Teyrnged teulu wedi marwolaeth beiciwr modur
- Cyhoeddwyd
Mae teulu beiciwr modur fu farw wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Scott Adam Edwards, oedd yn 30 oed ac o ardal Wrecsam, wedi'r digwyddiad ar yr A494 rhwng Llanuwchllyn a Rhydymain, ger Dolgellau brynhawn Llun.
Dywedodd datganiad ar ran y teulu ei fod "yn fab eithriadol i'w fam, Wendy Tinsley a'i dad, Phil Edwards" ac yn frawd ac ewythr "annwyl".
Ychwanegodd y datganiad: "Roedd Scott yn dad rhagorol i'w ferch, Amaya, ac roedd yn meddwl y byd ohoni".
Dywedodd ei gymar, Faye: "Newidiodd fy mywyd er gwell y diwrnod wnes i gwrdd â thi. Byddaf yn dy garu am byth."
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A494 tua 15:15 ddydd Llun, 31 Mai.
"Hoffwn gydymdeimlo'n ddiffuant gyda theulu a ffrindiau Scott ar yr adeg anodd yma," meddai'r Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Plismona'r Ffyrdd.
"Rydym yn parhau i erfyn ar unrhyw un all fod â gwybodaeth all helpu'r ymchwiliad i gysylltu â ni yn syth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021