'Mae'n bwysig gwahanu bywyd gwaith a bywyd cartref'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gyflogwyr ystyried effaith gweithio o adref ar iechyd meddwl os ydy gweithwyr yn parhau i wneud hynny, medd un academydd blaenllaw.
Yn ôl yr Athro Rhys Jones, o Brifysgol Aberystwyth, mae'r anallu i ddatgysylltu o fyd gwaith yn creu sefyllfa "na sydd bob tro yn iach".
Dywed Dr Jones "bod hi'n anos i gynnal y rhaniad 'na rhwng bywyd gwaith a bywyd cartref a bod yna oblygiadau o ran llesiant yr unigolyn".
"Mae'r ffaith eich bod chi wastad yn gysylltiedig â'ch gwaith a'ch bod chi byth yn gallu troi'r cyfrifiadur i ffwrdd yn llythrennol... yn creu sefyllfa sydd ddim yn iach bob tro," meddai.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod traean o staff (33.7%) wedi gweithio o adref yn 2020 - dros bedair gwaith yn fwy na'r hyn oedd yn gweithio adref (7.8%) cyn y pandemig.
I rai, mae'r hyblygrwydd o weithio o adref wedi bod yn fanteisiol.
Mae Haf Gardner wedi bod yn gweithio o adref ers dechrau'r pandemig. Cyn hynny am dair blynedd roedd hi'n teithio i Wrecsam i weithio i gwmni Moneypenny.
Dywedodd Haf: "I ddeud y gwir doeddwn i rili ddim wedi sylwi pa mor hir roeddwn i'n cymryd i deithio nôl ac ymlaen i'r gwaith bob wythnos ac mae pum awr yn swnio fel lot o amser ac yn anhygoel i fi.
"Mae hi 'di bod yn grêt ca'l yr amser extra yna adre achos ti'n gorffen, ti'n rhoi y cyfrifiadur i ffwrdd a ti adra yn gallu 'neud beth bynnag ti isio heb orfod dreifio adre."
Mae'r syniad o ddychwelyd i swyddfa brysur yn pryderu Haf rywfaint: "Dwi'n nerfus ond 'di'r dreifio ddim yn poeni fi er bod o'n neis cael yr hanner awr extra 'na yn y bore.
"Dwi 'chydig bach yn nerfus am fynd nôl i sefyllfa efo lot o bobl o gwmpas ond dwi'n gw'bod bod ni'n andros o lwcus bod Moneypenny yn gneud popeth i neud yn siŵr bod y sefyllfa gwaith yn un da."
Yn ôl yr Athro Rhys Jones, mae'ch agwedd chi tuag at weithio o adref yn dibynnu ar eich perthynas chi gyda'ch cartref.
"Os oes gan unigolion berthynas gadarnhaol gyda'u cartref ac mae'n nhw'n gweld eu cartref fel ryw fath o loches, lle diogel i ddianc iddo fe, yna fe allwn ni ddadlau bod treulio mwy o amser yn y cartref yn rywbeth cadarnhaol.
"Ond mae nifer o bobl wedi dadlau bod y cartref yn gallu bod yn le o waith caled, yn le o orthrwm ac o ormes - yn bendant yn draddodiadol i fenywod. Felly mae'r syniad o dreulio mwy o amser yn y cartref yn gallu bod yn rhywbeth heriol i rai unigolion."
Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y pandemig yn arwain at newid parhaol yn y ffordd rydym ni'n gweithio.
Maen nhw wedi dechrau treialon ar draws y wlad i greu hybiau "gweithio o bell", sef swyddfeydd lle gall gweithwyr logi desg am y diwrnod neu yn barhaol er mwyn cael y manteision o fod mewn swyddfa gymdeithasol, heb orfod teithio yn bell.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod 30% ohonom yn parhau i weithio o adref neu o bell yn y dyfodol er mwyn helpu canol trefi, lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon.
Dywed y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n arwain y prosiect, Lee Waters: "Beth mae'r pandemig wedi dangos i ni ydy bod cyfle i wneud pethau yn wahanol.
"Felly beth ry'n ni'n 'neud fel llywodraeth yw cynnal wyth o dreialon ar draws Cymru i wneud pethau yn wahanol... i helpu i gael mwy o bobl yn canol ein trefi, ac i helpu'r amgylchedd hefyd."
Yn Aberteifi, mae 'na gynllun tebyg ar waith yn barod. Mae grŵp cymunedol 4CG wedi bod yn darparu gofod swyddfa i weithwyr yn lleol ers blynyddoedd.
Ers y pandemig, mae Clive Davies, sy'n gynghorydd tre a sir yn ogystal â bod yn ymgynghorydd busnes rhan amser, wedi manteisio ar y gwasanaeth.
Roedd o'n teithio i Gaerfyrddin, sydd dros awr o siwrne, yn ddyddiol ond ar ôl gweithio o adref am gyfnod, penderfynodd y byddai yn well ganddo gael mwy o falans yn ei fywyd.
"Trueni bod e'n cymryd pandemig i newid y ffordd ry'n ni'n gweithio," meddai.
Mae Clive wedi ei argyhoeddi mai gweithio o bell ydy'r dyfodol ac mae yna fanteision nid yn unig i'w les o, ond i'r gymuned leol hefyd.
"'Dwi nawr yn gwario fy nghyflog yn Aberteifi, fy milltir sgwâr i. Dwi'n mynd i siopau lleol amser cinio yn enwedig... hefyd y tanwydd, a'r amgylchedd, dwi wedi safio tua £200 y mis ar danwydd a dwi'n ystyried os oes isio car arna'i oherwydd 'wi'n byw llai na milltir o'r swyddfa.
"Dwi'n meddwl bod pethau fel hyn yn gwella safon bywyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020