Y pandemig yn denu mwy i gyrsiau ymarfer dysgu
- Cyhoeddwyd
Dywed Llywodraeth Cymru fod y pwyslais ar addysgu yn ystod y pandemig, o bosib, yn denu mwy o bobl i fod yn athrawon.
Roedd nifer y rhai sy'n dewis gwneud ymarfer dysgu yn is am y chweched mlynedd yn olynol yn 2019-20 ond mae disgwyl i ffigyrau 2020-21 fod yn uwch.
Ond bydd y ffigyrau ddim yn cael eu cyhoeddi yn swyddogol tan fis Mai flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd fod "y pandemig wedi pwysleisio rôl arbennig athrawon a bod mwy yn gwneud ymarfer dysgu".
"Fe wnaeth y nifer a wnaeth ymgymryd â'r cwrs Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon godi yn sylweddol yn ystod y llynedd ac mae'n ymddangos bod mwy o ddiddordeb yng nghyrsiau ymarfer dysgu mis Medi."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dim ond 465 wnaeth gofrestru ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu uwchradd yn 2019-20 a hynny ar gyfer 1,006 o lefydd.
Roedd mwy wedi cofrestru ar gyfer y cyrsiau ymarfer dysgu cynradd - 615 ar gyfer 696 lle.
Dywed Mary van den Heuvel, uwch swyddog dysgu yn Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) ei bod yn credu bod y cyfnod clo wedi gwella delwedd dysgu ond ei bod yn rhy fuan eto i wybod yn iawn yr union effaith.
"Mae'n siomedig nad oes digon wedi cofrestru ar gyrsiau yn y gorffennol ond mae'r llynedd wedi dangos bwysigrwydd y proffesiwn i bawb yn y gymuned.
"Ry'n wedi cael rhieni yn edrych ar ôl plant adref ac mae cymaint wedi cael ei wneud i bwysleisio pwysigrwydd athrawon a sut y dylid eu cefnogi."
Ychwanegodd bod athrawon wedi gweithio'n galed yn ystod y llynedd ac wedi gorfod ymdopi gyda'r naid sylweddol o fynd i ddysgu ar-lein.
'Heriol ond gwych'
Dywed Bianca Alfieri sydd ar gwrs ymarfer dysgu uwchradd bod y pandemig wedi dangos iddi gymaint o bleser sydd mewn dysgu a'i bod yn annog unrhyw un i "fynd amdani"
Mae Miss Alfieri, 24, ar gwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac mae newydd gael swydd fel athrawes ddrama.
"Mae wedi bod yn heriol ond yn wych," meddai.
"Yn rhan gyntaf o'r cwrs roedd rhaid i fi ddysgu drama o bell - gan sefyll o flaen dosbarth yn fy ystafell wely. Roedd yn rhaid i fi a myfyrwyr eraill addasu.
"Rwy'n credu bod rhieni a gofalwyr yn fwy ymwybodol bellach gymaint yw llwyth gwaith athrawon. Mae yna lawer mwy o ddealltwriaeth."
'Mwy o barch i athrawon ers y cyfnod clo'
Mae Cerys Payne, 21, newydd gael ei swydd dysgu cynradd gyntaf wedi iddi gwblhau ei chwrs ym Mhrifysgol De Cymru.
Dywedodd: "Rwy'n credu bod hi wedi mor anodd i rieni ddysgu a gweithio o adref ac mae bellach mwy o barch i athrawon.
"Mae hi wedi dod i'r amlwg hefyd pa mor galed y mae athrawon yn gweithio a bod angen codi cyflogau."
Dywedodd Ms Payne ei bod yn gweithio 70 i 80 awr yr wythnos yn ystod ei chyfnod ymarfer yn yr ysgol. Er ei fod yn galed dywedodd ei bod yn swydd sy'n ennyn balchder.
"Mae gweld plentyn yn datblygu gydol y flwyddyn, yn enwedig mewn maes nad oedd gystal ynddo ar y dechrau, yn dangos sut mae rhywun yn medru gwneud gwahaniaeth.
"Y freuddwyd yw bod yn un o'r athrawon y mae plant yn ei gofio am byth."
Er mwyn cwrdd â'r gofyn o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 dywed Ms van den Heuvel ei bod hi mor bwysig bod y rhai sydd eisoes yn y proffesiwn yn datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd hefyd bod y cynlluniau i newid y cwricwlwm yng Nghymru o bosib yn cael peth effaith ar y proffesiwn.
"Mae hi mor bwysig fod pobl yn cael eu hysbrydoli a bod athrawon yn cael yr hawl i addasu'r cwricwlwm i ofynion eu hysgol.
"Rhaid sicrhau fod gennym bob dim i wneud hynny," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021