Ysgol yn ymddiheuro i ddisgyblion am gamdriniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol uwchradd fwyaf Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymddiheuro i gyn-ddisgyblion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan gyn-bennaeth celf dros gyfnod o 29 o flynyddoedd.
Bu Clive Hally'n dysgu yn Ysgol Gyfun Brynteg am 36 o flynyddoedd nes iddo ymddeol yn 2011.
Wedi i ddau berson gyflwyno cwynion, fe gafwyd hyd iddo'n farw, yn 67 oed, ar y diwrnod yr oedd disgwyl iddo ymweld â gorsaf yr heddlu ar fechnïaeth yn 2019.
Fe ddatgelodd ymchwiliad ar gais Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bod Hally wedi cyfaddef i rai o'r honiadau.
Mae pum dyn yn rhagor wedi cyflwyno cwynion ers hynny, sy'n berthnasol i'r cyfnod rhwng 1980 a 2009, medd Heddlu De Cymru mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ôl casgliadau ymchwiliad y cyngor roedd aelodau staff "wedi mynegi pryderon" ynghylch ymddygiad Hally.
Dywed yr adroddiad: "Roedd yna gyfleoedd ble y gallai uwch reolwyr yr ysgol fod wedi codi'r pryderon anffurfiol yma gyda swyddogion diogelu plant yr awdurdod lleol.
"Mae'r ffaith na ddigwyddodd hynny, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr."
Mae'r ysgol wedi cydnabod "dewrder y cyn-ddisgyblion a ddaeth ymlaen".
Ychwanegodd: "Mae Ysgol Brynteg yn cynnig ymddiheuriad llawn a diamod i bawb a gafodd eu heffeithio gan y sefyllfa ofidus eithriadol yma."
'Dyn afiach'
Un o'r cyn-ddisgyblion a gafodd eu cam-drin yw Mark Woods, sydd bellach yn 50 oed. Roedd Hally, meddai, "yn unigolyn afiach" a "drwg".
Dywedodd: "Fe dwyllodd lawer o bobl. Fe roddodd argraff o sut berson oedd e, a doedd e ddim felly o gwbl."
Gan roi blas o'r gamdriniaeth y dioddefodd, dywedodd Mr Woods: "Fe newidiodd o'r ystafell dywyll [ar gyfer ffotograffiaeth] i'r storfa. Fe ddigwyddodd unwaith yr wythnos, ddwywaith yr wythnos weithiau.
"Storfa'r glanhawr, hen dŷ bach, pethau gwirioneddol frwnt. Wrth edrych yn ôl, mae'n gwneud i chi deimlo'n wirioneddol sâl."
Dywed Mr Woods, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynteg rhwng 1982 a 1989, bod y tro cyntaf i Hally ei gam-drin, mewn ystafell dywyll ffotograffiaeth, yn teimlo fel edrych ar rywun arall yn mynd trwy'r un profiad.
"Daeth y golau coch ymlaen ac rwy'n ei gofio'n rhoi ei fraich amdana'i a fy nghusanu. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i ymateb."
Dywedodd Mr Woods, oherwydd ei gariad at gelf, yn teimlo'n "gaeth" gan nad oedd yn dymuno amharu ar ei wersi trwy achwyn.
'Plentyn ro'n i'
Mae'n sylweddoli erbyn hyn ei fod, trwy gadw'n dawel, "yn anfwriadol wedi ffurfio cytundeb rhyngom oedd yn galluogi Clive i barhau gyda'r gamdriniaeth".
Dywedodd: "Plentyn o'n i, a dydych chi ddim mo'yn cael eich hun mewn trwbl gyda'ch athro. Dydych chi ddim mo'yn y canlyniadau, ac roedd Clive Hally'n gallu mynd yn grac iawn."
Mae Mr Woods wedi ildio'i hawl i aros yn ddienw.
Fe wnaeth e a chyn-ddisgybl arall, oedd yn 13 oed adeg y gamdriniaeth, rannu eu profiadau gyda BBC Cymru ym Mehefin 2019.
Wedi i'r ddau fynd at yr heddlu, cafodd Hally ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Roedd i fod i ymweld â gorsaf yr heddlu ar 18 Mai 2019, ond fe gafwyd hyd iddo'n farw'r un diwrnod yng nghronfa ddŵr Cwmwernderi, ger Maesteg.
Cofnododd cwest yn Abertawe ganfyddiad o hunanladdiad.
Datgela ymchwiliad Cyngor Pen-y-bont-ar Ogwr i'r holiadau cyntaf godi yn 2018 a 2019, a bod Hally wedi cyfaddef i rai ohonyn nhw mewn cyfweliad gyda'r heddlu.
"Fe laddodd ei hun wrth aros am benderfyniad gan Wasanaeth Erlyn Y Goron a fyddai'n wynebu cyhuddiadau," medd yr adroddiad.
Gan nad oes gan y cyngor gofnod o unrhyw un yn codi cwynion neu bryderon diogelu, cafodd cwmni Servoca gomisiwn i gynnal ymchwiliad annibynnol.
Fe wnaeth y cwmni archwilio dros 100 o ddogfennau, cynnal 29 o gyfweliadau a chysylltu â dioddefwyr posib.
Daeth i'r casgliad bod "yn ôl pob tebyg, ac ar sail y dystiolaeth sydd ar gael... bod Mr Hally, cyn ymddeol yn 2011, wedi cam-drin ac ymddwyn yn amhriodol gyda nifer o ddisgyblion gwrywaidd rhwng 1980 a 2009".
Er bod yr holl staff o'r cyfnod wedi gadael, mae argymhellion yn cynnwys hyfforddiant o'r newydd o ran adnabod arwyddion camdriniaeth, ac ymwybyddiaeth ynghylch cyfrifoldebau codi pryderon.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywed yr ysgol bod penderfynu pam na chafodd pryderon eu codi ar lefel fwy ffurfiol yn cael ei gymhlethu wedi "cyfnod mor sylweddol o amser" a'r ffaith bod aelodau staff wedi gadael yr ysgol.
Dywedodd bod staff yn gweithio gyda swyddogion cyngor i weithredu'r argymhellion yn llawn.
"Mae camdriniaeth yn ystod plentyndod yn cael effaith ddinistriol ar les emosiynol a iechyd meddwl goroeswyr, ac i'w dewrder aruthrol y mae'r diolch bod gweithredoedd ffiaidd [Hally] wedi dod i'r amlwg yn y pen draw," ychwanegodd.
"Mae'r hyn a wnaeth Mr Hally'n parhau'n fater o bryder, tristwch enfawr ac edifeirwch i bawb... rydym yn benderfynol o wneud popeth posib i atal hyn rhag digwydd eto."
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland bod yr achos yn un "poenus iawn" ac fe gydymdeimlodd â'r dioddefwyr sydd wedi byw gyda'r effaith "am ddegawdau" mewn rhai achosion.
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd: "Mae'r achos hwn yn peri gofid mawr - oherwydd y cam-drin wrth gwrs, oherwydd pa mor hir oedd e'n parhau ac oherwydd doedd yr uwch dîm yn yr ysgol ar y pryd ddim yn ymateb i bryderon staff am yr ymddygiad.
"Dwi'n diolch i'r dynion sydd wedi codi ei lleisiau... mae'n glir bod effaith y cam-drin rhywiol yn fawr ar fywydau goroeswyr, ond dyw hi byth yn rhy hwyr i adrodd cam-drin.
"Mae'n amlwg bod y cam-drin yna yn digwydd yn ystod ac ar ôl ymchwiliad Clywch ac mae 'na lot o parallels rhwng ymddygiad y ddau ddyn.
"Felly mae'n siomedig iawn i ddarganfod nad oedd pryderon staff ar y pryd ddim yn cael eu clywed.
"Mae systemau wedi newid ar ôl Clywch - er maen nhw yn dal yn dibynnu ar bobl yn cydnabod yr ymddygiad cam-drin ac i ymateb i bryderon staff a phlant."
Dywedodd bod hi'n "hanfodol i bawb weithredu ar bryderon, waeth pa mor fach maen nhw'n ymddangos" a bod hi'n glir bod camau pendant wedi eu cymryd.
Ond rhybuddiodd bod "newid diwylliant yn broses sy'n parhau" a bydd yn cadw mewn cysylltiad gyda'r awdurdod lleol mewn cysylltiad â'r mater.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru brynhawn Iau bod "unrhyw fath o gamdriniaeth rywiol yn hollol annerbyniol" ac maen nhw'n annog pawb i fynegi unrhyw bryderon.
Mae'r llywodraeth, meddai, wedi cyflwyno "camau clir" mewn cynllun cenedlaethol "i atal cam-drin plant yn rhywiol, gwarchod plant sydd mewn perygl a chefnogi plant sydd wedi eu cam-drin".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019