'r cyfrifoldeb i adfer siafftiau glofaol a datrys problemau dŵr tanddaearol yn cynnwys bod yn atebol mewn cysylltiad â llifogydd.
Mae'r awdurdod wedi rhoi taliadau o £500 tuag at ddeunydd a "maint rhesymol o lafur" er mwyn adfer pob eiddo.

Mae nant dros-dro yn dargyfeirio dŵr o Heol Drymau
Wedi pwysau gan bobl leol, mae rhai wedi derbyn mwy, hyd at £2,000 bellach, gan yr Awdurdod Glo, ac mae'r AS lleol, Stephen Kinnock, wedi galw ar y corff i "wneud y peth cywir yn foesol".
Mae Mr Kinnock wedi dweud nad yw'n deall rhesymeg yr Awdurdod Glo "nad ydyn nhw'n gyfrifol am ddŵr uwch ben y ddaear" gan alw hynny'n "absẃrd".
"Y rheswm y ffrwydrodd y dŵr i'r wyneb yw am iddo gronni mewn siafftiau sy'n gyfrifoldeb yr Awdurdod Glo," meddai.
Mae bron i 300 o siafftiau neu olion mwyngloddio ar draws gwaith mwyngloddio Sgiwen, sy'n cwmpasu ardal o tua 12 km sgwâr (7.6 milltir sgwâr).
Bob tro mae glaw trwm, mae trigolion yn poeni y bydd rhagor o lifogydd.
Mae'r Awdurdod Glo wedi dechrau'r gwaith o osod system rheoli dŵr yn ddwfn dan ddaear ac mae nant dros dro yn dargyfeirio dŵr o Heol Drymau.
Ar Heol Dinefwr, mae'r "Tea Shed" yn darparu paneidiau i'r "byddin fach" o weithwyr sy'n clirio'r stryd.
Fe gafodd y sied ei rhoi gan gwmni lleol ym mis Ionawr fel rhywle i drigolion gadw eu heiddo yno dros dro.

Ni fydd Liz Francis yn medru dychwelyd adref am 12 mis arall ar ôl y llifogydd yn Sgiwen ym mis Ionawr
Mae Liz Francis yn gwirfoddoli yn y sied ddwywaith bob wythnos.
"Mae fe'n dda i mi," meddai Liz, fu'n rhaid gadael ei chartref ddiwrnod y llifogydd.
"Roedd e'n ofnadwy. S'dim gair arall ond torcalonnus.
"Daeth y Mountain Rescue a dweud bod yn rhaid i ni fynd, a mynd yn syth."
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ail-gartrefu Liz a'i theulu mewn rhan arall o Sgiwen.
"Fi'n cael dyddiau da a dyddiau drwg, achos fi jest mo'yn mynd adre."
"Do'dd dim yswiriant 'da fi. Ddylen i wedi'i ga'l e, ond do'dd e ddim 'da fi.
"Ond pethe ydyn nhw, chi'n gallu prynu pethe newydd."

Bu'n rhaid i o leiaf 80 o bobl adael eu cartrefi pan lifodd y dŵr o'r hen siafft
Mae hi'n dweud bod dod i'r Sied De yn help i gadw mewn cysylltiad â'i chymdogion.
Serch hynny wedi misoedd mewn tŷ dros dro, mae'r pwysau yn dechrau dweud ar Liz.
"Sai'n cysgu," meddai. "Sai'n credu mod i wedi cysgu ers 21 Ionawr. Dyw 'mhartner i ddim yn cysgu yn iawn, na'r mab, a dyw'r ci ddim yn dda iawn.
"Ry'n ni gyd yn diodde' gyda'n iechyd meddwl."
Ond mae hi'n cydnabod bod ei chymdogion a'r gymuned ehangach wedi bod yn help mawr.
"Mae'r gymuned wedi bod yn wych ac rwy'n gobeithio y bydden ni'n gallu aros yn glos fel cymuned.
"Mae'n rhaid chwilio am bethau positif, ac mae hynny'n un o'r pethau da sydd wedi dod o'r uffern yma."
'Cydweithio gyda thrigolion'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Glo eu bod yn cydymdeimlo'n fawr gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio, a'u bod wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion wrth ddatblygu system rheoli dŵr.
"Tra nad yw'r Awdurdod â chyfrifoldeb am y llifogydd rydym yn cydnabod ei fod wedi cael effaith mawr ar nifer o gartrefi. Rydym wedi datblygu polisi i roi help ymarferol o fewn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n bodoli.
"Fel corff cyhoeddus rydym yn ymwybodol o'r angen i reoli arian cyhoeddus mor effeithiol â phosib, ar gyfer unrhyw waith rydym yn ymgymryd ag ef.
"Rydym newydd gwblhau clirio a glanhau gerddi ac mae ein timoedd nawr yn trefnu rhaglen waith atgyweirio tu allan i dai gyda phob un o'r trigolion."
"Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith ar y safle wedi gorffen erbyn diwedd Awst, ac rydym wedi sicrhau bod gan drigolion mynediad i'w cartrefi ers 6 Chwefror er mwyn caniatáu gwaith atgyweirio fynd rhagddo gan eu cwmnïau yswiriant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021